Ewch i’r prif gynnwys

Canllawiau Llywodraeth Cymru ar ôl y Nadolig

18 Rhagfyr 2020

Claire Morgan is Pro Vice-Chancellor, Education and Students.
Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience, Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd 18 Rhagfyr.

Annwyl Fyfyriwr

Yn fy neges Nadolig addewais roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Ddydd Mercher, cyhoeddwyd y bydd Cymru yn cael ei rhoi o dan gyfyngiadau “lefel rhybudd pedwar” o ddydd Llun 28 Rhagfyr (ni roddwyd dyddiad gorffen eto). Sylwch nad yw hyn yn newid eich mynediad at addysg neu wasanaethau cymorth – byddwn yn parhau â’n dull dysgu cyfunol.

Os ydych chi’n aros yng Nghaerdydd dros y cyfnod hwn, ymgyfarwyddwch â’r mesurau newydd cyn iddynt ddod i rym o Noswyl y Nadolig.

Mae ein canllawiau presennol ar gyfer mis Ionawr yn cefnogi’r mesurau newydd hyn gan Lywodraeth Cymru, felly cofiwch:

  • Os ydych chi’n teithio i rywle ar gyfer y Nadolig/Blwyddyn Newydd, dylech gynllunio dychwelyd i Gaerdydd ychydig cyn i’ch addysgu personol ailddechrau. Er bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi na ddylech ddod yn ôl tan 11 Ionawr, os bydd eich cwrs yn cychwyn yn gynharach na hynny, neu os oes angen i chi gyrchu gwasanaethau fel ein llyfrgelloedd, gallwch ddychwelyd yn gynt.
  • Rydym yn cynghori’n gryf eich bod chi’n trefnu apwyntiad gyda ein gwasanaeth sgrinio ar gyfer eich dychweliad o dydd Llun 4 Ionawr. Nodwch tra bod Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at ‘brofion llif unffordd’ mae gan ein holl fyfyrwyr fynediad at ein profion mewnol ein hunain – mae hyn yn wahanol, a dim ond un prawf sydd ei angen. Hyd yn hyn mae dros 10,000 ohonoch wedi cadw lle i ddefnyddio’r gwasanaeth cyn teithio dros y Nadolig neu ddychwelyd ym mis Ionawr.
  • Ar ôl cael prawf ar ôl dychwelyd, gofynnir i chi beidio â chymdeithasu ag unrhyw un nes eich bod yn derbyn eich canlyniad – mae hyn yn cynnwys parhau i aros allan o gartrefi eich gilydd, lleihau’r bobl rydych chi’n cwrdd â nhw, cadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo’n rheolaidd. Gallwch barhau i fynd i weithgareddau addysgu ar y campws neu leoliad gwaith yn ystod y cyfnod hwn.
  • Yn olaf – mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn glir – ni ddylech fynd i bartïon Nos Galan gyda phobl nad ydych yn byw gyda nhw.

Mae’r cyfyngiadau newydd hefyd yn golygu y dylai pobl yng Nghymru adael eu cartref am resymau hanfodol yn unig, ac y bydd busnesau nad ydynt yn hanfodol ar gau am y cyfnod hwn. Fodd bynnag, gallwn gadarnhau eich bod yn gallu dychwelyd i Gaerdydd (os byddwch chi’n gadael dros y gwyliau) i barhau â’ch astudiaethau gan fod hyn yn esgus rhesymol i deithio.

Mae ein holl gyngor ar ddod yn ôl ym mis Ionawr yma, ac mae manylion y lefelau rhybudd newydd y bydd Cymru yn eu cyflwyno yma.

Rwy’n gobeithio eich bod chi i gyd wedi llwyddo i gael seibiant da, ac arhoswch yn ddiogel.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr