Ewch i’r prif gynnwys

A yw eich costau’n broblem i chi fel myfyriwr?

4 Mai 2021

Money worries

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i ni i gefnogi ein myfyrwyr a mynd i'r afael ag effaith pandemig COVID-19 ar eich profiad addysgu, eich profiad dysgu a’ch profiad ehangach fel myfyriwr. Dyma ragor o wybdodaeth am yr arian y gallwch wneud cais amdano i’ch helpu i dalu eich costau.

Pecyn Cymorth i Fyfyrwyr

Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau: Rhaid i ddeiliaid cyfrifon banc yn y DU wneud cais erbyn 26 Gorffennaf 2021 drwy SIMS.  Rhaid i ddeiliaid cyfrifon banciau nad ydynt yn y DU wneud cais drwy ebost erbyn 23 Gorffennaf 2021.

Mae un taliad o £350 (nad oes angen ei ad-dalu) ar gael i chi os ydych wedi wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i’r pandemig. Gall hyn gynnwys biliau cyfleustodau a chostau byw uwch, costau gofal plant ychwanegol, anawsterau ariannol am eich bod wedi colli gwaith neu weld gostyngiad mewn incwm ac anawsterau ariannol oherwydd diffyg gwaith rhan-amser, absenoldeb ffyrlo neu ostyngiad mewn cyfraniadau ariannol gan eraill y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt.

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i chi fod yn:

  • fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig
  • myfyriwr amser llawn neu ran-amser sydd ar gofrestr Prifysgol Caerdydd
  • myfyriwr nad yw wedi cael ad-daliad am ffioedd llety sy’n fwy na £350

Mae’r broses ymgeisio’n gyflym ac yn syml:

Gallwch ofyn am wneud cais ar bapur drwy ebostio covid19supportfund@caerdydd.ac.uk os nad oes gennych gyfrif banc yn y DU. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 23 Gorffennaf 2021.

Gwnewch gais ar gyfer Cronfa Gymorth COVID-19 i Fyfyrwyr (drwy SIMS) os oes gennych gyfrif banc yn y DU. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 26 Gorffennaf 2021.

  • Ewch i SIMS.
  • Dewiswch y costau rydych yn cael trafferth eu talu (e.e. rhent, biliau cyfleustodau).
  • Dewiswch y prif reswm/rhesymau pam rydych yn ei chael hi’n anodd talu eich costau (e.e. colli incwm, costau ychwanegol, diffyg gwaith rhan-amser).
  • Rhowch fanylion eich cyfrif banc er mwyn i’r taliad gael ei wneud.
  • Dim ond os ydych yn un o ganran fach o fyfyrwyr yr ydym yn eu harchwilio y gallwn ofyn am ragor o wybodaeth am eich sefyllfa ariannol.

Cynllun Gallu Digidol

Os ydych yn bodloni meini prawf penodol, efallai y byddwch yn gymwys i gael gliniadur sylfaenol er mwyn bodloni gofynion eich cwrs a dongl 4G er mwyn cael mynediad i’r rhyngrwyd yn y tymor byr, yn ogystal â chyngor i’ch helpu i roi ateb mwy parhaol ar waith.

Further support for eligible students (awaiting translation)

Mae bwrsariaethau ychwanegol yn cael eu prosesu ar gyfer myfyrwyr cymwys ar hyn o bryd.

As well as the COVID-19 Student Support Fund, we are providing additional support to groups of students the Welsh government has highlighted as being more adversely impacted by the pandemic.

We are now starting to pay the bursary top ups to those students whose household income is £25,000 or lower based on their Student Finance assessment. Anybody who is eligible will shortly receive a letter to their Student Finance listed home address detailing this. They will also be able to find this letter in their Student Finance online account under “letters and emails”.

The letter says that there has been reassessment of your bursary. This does not mean that your existing Cardiff University bursary has been reassessed, but that you are getting an additional £350 that should be listed as COVID Fund top-up Bursary. The letter will outline the payment date you should expect, which will differ for each student. You need to wait at least 4 working days from this date for the money to show in yourself account.

You are also eligible to apply for the COVID-19 Student Support Fund in addition to this top-up bursary.

This is applicable to full-time, UK undergraduate students only.

Cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr anabl

Rydym yn cydweithio â JS Group i gyflwyno cynllun 'Cardiff Aspire' i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru gyda'r brifysgol fel myfyrwyr anabl. Mae'r cynllun yn cynnig credyd o £350 i'w wario ar Wefan Aspire Cardiff a gellir ei wario ar ystod eang o adnoddau dysgu ac astudio i'ch cefnogi gyda'ch astudiaethau.

Dyma’r broses ar gyfer cael gafael ar eich cyllid yw:

  • Os ydych chi'n gymwys, byddwch wedi cael ebost gan y tîm Anabledd a Dyslecsia i roi gwybod ichi am y cynllun.
  • Byddwch wedi derbyn ail ebost a anfonwyd gan JS Group ar ran y brifysgol gyda’r teitl 'Mae eich cyfrif Aspire wedi'i gredydu â £350 i’w wario ar-lein' sy'n cynnwys y ddolen i'ch cyfrif.
  • Mae rhai myfyrwyr wedi cysylltu â ni yn amau dilysrwydd yr ebyst hyn - gallwn eich sicrhau nad sgam yw hyn.
  • Os na allwch ddod o hyd i'r ebost gyda'ch manylion mewngofnodi, gallwch nodi'ch cyfeiriad ebost Prifysgol o dan y man mewngofnodi i gwsmeriaid ar y dudalen fewngofnodi a chlicio Forgot Password.
  • Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau wrth fewngofnodi i'ch cyfrif, cysylltwch â Suzanne Riley trwy’r cyfeiriad ebost studentinfo@cardiffaspire.co.uk

Problemau ariannol nad ydynt yn gysylltiedig â’r pandemig

Os ydych yn wynebu anawsterau, gall ein Tîm Cyllid a Chyngor i Fyfyrwyr eich helpu i reoli eich arian neu, os nad oes gennych ragor o arian, bydd yn rhoi cyngor i chi ac yn trefnu bod unrhyw arian brys a all fod ar gael i chi’n cael ei dalu i chi.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â’r Tîm Cyswllt Myfyrwyr.