Ewch i’r prif gynnwys

Trefniadau agor ar gyfer mannau astudio, bwyd a chwaraeon

28 Medi 2020

Main Building from the Students Union

Mae llawer o'n gwasanaethau ar gampws wedi ailagor gyda mesurau diogelwch COVID-19 ar waith.  Rhagor o wybodaeth am wasanaeth clicio a chasglu’r llyfrgelloedd, mannau astudio a'r holl gyfleusterau chwaraeon a gwasanaeth newydd clicio a chasglu ar gyfer bwyd a diod.

Cofiwch fod y Brifysgol, yn dilyn cyhoeddi clo lleol i Gaerdydd, yn parhau ar agor.  Mae hyn yn cynnwys llyfrgelloedd, chwaraeon ac arlwy fel y nodir yma.

Gwasanaethau llyfrgelloedd

Mae ein gwasanaeth casglu eitemau bellach ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:15 a 16:15 yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol a'r Llyfrgell Iechyd yn Adeilad Cochrane.

Archebwch le astudio hefyd ar gael yn y Llyfrgell Iechyd ac ASSL i chi ei archebu rhwng 09:00 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, am 2 awr o astudio tawel bob dydd.

Gallwch ddewis o ystod o fannau astudio gan gynnwys desgiau gyda neu heb socedi trydanol, desgiau y gellir eu haddasu ar gyfer uchder a chyfrifiaduron mynediad agored. Rhaid cadw mannau astudio ymlaen llaw.

Bydd gennych fynediad i argraffu, copïo a sganio hunanwasanaeth wrth gadw lle i astudio. Yn anffodus, ni fyddwch yn gallu pori drwy gasgliadau o lyfrau a dylech ddefnyddio clicio a chasglu os bydd angen i chi ddefnyddio'r casgliadau.

Rydym yn bwriadu cyflwyno'r gwasanaeth hwn mewn llyfrgelloedd eraill yn y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau llyfrgell

Chwaraeon

Mae'r holl gyfleusterau Chwaraeon bellach ar agor yn ystod yr oriau agor arferol.

Mae amserlen dosbarthiadau ymarfer corff yr hydref bellach ar gael gyda dosbarthiadau o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dylai’r rhai sy'n dymuno defnyddio'r campfeydd ffitrwydd ffonio ymlaen llaw ar +44 (0)29 2087 4675 (Tal-y-bont) a +44 (0)29 2087 0540 i gadw sesiwn 50 munud, gan ddechrau ar yr awr. Bydd y fynedfa yn cael ei rheoli i gadw pellter cymdeithasol. Sylwch na fydd ystafelloedd newid a chawodydd ar gael wrth i ni ailagor yn unol â chanllawiau COVID-19 felly cyrhaeddwch y gampfa / gêm yn barod. Mae angen masgiau wyneb wrth fynd i mewn i adeiladau'r chwaraeon a symud o'u cwmpas ond nid oes eu hangen wrth gymryd rhan mewn ymarfer corff. Rhaid gwisgo masgiau wyneb wrth fynd i mewn i’r adeiladau chwaraeon a symud o'u cwmpas, ond nid oes rhaid eu gwisgo wrth gymryd rhan mewn ymarfer corff.

Rhagor o wybodaeth am Chwaraeon ac Ymarfer corff

Mae ein haelodaeth ar gael am bris gostyngedig tan 14 Hydref. Gall myfyrwyr nad oeddent yn aelodau y llynedd neu sydd ym mlwyddyn gyntaf eu hastudiaethau brynu aelodaeth ar-lein.

Os oeddech yn arfer bod yn aelod, ewch i dderbynfa un o’n cyfleusterau a bydd aelod o’r tîm yn gallu prosesu adnewyddu eich aelodaeth am bris gostyngedig.

Bwyd a diod

Mae'r rhan fwyaf o'n caffis/bwytai ar agor gydag amseroedd agor, o ddydd Llun i ddydd Gwener fel a ganlyn:

  • Caffi’r Biowyddorau, Adeilad Syr Martin Evans, 08:00 - 17:00
  • Hadyn Ellis, 08:30 - 15:00
  • Caffi John Percival, 08:00 - 17:00
  • Lolfa IV, 08:00 - 16:00
  • Gwasanaeth Clicio a Chasglu Lolfa IV, 08:00 - 16:00
  • Bwyty'r Prif Adeilad, 08:00 - 15:00 (gwasanaeth cinio 11:00 - 14:30)
  • Gwasanaeth Clicio a Chasglu’r Prif Adeilad, 11:00 - 15:00
  • Bwyty Julian Hodge, 08:00 - 15:00 (gwasanaeth bwyd poeth 10:00 - 14:00)
  • Julian Hodge Clicio a Chasglu, 10:00 - 21:00
  • Bwyty Trevithick, 8:00 - 20:00 (gwasanaeth bwyd poeth 10:30 - 14.30 a 17:00 - 20:00).

Mae mesurau diogelwch ar waith ym mhob un o’r caffis/bwytai:

  • Taliadau electronig yn unig
  • Mae llai o le i eistedd er mwyn galluogi pellter cymdeithasol - mae’r byrddau wedi'u cynllunio ar gyfer un person oni bai eich bod yn eistedd gyda phobl o'ch cartref
  • Monitro lles ac iechyd staff arlwyo yn rheolaidd
  • Côd QR canfod ac olrhain i'w sganio tra’n eistedd yn y bwyty
  • Cydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch bwyd
  • Golchi dwylo yn rheolaidd
  • Glanhau arwynebau gwaith a mannau cyffwrdd yn rheolaidd
  • Cadw pellter cymdeithasol - gwisgir masgiau pan nad yw hyn yn bosibl
  • Glanhau ein cyfleusterau ar ôl cau.

Byddwch yn amyneddgar gyda ni! Eich diogelwch yw ein blaenoriaeth ac efallai y bydd eich amser aros ychydig yn hirach oherwydd y mesurau diogelwch sydd ar waith.

Ydych chi’n byw yn Neuaddau Tal-y-bont neu Rodfa Colum?  Byddwn yn cludo bwyd ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 16:00 a 21:00! Dim tâl am y gwasanaeth na ffi cludo. Archebwch trwy'r ap clicio a chasglu o Fwyty Julian Hodge a dewis eich lleoliad cludo.

Defnyddiwch ein gwasanaeth Clicio a Chasglu newydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener

Ar gael yn y Brif Fwyty, Lolfa IV a Bwyty Julian Hodge. Gallwch greu eich cyfrif yma

Gwybodaeth gysylltiedig