Dychwelyd ym mis Ionawr a mis Chwefror
6 Ionawr 2021
Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd 6 Ionawr.
Annwyl Fyfyriwr
Ers fy neges ddiwethaf, mae pethau wedi parhau i symud yn gyflym.
Cydweithio â Llywodraeth Cymru
Fe gyflwynwyd cyfnod clo newydd (lefel rhybuddio 4) yng Nghymru ar 19 Rhagfyr, ac fe gyflwynwyd cyfyngiadau ar yr un lefel yn yr Alban a Lloegr ddydd Llun 4 Ionawr. Fe gafodd y newid hwn ei gyflwyno mewn ymateb i nifer diweddaraf yr achosion yn ogystal â’r pryderon ynghylch amrywiad newydd o’r feirws. Eich iechyd a’ch lles, yn ogystal ag iechyd ein staff, yw ein blaenoriaeth o hyd ac mae’n sail i’r holl benderfyniadau yr ydym yn parhau i’w gwneud ynghylch ein campws yn ystod y pandemig.
Fe wnaeth is-gangellorion prifysgolion Cymru, gan gynnwys yr Athro Colin Riordan, gwrdd â Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg brynhawn ddoe i drafod y cynlluniau cyfredol ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd i Gymru ar gyfer eu hastudiaethau. Nid yw eu canllawiau wedi newid ac mae ein cynlluniau yr un fath o hyd. Fodd bynnag, mae lledaeniad amrywiad newydd y coronafeirws ledled y DU yn golygu bod rhaid i ni adolygu ein cynlluniau yn gyson.
Dychwelyd ym mis Ionawr a mis Chwefror
Dylech drefnu eich bod yn dychwelyd ychydig cyn i’ch sesiynau addysgu ar y campws ailddechrau. Bydd dychwelyd i Gaerdydd i barhau â’ch astudiaethau yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol dros deithio ar yn hyn o bryd.
Er y bydd rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb ym mis Ionawr (mewn rhaglenni iechyd neu ymarferol yn bennaf), ni ddisgwylir i’r rhan fwyaf ohonoch ddychwelyd i Gaerdydd tan ddechrau mis Chwefror. Mae hyn yn rhoi amser inni barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru ac eraill er mwyn adolygu sut byddwn yn croesawu myfyrwyr yn ôl yn raddol a’n cynlluniau profi, a’u newid os oes angen. Byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’ch dymuniadau, eich iechyd meddwl a’ch dyheadau ar gyfer y dyfodol wrth ddod i’n penderfyniadau.
O ran myfyrwyr ymchwil, nid oes gennym gynlluniau ar hyn o bryd i newid mynediad at gyfleusterau ar y campws. Mae ein campws yn ddiogel o hyd, gyda chymorth y mesurau rydym wedi bod yn eu datblygu ers mis Mawrth y llynedd.
Cefnogaeth ac aros yn ddiogel
Lle bynnag yr ydych chi, mae angen i ni i gyd barhau i ddilyn y mesurau diogelwch y mae’r llywodraeth a’r Brifysgol wedi’u rhoi ar waith. Mae’r disgwyliad hwn wedi’i nodi’n glir yn ein hymrwymiad cymunedol. Fel arfer, os ydych chi’n profi unrhyw un o’r symptomau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19), rhaid i chi ddilyn y canllawiau a hunanynysu.
Ein gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr yw eich pwynt cyswllt cyntaf o hyd er mwyn cael cefnogaeth. Mae gennym hefyd adnoddau hunangymorth ar gyfer rheoli pryder a heriau eraill. Mae TalkCampus yn wefan rhwydweithio cymdeithasol sy’n cynnig lle diogel i chi siarad yn ddienw am unrhyw beth sy’n peri pryder i chi.
Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad agos â’r llywodraeth ac awdurdodau iechyd, a byddaf yn eich diweddaru eto cyn bo hir.
Dymuniadau gorau
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr