Helpwch ni leihau lledaeniad y coronafeirws (COVID-19)
25 Medi 2020
Rydym wedi rhoi blaenoriaeth i'ch iechyd a'ch diogelwch chi, nawr mae arnom angen eich cymorth chi. Atgoffwch eich hun beth allwch chi ei wneud i gyfyngu ar y tebygrwydd o ddal neu ledaenu’r coronafeirws (COVID-19), a sut i wneud ein cymuned yn ddiogel, osgoi gorfod hunanynysu neu gyfrannu at gyfyngiadau symud unwaith eto.
Mae mesurau ar waith i sicrhau bod eich profiad yn y Brifysgol yn ddiogel ac yn bleserus yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o’r blaen. Rydym yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu sy'n cefnogi'r mesurau sydd gennym ar waith.
Fe anfonodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr, ebost at bob myfyriwr ddydd Gwener 25 Medi gyda manylion y goblygiadau uniongyrchol i'n Prifysgol yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod cyfyngiadau ychwanegol am gael eu cyflwyno yng Nghaerdydd.
O 18:00 ddydd Sul 27 Medi, rhaid i drigolion Caerdydd a’r rhai sy’n ymweld â’r ddinas gadw at y cyfyngiadau a amlinellwyd gan Gyngor Caerdydd.
Mae'r Brifysgol yn parhau i fod ar agor, ac os nad oes gennych unrhyw symptomau (ac nid ydych yn gorfod hunan-ynysu) gallwch barhau i fynychu'r Brifysgol. Cydnabyddir hyn o dan beth mae Cyngor Caerdydd yn ei alw’n 'esgus rhesymol' ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gydbwyso anghenion addysg plant a phobl ifanc yng Nghymru ochr yn ochr â mesurau syn ceisio cadw'r gymuned ehangach yn ddiogel.
Fel yr esboniwyd yn ein hymrwymiad cymunedol, dylech weithio gyda ni er eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a'r rhai o'ch cwmpas. Rydym yn clywed straeon newydd bob dydd o brifysgolion yn y DU a thu hwnt sy'n dangos beth sy'n digwydd pan na ddilynir mesurau diogelwch. Os na fydd myfyrwyr yn dilyn ein mesurau diogelwch, efallai y bydd yn ofynnol i nifer fawr ohonoch hunanynysu fel sydd eisoes yn digwydd ym mhrifysgolion eraill y DU.
Cyfyngwch ar eich tebygrwydd o ddal y feirws
- Cofiwch gynnal pellter cymdeithasol o ddau fetr rhyngoch chi ac eraill (oni bai o'ch cartref). Trwy wneud hynny, ni fyddwch yn cael eich ystyried yn 'gyswllt' i unrhyw un sy'n profi'n gadarnhaol am y coronafeirws, gan leihau'r posibilrwydd y byddwch hefyd yn gorfod hunanynysu
- Gwisgwch orchudd wyneb (mae ymbellhau cymdeithasol, yn ogystal â mwy o lanhau a diheintio dwylo, yn caniatáu i fyfyrwyr a'n staff addysgu dynnu eu gorchuddion wyneb os ydynt yn siarad)
- Os nad ydych yn gallu gwisgo gorchudd wyneb, gallwch lawrlwytho cerdyn eithrio.
- Golchwch eich dwylo'n rheolaidd, am o leiaf 20 eiliad, a defnyddiwch hylif diheintio yn rheolaidd
- Dilynwch lwybrau cerdded un ffordd lle mae arwyddion
- Peidiwch â chymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol nad ydynt yn dilyn canllawiau diogelwch
- Dilynwch 'reol chwech', ac ni waeth beth yw’r demtasiwn, peidiwch â chymryd rhan mewn digwyddiadau neu gynulliadau nad ydynt yn dilyn canllawiau diogelwch
- Cadwch at y cyngor sy'n cael ei roi i chi gan y Brifysgol, eich darparwyr llety a darparwyr gwasanaethau eraill rydych yn dewis eu defnyddio
- Pan gewch eich gwahodd, trefnwch apwyntiad gyda gwasanaeth profi’r Brifysgol. Mae'r prawf yn wirfoddol, ond rydym yn eich annog yn gryf i gymryd rhan. Diben y gwasanaeth sgrinio hwn yw canfod a ydych yn cario'r feirws heb wybod, ond nid oes gennych unrhyw symptomau (asymptomatig). Rhaid i chi gael apwyntiad ac ni ddylech ddefnyddio’r gwasanaeth os oes gennych symptomau’r corronafeirws.
Os yw'n ofynnol i chi hunan-ynysu, gwnewch hynny, hyd yn oed os nad oes gennych symptomau.
Lawrlwythwch ap COVID-19 y GIG sydd â nifer o adnoddau i'ch amddiffyn, gan gynnwys olrhain cyswllt, rhybuddion mewn ardaloedd lleol a chofrestru mewn lleoliad.
Byddwch yn gyfrifol am beidio â lledaenu'r feirws
Peidiwch â gadael y tŷ os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n byw gydag ef unrhyw un o'r symptomau canlynol:
- tymheredd uchel
- peswch newydd a pharhaol
- colli neu newidiadau i'ch ymdeimlad arferol o arogl neu flas
- Os bydd rhywun yn eich tŷ yn profi'n bositif, rhaid i chi ac aelodau eraill y cartref, gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt unrhyw symptomau, aros gartref a pheidio â gadael y tŷ am 14 diwrnod.
Os oes gennych symptomau dylech:
- Hunan-ynysu ar unwaith a dilyn y canllawiau ar gyfer aros gartref
- Cysylltu â gwasanaeth profi, olrhain a diogelu y GIG a gwneud cais am brawf
Helpwch i gadw eich hun, ffrindiau, teulu a'r gymuned yn ddiogel
- Darllenwch, dilynwch a chefnogwch ganllawiau'r Brifysgol
- Hysbyswch y bobl o’ch cwmpas a’u cefnogi i ddilyn y canllawiau diogelwch a chael gafael ar gymorth pan fo angen
- Mynegwch bryderon gyda ni os ydych yn teimlo fod eich diogelwch yn cael ei beryglu
- Os cewch eich herio ynghylch eich ymddygiad, cymerwch hynny o ddifrif a chymryd camau cadarnhaol.