Agor yn ddiogel ac ailsefyll
10 Awst 2021
Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd ar 10 Awst.
Annwyl Fyfyriwr
Gobeithio eich bod chi'n mwynhau eich gwyliau haf, a bod popeth yn iawn ers fy ebost diwethaf.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i’r campws ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2021/22. Mae paratoadau ar y gweill i sicrhau eich bod yn cael amser diogel a difyr pan ddychwelwch.
Y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru
Bydd llawer ohonoch wedi gweld cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener 6 Awst sydd wedi gweld Cymru yn symud i lefel rhybudd 0. Nid yw lefel rhybudd sero yn golygu diwedd cyfyngiadau, ond y gall pob un ohonom fwynhau mwy o ryddid a bod yn hyderus bod amddiffyniadau pwysig ar waith o hyd.
Roeddwn i eisiau ysgrifennu a rhoi gwybod i chi am beth y gallai hyn olygu chi:
- Disgwyliwn y bydd 2021-22 yn gweld dychweliad i fywyd sydd mor 'normal' â phosibl.
- Bydd gwasanaethau megis cymorth i fyfyrwyr, llyfrgelloedd, caffis, bwytai, llety, cyfleusterau chwaraeon ac Undeb y Myfyrwyr ar gael i chi.
- Byddwn ni’n cyflwyno addysgu wyneb yn wyneb ar y campws. Bydd hyn yn cynnwys tiwtorialau, seminarau, gwaith labordy, gweithdai a darlithoedd llai gyda chyflwyniad rhai darlithoedd yn parhau i fod ar-lein. Disgwyliwn y byddwn ni’n gwneud defnydd llawn o'n lleoedd addysgu erbyn mis Ionawr 2022.
- Byddwn ni’n parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, ac yn adolygu ein dulliau addysgu yn gyson. Byddwn yn eich diweddaru yn gyntaf os bydd angen i ni wneud unrhyw newidiadau i'n sefyllfa.
- Rydyn ni wedi dysgu llawer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf am ddysgu ar-lein ac mae’r myfyrwyr wedi rhoi adborth cadarnhaol inni am fanteision dull cyfunol. Byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ddefnyddio dulliau arloesol o addysgu sy'n eich galluogi i gymryd rhan yn llawn ac yn weithredol yn eich astudiaethau.
- Rwy'n argymell eich bod yn cadw llygad ar eich ebyst yn rheolaidd am unrhyw ddiweddariadau pellach gennyf i ac o'ch ysgol academaidd, a fydd yn darparu gwybodaeth fanylach am eich cwrs astudio penodol.
Mae ein gwefan a'r canllawiau helaeth am y coronafeirws ar ein mewnrwyd myfyrwyr yn rhoi trosolwg o'n cynlluniau a'r mesurau sydd gennym ar waith mewn perthynas â coronafeirws COVID-19 ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni eu diweddaru.
Arholiadau ac asesiadau
Os ydych chi'n ail-sefyll arholiad neu'n ailgyflwyno gwaith cwrs yr haf hwn, rwy'n gobeithio bod popeth yn mynd yn dda a hoffwn ddymuno'r gorau i chi. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, defnyddiwch y sgiliau astudio a'r gefnogaeth lles a gynigiwn i'ch helpu.
Cael gafael ar gefnogaeth
Cofiwch, ble bynnag yr ydych chi, Cyswllt Myfyrwyr yw eich pwynt cyswllt cyntaf am unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch chi.
Yn olaf, mae'n gadael imi ddymuno'r gorau i chi am weddill gwyliau’r haf a'ch paratoadau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr