Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Gwybodaeth
Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn gartref i'n gwasanaethau cymorth diduedd a chyfrinachol am ddim. P'un a ydych chi'n chwilio am gyngor ar gyllid, help gyda'ch iechyd a'ch lles, neu wybodaeth am yrfaoedd a chyflogaeth, mae ein timau Bywyd Myfyrwyr wrth law i helpu.
Ar ben hynny, bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cynnwys ein darlithfa fwyaf newydd a’r un fwyaf o ran maint, a llawer o leoedd astudio cymdeithasol dros bum llawr. Mae'r adeilad ar gyfer pob myfyriwr, wedi'i gynllunio gyda'ch profiad mewn golwg.
Yn ystod y tymor mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar agor:
- Dydd Llun i ddydd Gwener 08:00 - 22:00
- Dydd Sadwrn 08:00 - 20:00
- Dydd Sul 10:00 - 20:00
Gwybodaeth Hygyrchedd
Mae'r ddau lifft yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr allan o wasanaeth ar hyn o bryd. Os oes angen cymorth pellach arnoch, siaradwch ag aelod o'r tîm yn y ddesg Cyswllt Myfyrwyr ar y llawr gwaelod. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.
Parcio
Mae gennym amrywiaeth o drefniadau hyblyg ar gyfer parcio staff and pharcio myfyrwyr ar yr campws.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae 62 o leoedd parcio beiciau ar gael. Mae hyn yn cynnwys 8 rhesel Beiciau Sheffield, a 54 o fannau beic fertigol.
Cyfleusterau newid a chawodydd
Mae pedwar cawod i ddynion, tri chawod i fenywod, un cawod hygyrch ac un
Toiled Changing Place’ ar gael ar y llawr gwaelod.
Lleoliad ffynhonnau yfed
Helpwch ni i ostwng nifer y poteli plastig untro drwy ail-lenwi eich potel ddŵr yn un o'n ffynhonnau yfed:
- Llawr gwaelod - Pen gogleddol yr adeilad
- Llawr 1af - Pen gogleddol yr adeilad
- 2il lawr - Pen gogleddol yr adeilad
- 3ydd llawr - Pen gogleddol yr adeilad
- 4ydd llawr - Pen gogleddol yr adeilad
Ystafelloedd cyfarfod
Enw | Capasiti | |||
---|---|---|---|---|
Darlithfa Syr Stanley Thomas OBE | 550 | Rhagor o fanylion | ||
|