Cynllunio ar gyfer y Nadolig
11 Tachwedd 2020

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd heddiw (11 Tachwedd) ynghylch cynlluniau'r Brifysgol ar gyfer cyfnod y Nadolig.
Annwyl Fyfyriwr,
Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn. Fodd bynnag, os ydych yn cael unrhyw drafferth ynghylch eich astudiaethau neu’ch iechyd a’ch lles, cofiwch ddefnyddio’r gefnogaeth sydd ar gael.
Yn dilyn diweddariad Llywodraeth Cymru heddiw am wyliau’r Nadolig, ysgrifennaf atoch gyda manylion cychwynnol ar sut rydym yn paratoi ar gyfer y cyfnod hwn. Ein nod yw sicrhau bod modd i chi fynd adref yn ddiogel os hoffech wneud hynny, a’ch bod yn deall eich risgiau o ran y coronafeirws (COVID-19) a sut i’w lleddfu.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gadarnhau:
- Sut mae modd i fyfyrwyr ddefnyddio ein gwasanaeth profi i bobl heb symptomau, os hoffent gael prawf coronafeirws (COVID-19) cyn teithio adref
- Pa gyrsiau neu flynyddoedd astudio all barhau ar-lein os yw myfyrwyr yn penderfynu gadael cyn diwedd y tymor
- Y mesurau cymorth fydd ar waith dros gwyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i fyfyrwyr fydd yn aros yng Nghaerdydd.
Mae ein campws yn dal i fod ddiogel o ran y coronafeirws (COVID-19). Bydd llyfrgelloedd yn parhau ar agor, ac rydym eisoes yn gwybod ei bod hi’n debygol y bydd sawl rhaglen fydd yn parhau i gynnal gweithgareddau addysgu wyneb yn wyneb yn ystod ychydig wythnosau olaf y tymor (enghreifftiau posibl yw darpariaeth glinigol a labordai, ac ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir wnaeth ddechrau ym mis Tachwedd).
Rydym yn gweithio’n agos gydag Ysgolion i gadarnhau pa opsiynau fydd ar gael i chi, yn dibynnu ar eich cwrs neu lefel astudio, a byddwn yn cysylltu â chi gyda diweddariad arall yn Newyddion Myfyrwyr maes o law.
Yn y cyfamser:
- Os hoffech fynd adref ar gyfer y Nadolig heb roi pobl eraill mewn perygl, mae’n hanfodol nad ydych mewn cyswllt â gormod o bobl, dilynwch y mesurau diogelwch a dilynwch y canllawiau. Yn anffodus, mae hyn yn dal i olygu dim partïon, ac osgoi digwyddiadau mawr. Daeth canllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar ôl y toriad tân i rym yr wythnos hon, ac yn unol ag ymrwymiad cymunedol ein Prifysgol, dylech fod yn gyfarwydd â nhw.
- Cofiwch bydd yr helynt o deithio adref ar gyfer y Nadolig yn edrych yn wahanol iawn eleni, a phan fo’n briodol, dylech gynllunio eich taith yn ofalus. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar deithio’n ddiogel eisoes ar gael, gan gynnwys rhannu car gyda myfyrwyr eraill. Cofiwch y gall canllawiau’r coronafeirws (COVID-19) amrywio, felly sicrhewch eich bod chi’n gwybod am reolau’r cyrchfan.
- Rydym yn parhau i gyhoeddi ein achosion dyddiol ar-lein – ac rwy’n falch o weld nifer yr achosion yn gostwng ymhlith ein myfyrwyr. Fodd bynnag, cofiwch os oes gennych symptomau’r coronafeirws (COVID-19), neu’n derbyn canlyniad positif gan y gwasanaeth profi, dylech hunanynysu a gwneud cais am brawf coronafeirws (COVID-19) GIG Cymru. Darllenwch ein tudalennau cymorth i fyfyrwyr sy’n hunanynysu.
Yn olaf, os na welsoch chi’r sesiwn holi ac ateb rhwng yr Is-Ganghellor a finnau ac Undeb y Myfyrwyr, gallwch wylio’r recordiad. Roedd hi’n wych clywed eich adborth, ac yn braf i ni allu rhoi atebion i rai o’ch cwestiynau. Diolch yn fawr eto i bawb wnaeth ddod a chymryd rhan.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr