Ewch i’r prif gynnwys

Ymosodiad ar Wcráin a diweddariadau allweddol eraill

28 Chwefror 2022

Claire Morgan is Pro Vice-Chancellor, Education and Students.
Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience, Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 28 Chwefror.

Annwyl fyfyriwr

Rwy’n meddwl am bawb yng nghymuned ein prifysgol a allai fod wedi’u heffeithio gan y gwrthdaro yn Nwyrain Ewrop. Rydym yn cysylltu â'n holl wladolion o’r Wcráin a Rwsia sy'n astudio gyda ni ar hyn o bryd i gynnig ein cefnogaeth. Os ydych wedi eich effeithio’n uniongyrchol gan yr ymosodiad ar Wcráin a’r gwrthdaro sy’n mynd rhagddo, cysylltwch â Cyswllt Myfyrwyr.

Diweddariadau allweddol

Gan fod ein mesurau diogelwch COVID-19 ar y campws ar waith o hyd, mae'r campws yn brysur unwaith eto ac mae llawer gennych chi i’w wneud, rwy'n ysgrifennu atoch gyda neges fyrrach na’r arfer i roi’r newyddion diweddaraf allweddol:

  • Cael eich canlyniadau dros dro a deall eich marc: gan fod cyfnod arholiadau'r Hydref bellach ar ben, gallwch chi ddisgwyl cael eich canlyniadau asesu dros dro cyn pen pedair wythnos ar ôl eich asesiad. Bydd sut byddwch chi'n cael eich marc neu'ch adborth (e.e. drwy Ddysgu Canolog neu SIMS) yn dibynnu ar y math o asesiad rydych chi wedi’i gwblhau. Gall eich Ysgol helpu os nad ydych chi’n siŵr ble i edrych. Cofiwch, mae'r holl farciau'n rhai dros dro hyd nes iddyn nhw gael eu cadarnhau gan Fwrdd Arholi’r Ysgol. Os oes gennych chi bryderon am eich canlyniadau, cysylltwch â'ch Ysgol neu’ch Tiwtor Personol.
  • Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr bellach ar agor yn hirach: mae eich Canolfan bellach ar agor yn hirach yn ystod yr wythnos, ac ar ddydd Sadwrn hefyd. Wrth i Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Brifysgol nesáu ar 3 Mawrth, cofiwch mai Cyswllt Myfyrwyr (yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr) yw’r lle delfrydol i gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi.
  • Dewch draw i ddigwyddiadau Dyfodol Myfyrwyr: fydd hi byth yn rhy gynnar i feddwl am yr hyn y gallech chi ei wneud ar ôl graddio, ac mae gan dimau Dyfodol Myfyrwyr lawer o ddigwyddiadau ar y gweill yn ystod yr wythnosau nesaf i'ch helpu i ennill y sgiliau, y profiad a'r rhinweddau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw. Mae digwyddiadau'r wythnos hon yn canolbwyntio ar yrfaoedd cynaliadwy a dyfodol byd-eang. Os ydych chi’n chwilio am brofiad gwaith, mae llawer o dimau gwahanol ledled y brifysgol yn cynnig cyfleoedd â thâl a gwirfoddol fel ei gilydd.

Myfyrio ar Fis Hanes LHDT+

Yn ystod Mis Hanes LHDT+, rydw i wedi bod ar daith fel cyfaill i bobl LHDTQ+. Fel cyfaill a Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, rwy’n teimlo bod gennyf rôl i’w chwarae mewn darparu a hyrwyddo amgylchedd diogel a chynhwysol i’n myfyrwyr, cynnig clust gyfeillgar a gwrando ar yr heriau sy’n wynebu llawer o’r gymuned, yn ogystal â magu’r hyder i alw allan agweddau hen a digroeso. Rwyf hefyd eisiau bod yn rhan o ddathlu cymuned LHDTQ+ ein myfyrwyr a’n staff, ynghyd â hanes y mudiad LHDTQ+.

Dyma orffen drwy ddymuno Dydd Gŵyl Ddewi Hapus ichi yfory. 1 Mawrth yw diwrnod dathlu nawddsant, iaith, treftadaeth a diwylliant Cymru. Darllenwch ragor am y diwrnod, ei hanes, dysgwch rai ymadroddion yn Gymraeg a gweld pa ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr