Ewch i’r prif gynnwys

Y Nadolig - y camau nesaf beth bynnag fo’ch cynlluniau

18 Tachwedd 2020

Christmas Update

Fel yr amlygwyd yn ein neges fwyaf diweddar gan Claire Morgan, y Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, rydym yn ceisio cadarnhau trefniadau ar gyfer cyfnod y Nadolig yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

I gydymffurfio â’r arweiniad hwn, bydd y rhan fwyaf o’n cyrsiau yn symud ar-lein am weddill 2020 o ddydd Llun 7 Rhagfyr (bydd eich ysgol yn cadarnhau pa gyrsiau/blynyddoedd astudio mae hyn yn berthnasol iddynt).

Yn Newyddion i Fyfyrwyr yr wythnos nesaf (dydd Llun 23 Tachwedd), byddwn yn cynnwys manylion am sut i drefnu prawf coronafeirws (COVID-19) cyn i chi deithio. Bydd hyn yn eich helpu chi i wneud penderfyniad gwybodus, gan ystyried eich diogelwch chi a’r gymuned ehangach. Bydd modd i chi drefnu prawf o ddydd Llun 23 Tachwedd ar gyfer apwyntiad rhwng 30 Tachwedd a 9 Rhagfyr. 

Sylwer nad ‘terfyn amser’ yw hwn - mae’n golygu y bydd gan y rhai sy’n profi’n bositif ddigon o amser i hunanynysu a theithio’n ddiogel o hyd.

Cewch y prawf drwy ein gwasanaeth sgrinio mewnol. Byddwn yn agor canolfan brofi ychwanegol yn Undeb y Myfyrwyr i wneud yn siŵr y gallwn brofi cynifer o fyfyrwyr ag sy’n bosibl cyn iddynt deithio. Cofiwch – peidiwch â mynd i apwyntiad os oes gennych symptomau’r coronafeirws (COVID-19). 

Bydd y gwasanaeth profi yn cadarnhau os oes gennych y coronafeirws (COVID-19) ar adeg benodol. Os nad ydych yn llwyddo dilyn y mesurau diogelwch, er enghraifft, cyn neu ar ôl i chi gael y prawf, mae’n bosibl cael canlyniad negyddol a dal neu gario’r feirws o hyd.

Bydd eich ysgol yn cysylltu â chi maes o law i gadarnhau’r dyddiad addysgu wyneb yn wyneb olaf (lle bo’n berthnasol). Bydd hyn yn sicrhau bod gennych y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad ac i ddechrau meddwl am eich cynlluniau cyn Newyddion i Fyfyrwyr yr wythnos nesaf.

Ar yr un pryd, rydym yn gweithio ar gefnogaeth ychwanegol i’n holl fyfyrwyr sy’n aros yng Nghaerdydd dros y cyfnod hwn, yn ogystal â chyngor am sut y gallwch dreulio’r Nadolig a’r flwyddyn newydd yng Nghaerdydd (ac yn dibynnu ar ganllawiau’r Llywodraeth, yng Nghymru).