Ewch i’r prif gynnwys

Addysgu wyneb yn wyneb, hunanynysu a brechiadau

7 Ionawr 2022

Claire Morgan is Pro Vice-Chancellor, Education and Students.
Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience, Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 6 Ionawr 2022.

Annwyl fyfyriwr,

Gobeithio y cawsoch chi’r cyfle i fwynhau ac ymlacio dros wyliau’r Nadolig, a Blwyddyn Newydd Dda!

Mae Cymru ar 'lefel rhybudd 2' ar ddechrau 2022. Mae hyn yn golygu bod cyfyngiadau ychwanegol ar waith - e.e. mewn mannau lletygarwch - ond nid ar gyfer Addysg Uwch.

Felly, bydd eich amserlen addysgu ar gyfer dechrau 2022 yn aros yr un fath i raddau helaeth, a byddwn yn parhau i addysgu wyneb yn wyneb os mai hynny sydd wedi'i drefnu. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i'ch trefniadau addysgu neu’ch profiad ehangach ar y campws ac, yn ôl yr arfer, dylech gadw golwg ar eich negeseuon ebost gan y Brifysgol yn rheolaidd. Mae hyn yn bwysig iawn os oes gennych sesiynau addysgu dros y pythefnos nesaf a/neu os ydych yn astudio ar safle Ysbyty GIG Parc y Mynydd Bychan.

Eich diogelwch chi, yn ogystal â diogelwch ein staff a'r gymuned ehangach, yw ein blaenoriaeth o hyd. Mae angen eich cymorth arnom o hyd i gefnogi'r mesurau diogelwch canlynol:

  • Cymerwch brawf COVID-19 cyn dychwelyd i Gaerdydd
  • Daliwch ati i wisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do ar y campws, gan gynnwys yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr (hyd yn oed pan fyddwch yn eistedd), oni bai bod gan eich cwrs ganllawiau gwahanol ar waith
  • Defnyddiwch ein Gwasanaeth Sgrinio COVID-19 drwy drefnu prawf pan fyddwch yn dychwelyd i Gaerdydd, a pharhau i drefnu profion wythnosol
  • Darllenwch y canllawiau hunanynysu diweddaraf i Gymru – maent yn newid yn rheolaidd a gallai’r rhain fod yn wahanol i ganllawiau mewn rhannau eraill o'r DU. Os oes rhaid i chi hunanynysu, rhowch wybod i ni drwy fewngofnodi i SIMS ar-lein a chael gwybod am y cymorth sydd ar gael i chi ar fewnrwyd y myfyrwyr
  • Defnyddiwch y codau QR wrth fynd i mewn i'r Llyfrgell a Chanolfan Bywyd y Myfyrwyr gan fod y rhain yn helpu i olrhain cysylltiadau. Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn ailagor ddydd Llun 10 Ionawrac yn cynnig cyfuniad o wasanaethau wyneb yn wyneb ac ar-lein yn ogystal â mannau astudio hyblyg, tra bod Llyfrgelloedd yn parhau i fod ar agor heb fod angen cadw lle astudio o flaen llaw, a heb gyfyngiadau ar fynediad i'r casgliadau
  • Ac yn olaf, os nad ydych eisoes wedi cael eich brechu'n llawn – dyma'r peth pwysicaf y gallwch ei wneud o hyd i amddiffyn eich hun ac eraill rhag COVID-19. Os gwnaethoch fethu eich apwyntiad i gael yr hwblyn dros y Nadolig, dylech gael apwyntiad arall erbyn 17 Ionawr 2022. Gallwch hefyd ofyn am apwyntiad drwy lenwi ffurflen Gadael Neb Ar Ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro neu gysylltu â nhw drwy ffonio +44(0)29 2184 1234.

Wrth gwrs, rydym yn parhau i fonitro'r canllawiau sy’n newid o hyd ar gyfer COVID-19, ac rydym yn barod os bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o gyfyngiadau ar waith. Bydd eu cyhoeddiad nesaf yfory (7 Ionawr), a byddwn yn anfon hysbysiad atoch drwy’r ap os bydd unrhyw beth yn y neges heddiw yn newid.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr