Ewch i’r prif gynnwys

Gadael, neu aros yng Nghaerdydd dros y Nadolig?

20 Tachwedd 2020

Christmas at Cardiff University

Gwybodaeth ac arweiniad i’ch helpu chi i gynllunio ar gyfer y Nadolig (yn dibynnu ar eich cwrs a’ch blwyddyn astudio)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau manylion pellach ynghylch y Nadolig, gan gynnwys trefniadau teithio i fyfyrwyrI gydymffurfio â’r arweiniad hwn, bydd addysgu wyneb yn wyneb y rhan fwyaf o raglenni yn dod i ben ar 7 Rhagfyr, ac yn symud ar-lein ar gyfer gweddill y tymor hwn.  

Sylwer y bydd rhai rhaglenni’n parhau i gael eu haddysgu ar y campws tan 18 Rhagfyr. Mae ein campws yn ddiogel o hyd, gyda chymorth y camau rydym wedi’u rhoi ar waith. Mae achosion o drosglwyddo’r feirws ar y campws yn isel iawn o hyd, ac rydym yn diweddaru nifer yr achosion bob dydd yma.

Bydd y canllawiau a ddilynwch yn dibynnu ar eich cwrs a'ch blwyddyn astudio, a bydd eich Ysgol yn cadarnhau gyda chi'n uniongyrchol pa ganllawiau y gallwch eu dilyn. 

Os ydych yn bwriadu gadael Caerdydd:

  • Os bydd eich ysgol yn cadarnhau bod hyn yn ymarferol ar gyfer eich cwrs, bydd eich addysgu yn symud ar-lein am weddill y tymor hwn. Bydd hyn yn eich galluogi chi i deithio cyn diwedd y semester ac o fewn cyfnod caniatáu teithio Llywodraeth Cymru.
  • Gallwch ddefnyddio ystod o adnoddau i’ch helpu chi i fanteisio i’r eithaf ar astudio o bell yn ystod y cyfnod hwn.
  • Os nad ydych yn dangos symptomau’r coronafeirws (COVID-19), gallwch drefnu apwyntiad yn ein gwasanaethau sgrinio. Gall cymryd y prawf hwn eich helpu i benderfynu a yw’n bosibl teithio’n ddiogel. Rydym wedi agor canolfan brofi newydd yn Undeb y Myfyrwyr er mwyn caniatáu i gynifer ohonoch ag sy’n bosibl gael prawf.
  • Yn ddelfrydol, dylech gymryd y prawf 2-3 diwrnod cyn sesiwn addysgu wyneb yn wyneb olaf y tymor (lle bo’n berthnasol). Nifer cyfyngedig o apwyntiadau sydd ar gael. Gallwch drefnu apwyntiad gyda’r gwasanaeth sgrinio yma.
  • Ar ôl i chi gael eich prawf, byddwch yn cael eich canlyniadau o fewn 72 awr. Gan gymryd y byddwch yn cael canlyniad negyddol, dylech gynllunio i deithio’n syth ar ôl hynny.
  • Fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu teithio:
    • os ydych yn cael canlyniad positif, a fydd yn gofyn i chi hunanynysu a gwneud cais am brawf GIG Cymru
    • os oes rhywun yn eich cartref yn cael prawf positif, bydd angen i chi hunanynysu hefyd.
  • Wrth aros am eich canlyniad sgrinio, rhaid i chi barhau i ymddwyn yn synhwyrol a chydymffurfio â’r camau diogelwch i leihau’r tebygolrwydd o ddal y feirws ar ôl i chi gael y prawf.
  • Cofiwch – bydd y gwasanaeth profi yn cadarnhau os oes gennych y coronafeirws (COVID-19) ar adeg benodol. Os nad ydych yn llwyddo dilyn y camau diogelwch, er enghraifft, cyn neu ar ôl i chi gael y prawf, mae’n bosibl cael canlyniad negyddol a dal neu gario’r feirws o hyd.
  • Mae canllawiau teithio’n amrywio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r canllawiau yn y lleoliad rydych yn mynd iddo. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar deithio'n ddiogel eisoes ar gael, gan gynnwys rhannu car gyda myfyrwyr eraill.

Os ydych yn aros yng Nghaerdydd dros wyliau’r Nadolig:

  • Bydd cefnogaeth ar gael i chi drwy’r amser, a darperir rhagor o fanylion ym mis Rhagfyr. Er mwyn ein helpu i gynnig cefnogaeth dros y cyfnod hwn, rhowch wybod i ni eich bod yn aros yng Nghaerdydd trwy SIMS.
  • Yn nes at yr amser, byddwn hefyd yn rhannu awgrymiadau o ran sut y gallwch dreulio’r Nadolig a’r flwyddyn newydd yng Nghaerdydd (ac yn dibynnu ar arweiniad y Llywodraeth, yng Nghymru) – cadwch lygad ar Newyddion i Fyfyrwyr a Digwyddiadau i gael rhagor o wybodaeth.
  • Bydd y gwasanaeth sgrinio ar gael i fyfyrwyr (a staff cymwys) tan 15 Rhagfyr (Dydd Llun i ddydd Iau).
  • Os ydych yn fyfyriwr o’r UE, AEE neu’r Swistir, rydym yn deall y gallech fod eisiau aros yng Nghaerdydd (neu Gymru) o ystyried cyfnod pontio Brexit a’r newidiadau o 31 Rhagfyr. Wrth i ddiwedd y cyfnod pontio agosáu, mae cymorth a chyngor i’n myfyrwyr o’r UE ar gael yma.

Beth bynnag yw eich cynlluniau, parhewch i ddilyn arweiniad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.