Ewch i’r prif gynnwys

Addysgu wyneb yn wyneb, llais y myfyrwyr a Bywyd Myfyrwyr

31 Ionawr 2022

Claire Morgan is Pro Vice-Chancellor, Education and Students.
Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience, Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 31 Ionawr 2022.

Annwyl fyfyriwr,

Rwyf am ddechrau trwy eich croesawu i'r ail semester hwn. Mae Cymru, unwaith eto, ar 'lefel rhybudd 0', sy'n golygu y gallwn ddefnyddio ein holl fannau addysgu anghlinigol, gyda niferoedd llawn o ran capasiti, y semester hwn.

Rydyn ni'n gwybod eich bod yn wirioneddol gwerthfawrogi addysgu wyneb yn wyneb, a dysgu gyda chydfyfyrwyr, felly mae hwn yn gam pwysig, sydd i'w groesawu'n fawr. Er mwyn sicrhau ein bod ni i gyd yn dychwelyd i fywyd campws mewn modd sy’n ddiogel, rydym yn parhau i fod angen eich cymorth a chefnogaeth. Gofynnwn i chi:

  • Ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, gan wneud yn siŵr eich bod yn eich profi eich hun yn rheolaidd ar gyfer COVID-19 (gan ddefnyddio profion LFTPCR, neu ein Gwasanaeth Sgrinio), a’ch bod yn hunanynysu pan fo angen gwneud hynny
  • Barhau i wisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do, gan gynnwys mannau addysgu a dysgu, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr a’n Llyfrgelloedd
  • Roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich statws brechu
  • Fod yn ymwybodol o eraill o'ch cwmpas – nid pawb fydd yn gyfforddus â chael llai o fesurau diogelwch, a gall pellter corfforol dawelu meddwl pobl, ac mae pellter corfforol hefyd, yn dal i fod yn ffordd bwysig o atal y firws rhag lledaenu.

Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, cofiwch wneud defnydd o'r clinigau galw heibio ar gyfer brechu sydd wedi'u sefydlu yng nghanol y ddinas; mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Os nad ydych wedi derbyn eich dos cyntaf neu'ch ail ddos o frechiad COVID-19, neu os nad ydych wedi cael eich brechlyn atgyfnerthu, gall y staff yn y clinigau hyn eich helpu.

Sut ydych chi'n teimlo?

Er bod llacio cyfyngiadau COVID-19 yn newyddion i’w groesawu, rwy’n gwybod y gallai rhai ohonoch fod yn dal i deimlo’n flinedig, yn bryderus neu wedi eich llethu – yn enwedig gan fod cyfnod yr arholiadau newydd ddod i ben. Mae cymorth ar gael, a beth bynnag rydych chi'n ei deimlo, a beth bynnag yw’r rheswm am hynny, mae'r erthygl hon yn cynnig rhywfaint o gyngor ac yn eich cyfeirio at y gefnogaeth sydd ar gael. Os mai canlyniad eich arholiadau/asesiadau diweddar sy'n peri pryder, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i ddeall y broses farcio (ac eto, y cymorth sydd ar gael i chi).

Ydych chi wedi ymweld â'ch Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar ei newydd wedd?

Wrth inni ddychwelyd i weithio ar y campws, cofiwch fod Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar gael ichi, ac mae’n fan, i astudio, i ddefnyddio gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr, a llawer mwy. Os nad ydych wedi cael cyfle i ymweld â’r ganolfan eto, darllenwch beth yw barn ddiweddaraf ein myfyrwyr amdani a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael yno.

Bydd mwy a mwy o weithgarwch yn yr adeilad dros y misoedd nesaf, gan gynnwys gweithdai, digwyddiadau, a chyflogwyr Dyfodol Myfyrwyr. Am ragor o wybodaeth, ewch i’ch Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd yr adeilad a'n desg Cyswllt Myfyrwyr ar agor am gyfnodau hirach o amser, ac o 5 Mawrth ymlaen, bydd ar agor bob dydd Sadwrn.

Rydym yn gwrando...

Mae llawer o ffyrdd y gallwch roi adborth i ni ynghylch eich profiad prifysgol, gan gynnwys:

  • Y Cipolwg Caerdydd nesaf, sy’n agor ar 31 Ionawr
  • Rydym yn lansio Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) ar 7 Chwefror
  • a bydd Grwpiau Ffocws Wythnos Siarad a Gwella Modiwlau yn digwydd hefyd.

Mae eich ymatebion yn rhoi cyfle i ni wrando ar, myfyrio ar, ac ystyried eich barn. Lle bo'n bosibl byddwn yn gweithredu ar eich adborth, yn unol â'n hymrwymiad i wrando ar Lais y Myfyrwyr a gwella eich profiad myfyriwr.

Yn olaf, rwy'n gobeithio y bydd y semester sydd i ddod yn un didrafferth a chynhyrchiol i chi i gyd. Byddaf yn parhau i gadw mewn cysylltiad â newyddion a chyhoeddiadau pwysig. Rwy’n dymuno'r gorau i chi ar gyfer eich astudiaethau y semester hwn, ac yn gobeithio gweld nifer ohonoch dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr