Ewch i’r prif gynnwys

Nadolig, arholiadau a chefnogaeth

6 Rhagfyr 2021

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 6 Rhagfyr.

Annwyl fyfyriwr

Wrth i wyliau’r Nadolig nesáu, rwy'n ddiolchgar bod y misoedd diwethaf ar y campws wedi bod yn rhai prysurach a mwy bywiog a bob pob un ohonoch chi wedi chwarae eich rôl wrth ein helpu i reoli COVID-19.

Mae Cymru ar 'lefel rhybudd 0' o hyd, mae nifer yr achosion yn parhau'n gymharol isel, ac er gwaethaf Omicron, sef yr 'amrywiolyn sy’n destun pryder' newydd, rwy'n obeithiol o hyd ein bod, wrth inni gyrraedd 2022, yn gallu cynnig profiad academaidd ac ehangach o lawer ichi tra eich bod yn fyfyriwr yn y Brifysgol.

Fodd bynnag, dim ond drwy gael eich cefnogaeth y gallwn barhau i fynd i'r cyfeiriad hwn. Mae’n rhaid i bob un ohonon ni gadw at y mesurau diogelwch sydd gennym ar waith, yn enwedig o ran gwisgo gorchuddion wyneb. Mae'n ofynnol eu gwisgo ym mhob lle cyhoeddus dan do ar y campws, ac ar ôl cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae hyn bellach yn cynnwys Canolfan Bywyd y Myfyrwyr (hyd yn oed pan fyddwch chi’n eistedd i lawr).

Teithio adeg y Nadolig

Mae’n rhaid ichi hefyd barhau i drefnu prawf wythnosol yn ein gwasanaeth sgrinio COVID-19, a hyd yn oed os na fyddwch chi’n defnyddio'r gwasanaeth hwn yn rheolaidd, rydyn ni’n eich cynghori'n gryf i drefnu prawf i sicrhau na fyddwch chi’n mynd â COVID-19 tra’n teithio adeg y Nadolig.

Mae ein gwasanaeth sgrinio yn cau ar 22 Rhagfyr, ond dylech chi drefnu prawf cyn 13 Rhagfyr rhag ofn y bydd cyfnod ynysu 10 diwrnod a chyrraedd adref o hyd mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr (gan ddibynnu ar ba mor bell y bydd yn rhaid ichi deithio!). Byddwn ni’n eich atgoffa hefyd ym mis Ionawr i ddefnyddio'r gwasanaeth unwaith eto, sef trefnu prawf COVID-19 arall erbyn ichi ddychwelyd i Gaerdydd.

Os nad ydych chi eisoes wedi cael eich brechu'n llawn, rydyn ni’n argymell eich bod yn ceisio cael dos cyntaf neu ail ddos cyn teithio.

Nadolig yng Nghaerdydd

Fodd bynnag, os byddwch chi’n aros yng Nghaerdydd yn ystod y Nadolig, mae gennym lawer o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys digwyddiadau tymhorol a phethau i'w gwneud yn y ddinas, cyngor ar ddiogelwch, a sut i gael gafael ar gymorth yn ystod y cyfnod hwnnw.

Arholiadau ac asesiadau

Byddwch chi’n gwybod eisoes am yr asesiadau y mae eich Ysgol wedi eu cynllunio, ac yn achos rhai bydd hyn yn cynnwys arholiadau. Bydd eich amserlen bersonol ar gyfer arholiadau yn cael ei chyhoeddi ar SIMS ar 6 Rhagfyr. Gallwch chi hefyd ddysgu rhagor am sut i wneud trefniadau eraill, paratoi ar gyfer eich arholiadau, cael gafael ar bapurau'r gorffennol yn ogystal â chymorth o ran eich lles ar y fewnrwyd.

Ar hyn o bryd, ni fydd astudio o bell ar gael bellach ar ôl diwedd semester un, a disgwylir i bob myfyriwr sy'n astudio o bell ar hyn o bryd fod yng Nghaerdydd i fynd i sesiynau addysgu wyneb yn wyneb o ddechrau semester dau (31 Ionawr 2022). Fodd bynnag, fel sy'n digwydd fel arfer, mae hyn yn cael ei adolygu'n gyson wrth i ganllawiau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU newid.

Rydyn ni’n gwrando arnoch chi

Diolch i'r 2,000 ohonoch chi a ddywedodd wrthon ni drwy Gipolwg Caerdydd sut yr oedd pethau ym mis Tachwedd. Mae eich adborth yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi'r profiad gorau posibl ichi yn y brifysgol, a’n bod yn gallu gwneud newidiadau yn seiliedig ar yr hyn rydych chi wedi'i ddweud wrthon ni.

Rydyn ni’n chwilio'n gyson am ffyrdd o wella eich profiad o fod yn fyfyriwr ac rydyn ni’n cyflwyno rhagor o gyfleoedd ichi rannu adborth. Cyn bo hir, byddwn ni’n gofyn ichi werthuso'r sesiynau addysgu a gawsoch chi yn ystod y tymor hwn drwy glicio ar Wella Modiwlau (gallwch chi ddod o hyd iddo drwy'r ffenestr naid yn Dysgu Canolog).

Bydd Cipolwg Caerdydd hefyd yn dychwelyd ar adegau allweddol yn y flwyddyn academaidd ac ym mis Chwefror, bydd Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn agor ar gyfer myfyrwyr israddedig yn y flwyddyn olaf. Ar ben y cyfleoedd hyn i roi adborth, byddwn ni’n parhau i weithio mewn partneriaeth â chi drwy ein Hyrwyddwyr sy’n Fyfyrwyr, ein Cynrychiolwyr Myfyrwyr a’n prosiectau partneriaeth di-rif.

Eich cefnogi chi

Gall misoedd y gaeaf fod yn gyfnod anodd i rai, ac os oes angen rhywun arnoch chi i siarad ag ef, rydyn ni yma i helpu. Gallwch chi naill ai gysylltu â Chyswllt Myfyrwyr ar-lein neu ymweld â ni yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Unwaith y bydd y Brifysgol wedi cau ar gyfer y Nadolig, byddwn ni’n parhau i roi ystod o gymorth, gan gynnwys:

Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar gau rhwng 24 Rhagfyr a 4 Ionawr. Fodd bynnag, gallwch chi gael gafael ar yr adnoddau hyn o hyd ar-lein. Byddwn ni’n rhannu rhagor o gymorth pellach yn ystod cyfnod y Nadolig drwy Newyddion Myfyrwyr.

Gan ddymuno gwyliau Nadolig pleserus a diogel ichi a Blwyddyn Newydd Dda – a chan edrych ymlaen at eich gweld yn 2022.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr