Ewch i’r prif gynnwys

Poeni ynghylch COVID-19?

12 Tachwedd 2021

Mae’n bwysig eich bod yn ceisio cyngor os ydych yn teimlo’n sâl, yn enwedig os ydych yn poeni ynghylch y coronafeirws (COVID-19). Mae help ar gael i chi, a dylech gael y driniaeth sydd ei hangen arnoch ac unrhyw gymorth ychwanegol cyn gynted â phosibl.

Beth yw eich symptomau?

Pan fyddwch yn teimlo’n sâl, dylech ddefnyddio gwiriwr symptomau ar-lein neu linell gymorth 111 (ffoniwch 111) y GIG yng Nghymru i ddechrau. Rydych yn dewis eich symptomau o restr A i Z ac yn ateb cyfres o gwestiynau. Ar ôl hynny, byddwch yn cael gwybod pa gamau y mae angen i chi eu cymryd. Mae'r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Gallwch ei ddefnyddio i gael gwybod ar frys pa wasanaethau y dylech eu defnyddio neu sut i reoli gwaeledd neu gyflwr. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i geisio gofal brys y tu allan i oriau.

Symptomau COVID-19

Symptomau cyffredin COVID-19 yw tymheredd uchel, peswch newydd a pharhaus a cholli/newid yn eich gallu i arogli neu flasu. Mae symptomau eraill hefyd y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.

Os oes gennych unrhyw rai o symptomau COVID-19, dylech hunanynysu a threfnu cael prawf COVID-19 y GIG ar unwaith. Tra byddwch yn aros am ganlyniadau eich prawf, bydd yn rhaid i chi hunanynysu.

Gall ein hadnodd sy’n rhoi cyngor ar COVID-19 eich helpu i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am drefnu cael prawf COVID-19 y GIG a chanllawiau ar hunanynysu i chi a’ch aelwyd.

Rhoi gwybod i ni am ganlyniad prawf COVID-19, unrhyw symptomau sydd gennych neu eich bod yn hunanynysu

Defnyddiwch SIMS i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich sefyllfa, er mwyn i ni allu sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch.

Pan fyddwch wedi mewngofnodi i SIMS, byddwch yn gweld tasg i roi gwybod am ganlyniad prawf positif neu symptomau. Cwblhewch y dasg i roi gwybod i ni beth yw eich statws presennol. Gallwch gwblhau’r dasg cymaint o weithiau ag sydd ei angen arnoch.

Sgrinio ar gyfer COVID-19

Mae oddeutu un o bob tri o bobl â COVID-19 yn asymptomatig, ond gallant drosglwyddo’r feirws i bobl eraill o hyd. Mae cael eich sgrinio yn y Brifysgol yn ffordd o sicrhau nad oes gennych y feirws heb i chi sylweddoli. Mae gennym ein gwasanaeth sgrinio ein hunain, a gallwch drefnu apwyntiad mor aml ag y dymunwch. Os byddwch yn cael canlyniad prawf positif ac yn hunanynysu, mae’n helpu i dorri’r gadwyn drosglwyddo ac yn atal y feirws rhag lledaenu.

Cofrestru â meddygfa

Os nad ydych wedi mynd ati eto i gofrestru â meddygfa neu gysylltu â'ch meddygfa bresennol i ddiweddaru eich manylion cyswllt, dylech wneud hynny er mwyn i chi allu cael gofal yn rhwydd os bydd angen.

Rhoi gwybod i rywun os byddwch yn teimlo'n sâl

Os byddwch yn teimlo'n sâl, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i rywun – cadwch mewn cysylltiad â ffrindiau, perthnasau, staff neu ddarparwr eich llety i sicrhau bod rhywun yn gofalu amdanoch ac yn gallu eich cefnogi.

Mae’r Tîm Iechyd a Lles Myfyrwyr ar gael i'ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol. Felly, ystyriwch y gwasanaethau, y wybodaeth a'r digwyddiadau sydd ar gael.