Ewch i’r prif gynnwys

Diweddariad ar ein cynlluniau ar gyfer mis Ionawr a mis Chwefror

7 Ionawr 2021

Claire Morgan is Pro Vice-Chancellor, Education and Students.
Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience, Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd 7 Ionawr.

Annwyl Fyfyriwr

Fel yr amlygais yn fy neges ddoe, rydym yn adolygu ein cynlluniau dychwelyd yn barhaus. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 ac yn gwneud penderfyniadau priodol yn sgîl yr amrywiad newydd.

Diweddariad ar ein cynlluniau ar gyfer mis Ionawr a mis Chwefror

Yn rhan o’r adolygiad parhaus hwn, rydym wedi penderfynu gohirio addysgu wyneb yn wyneb ar gyfer y rhan fwyaf o raglenni er mwyn addysgu ar-lein (ac eithrio rhaglenni ymarferol a’r rhai sy’n gysylltiedig ag iechyd lle mae angen gweithgaredd ar y campws i fodloni deilliannau dysgu’r rhaglenni) tan 22 Chwefror yn y lle cyntaf. Sylwch nad yw hyn yn effeithio ar fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n dychwelyd.

Rwyf yn sylweddoli y gall hyn ysgogi rhai pryderon newydd a pheri cryn ofid. Rydym wedi cytuno i gyflwyno’r newid hwn oherwydd yr ansicrwydd sylweddol a pharhaus ynghylch yr amrywiad newydd a sut mae’n trosglwyddo, a’r pryder y mae’n ei achosi ymhlith myfyrwyr a staff. Bydd eich ysgol mewn cysylltiad i roi rhagor o fanylion, gan gynnwys sut i gael mynediad er mwyn dysgu ar-lein a chadarnhau unrhyw newidiadau i’ch amserlen.

Os oes gennych weithgaredd addysgu wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau ar 11 Ionawr, bydd eich ysgol mewn cysylltiad yn fuan iawn.

Os oes gennych weithgaredd addysgu wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau ar 18 Ionawr, bydd eich ysgol mewn cysylltiad erbyn dydd Gwener, 15 Ionawr (fan bellaf).

Os hoffech ddychwelyd i Gaerdydd yn y cyfamser, mae ein campws, gan gynnwys ein preswylfeydd, llyfrgelloedd, lleoedd astudio ac adeiladau eraill, yn parhau i fod ar agor ac yn ddiogel oherwydd ein mesurau diogelwch esblygol.

Os ydych yn bwriadu teithio cyn bo hir, mae Llywodraeth Cymru (a’r DU) wedi cadarnhau bod teithio at ddibenion addysgol yn esgus rhesymol dros deithio.

Bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n rheolaidd fel ein bod yn gallu eich diweddaru ar y camau nesaf yn brydlon, a’ch hysbysu am y dyddiad sydd gennym mewn golwg ar gyfer ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb.

Eich cefnogi chi

Rydym yma ar eich cyfer ac yn gwneud popeth posibl i’ch helpu drwy wneud yn siŵr fod y gefnogaeth briodol ar gael. Mae hyn yn cynnwys:

Rydym yn parhau i weithio ar nifer o ffactorau ehangach, gan gynnwys rhwydi diogelwch ac ad-daliad posibl ar gyfer preswylfeydd. Cewch wybodaeth gennym am hyn yr wythnos nesaf.

Yn olaf, rwyf yn gwerthfawrogi nad oeddech wedi disgwyl y datblygiad hwn o bosibl. Fodd bynnag, gallwch fod yn dawel eich meddwl mai eich iechyd a’ch lles yw ein blaenoriaeth o hyd, ac ar sail hynny y byddwn yn parhau i wneud ein holl benderfyniadau angenrheidiol yn ystod y pandemig.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr