Ewch i’r prif gynnwys

Y flwyddyn academaidd nesaf, Cipolwg Caerdydd, gweithdrefn gwyno, eich cefnogi chi

21 Mai 2021

Claire Morgan is Pro Vice-Chancellor, Education and Students.
Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience, Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd ar 21 Mai.

Annwyl Fyfyriwr

Cyn y cyfnod arholi ac asesu, hoffwn fod y cyntaf i ddymuno pob lwc i chi. Mae gennym rai awgrymiadau ynghylch sut i ymdopi yn ystod y cyfnod hwn, ac os ydych chi'n cael brechiad COVID-19 tua'r un amser, ystyriwch sut y gallai effeithio ar eich gallu i gael eich asesu.

Ddydd Llun, fe gyflwynwyd 'lefel rhybudd 2' yng Nghymru, ac er bod hyn yn golygu mwy o gyfleoedd ar gyfer hamdden, cofiwch ganllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chymysgu ag aelwydydd eraill:

  • "Nid yw’r rheolau yn caniatáu i ni gwrdd yn gymdeithasol â phobl o aelwyd arall yng nghartref rhywun arall, oni bai bod yr aelwyd yn rhan o'ch aelwyd estynedig. Mae hyn am ei fod yn cynyddu'r risg o ledaenu'r feirws yn sylweddol."
  • "Caniateir i hyd at chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant dan 11 oed o aelwydydd neu ofalwyr aelod o'r aelwydydd hyn) gwrdd yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat a lleoedd awyr agored preifat."

I fyfyrwyr mewn neuaddau preswyl, mae'r canllaw hwn yn parhau i olygu na chaniateir partïon cegin nac ymgynnull mewn mannau cymunedol - ac ni chaniateir i fwy na chwech o bobl ymgynnull yn yr awyr agored ychwaith. Yn olaf, hoffwn eich atgoffa i gario'ch cerdyn adnabod myfyriwr a'ch cerdyn adnabod preswylfeydd (os oes gennych un) bob amser er diogelwch pawb.

Y flwyddyn academaidd nesaf

Rwy'n ymwybodol bod sylw diweddar yn y cyfryngau wedi peri pryder i rai ohonoch. Hoffwn bwysleisio ein bod wedi nodi ein cynlluniau cyfredol ar gyfer 2021 i helpu myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr i ddeall sut allai ein campws edrych ym mis Medi. Fodd bynnag, gall hyn newid wrth gwrs yn dibynnu ar y pandemig, a chanllawiau dilynol Llywodraeth Cymru.

Gobeithio y gallwch chi i gyd werthfawrogi bod pob sector, gan gynnwys ein sector ni, yn ceisio cydbwyso'r lefel hon o ansicrwydd ochr yn ochr â blaenoriaethu diogelwch. Er bod cyfyngiadau yn llacio yn y DU ar hyn o bryd, byddwch yn ymwybodol fod pryderon cynyddol hefyd ynghylch amrywiadau newydd o’r feirws. O gofio y gallai cyfyngiadau amrywio unwaith eto ledled y DU, byddwn yn gorfod cadw at arweiniad Llywodraeth Cymru.

Mae’r sefyllfa y byddwn ynddi ym mis Medi 2021 yn cael ei hadolygu'n gyson. Pan fydd yn newid, chi (a’n staff) fydd y cyntaf i gael gwybod - nid y cyfryngau.

Cipolwg Caerdydd - beth sydd wedi newid?

Diolch i'r 6,628 o fyfyrwyr a rannodd eu barn trwy arolwg Cipolwg Caerdydd mis Ebrill. Teclyn ar-lein yw’r arolwg hwn sy'n caniatáu inni gael adborth yn gyflym gan fyfyrwyr ar eich profiad yn y Brifysgol ar hyn o bryd.

Mae eich barn eisoes yn helpu i ddylanwadu ar newid go iawn. Bob mis, rydym yn rhannu canlyniadau â'ch Ysgolion ac aelodau allweddol eraill o'r Brifysgol. Mae hyn yn ein helpu i wneud newidiadau angenrheidiol a'ch cyfeirio at wasanaethau lle bo angen.

Yn seiliedig ar eich adborth ym mis Mawrth ac Ebrill, rydym wedi crynhoi eich ymatebion a’r camau a gymerwyd yn sgîl hynny ar ein tudalen adborth ar y fewnrwyd. Mae Cipolwg Caerdydd nawr ar agor ac yn canolbwyntio ar addysg ddigidol. Mae'r ddolen ar gael trwy naidlen ar Dysgu Canolog.

Mae’r arolwg o Brofiadau Ôl-raddedigion a Addysgir (PTES) ar agor hefyd, tan 17 Mehefin. Bydd y canlyniadau ar gael ym mis Gorffennaf, ac unwaith eto byddwn yn eich diweddaru ar ein hymateb. Caeodd yr Arolwg o Brofiad Ymchwilwyr Ôl-raddedig (PRES) ddydd Llun 17 Mai ar ôl cael ymateb gan 31% o fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig.

Gweithdrefn gwyno

Yn y cyfamser, rydym yn parhau i gymryd camau i fynd i’r afael â sut mae pandemig COVID-19 wedi tarfu ar eich cyfleoedd dysgu yn ogystal â sicrhau bod y campws yn ddiogel rhag COVID i chi a’r staff. Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, mae'r camau hyn yn cael eu diweddaru wrth i amgylchiadau newid, ac maent yn cyd-fynd â'r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf a chanllawiau'r Llywodraeth.

Mae’r camau hyn yn cynnwys proses gwynion COVID-19. Mae wedi'i diweddaru i fynd i'r afael â chwynion sy'n gysylltiedig â’r pandemig ac i roi’r cyfle i chi amlygu unrhyw achosion penodol pan mae’r pandemig wedi tarfu arnoch.

Os ydych chi, ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2020/21, pan fydd eich gweithgareddau addysgu ac asesu wedi'u cwblhau, yn anfodlon â'r camau a gymerwyd, neu os ydych chi'n teimlo nad oedd y cyfleoedd dysgu neu'r gwasanaethau eraill yr hyn y byddech chi wedi'i ddisgwyl yn rhesymol ar sail y wybodaeth a gawsoch ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, gallwch wneud cwyn.

Cofiwch:
  • Bydd y flwyddyn academaidd yn dod i ben ar 18 Mehefin 2021, ac, os ydych am wneud cwyn, rhaid i'r mwyafrif ohonoch wneud hynny erbyn 16 Gorffennaf 2021 fan bellaf (28 diwrnod yn ddiweddarach)
  • Ni fydd y dyddiad hwn yn berthnasol os bydd yr addysgu ar eich rhaglen ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 yn ymestyn y tu hwnt i 18 Mehefin 2021. Cewch chi wneud cwyn hyd at 28 diwrnod ar ôl derbyn eich trawsgrifiad.

Mae mwy o wybodaeth ar gael am y broses, yn ogystal â chyngor annibynnol gan Ganolfan Gynghori Undeb y Myfyrwyr.

Eich cefnogi chi

Gall asesiadau beri mwy o bryder ar adeg pan mae llawer o bobl eisoes yn bryderus. Beth bynnag sy’n eich poeni, Cyswllt Myfyrwyr yw eich pwynt cyswllt cyntaf o hyd i gael cefnogaeth.

Yn benodol, os ydych chi'n poeni am arian, o bosibl o ganlyniad i'r pandemig, cofiwch ddarllen ein Pecyn Cymorth COVID-19 i Fyfyrwyr.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan

Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr