Ewch i’r prif gynnwys

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer mis Ionawr

4 Ionawr 2021

Claire Morgan yw Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience, Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd 4 Ionawr.

07/01/2021 - Rydym wedi penderfynu gohirio addysgu ar y campws ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni a symud i ddull addysgu ar-lein tan 22 Chwefror yn y lle cyntaf. Sylwch nad yw hyn yn effeithio ar drefniadau dychwelyd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y neges ddiweddaraf gan Claire Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg.

Annwyl Fyfyriwr

Gobeithio eich bod wedi cael gwyliau diogel a difyr dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ble bynnag yr oeddech chi.

Cyn y gwyliau, ysgrifennais atoch yn tynnu sylw at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y mis hwn, a'r cyfyngiadau 'rhybudd lefel pedwar' a ddaeth i rym yn llawn yng Nghymru 19 Rhagfyr.

Fel y dywedais ar y pryd, cofiwch nad yw hyn yn newid eich mynediad at addysg neu wasanaethau cymorth - byddwn yn parhau â'n dull dysgu cyfunol.

Mae ein canllaw ar gyfer y mis nesaf yn cefnogi mesurau Llywodraeth Cymru, felly cofiwch:

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i fyfyrwyr beidio â dychwelyd i’w llety yn ystod y tymor cyn 11 Ionawr oni bai bod angen gwneud hynny ar gyfer eu hastudiaethau neu er mwyn defnyddio cyfleusterau fel llyfrgelloedd. Os ydych chi wedi teithio i rywle ar gyfer y Nadolig/Blwyddyn Newydd, dylech gynllunio dychwelyd ychydig cyn i'ch addysgu personol ailddechrau. Fodd bynnag, gallwn gadarnhau eich bod yn gallu dychwelyd i Gaerdydd i barhau â'ch astudiaethau gan fod hyn yn ‘esgus rhesymol’ i deithio.
  • Rydym yn cynghori'n gryf eich bod chi'n trefnu apwyntiad gyda ein gwasanaeth sgrinio ar gyfer eich dychweliad nawr (nodwch tra bod Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at 'brofion llif unffordd' mae gan ein holl fyfyrwyr fynediad at ein profion mewnol ein hunain - mae hyn yn wahanol, a dim ond un prawf sydd ei angen). Hyd yn hyn mae dros 10,000 ohonoch wedi cadw lle i ddefnyddio'r gwasanaeth cyn teithio dros y Nadolig neu ddychwelyd ym mis Ionawr.
  • Ar ôl cael prawf ar ôl dychwelyd, gofynnir i chi beidio â chymdeithasu ag unrhyw un nes eich bod yn derbyn eich canlyniad - mae hyn yn cynnwys parhau i aros allan o gartrefi eich gilydd, lleihau'r bobl rydych chi'n cwrdd â nhw, cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo'n rheolaidd. Gallwch barhau i fynd i weithgareddau addysgu ar y campws neu leoliad gwaith yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r cyfyngiadau sydd bellach ar waith yng Nghymru hefyd yn golygu y dylai pobl adael eu cartref am resymau hanfodol yn unig, ac y bydd busnesau nad ydynt yn hanfodol ar gau am y cyfnod hwn. Byddwn yn parhau i adolygu hyn a byddwn yn cysylltu â chi pe bai unrhyw newidiadau gan Llywodraethau Cymru neu Deyrnas Unedig.

Mae ein holl gyngor ar gyfer mis Ionawr yma, ac mae manylion y lefelau rhybudd newydd yma.

Rwy'n dymuno'r gorau i chi ar gyfer eich asesiadau cyn bo hir, ac am y flwyddyn i ddod.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr