Ewch i’r prif gynnwys

Diweddariad ynghylch dychwelyd

1 Chwefror 2021

Claire Morgan is Pro Vice-Chancellor, Education and Students.
Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience, Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd heddiw (1 Chwefror).

Annwyl Fyfyriwr,

Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn er gwaethaf yr heriau o’n blaenau.

Camau nesaf

Fel y gwyddoch, nid yw'r rhan fwyaf o'n haddysgu wyneb yn wyneb i fod i ailddechrau tan 22 Chwefror. Fodd bynnag, yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener gan Lywodraeth Cymru:

  • Bydd y rhan fwyaf o’n haddysgu yn parhau i fod ar-lein tan ddydd Gwener 26 Mawrth. Bydd beth fydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwn yn dibynnu ar adolygiad Llywodraeth Cymru yng nghanol mis Chwefror. Serch hynny, ar hyn o bryd rydym yn disgwyl i fwy o addysgu wyneb yn wyneb ddigwydd ar ôl y Pasg.
  • Bydd y myfyrwyr hynny sydd ar raglenni cysylltiedig ag iechyd ac ymarferol lle mae angen gweithgareddau ar y campws yn parhau gydag addysgu wyneb yn wyneb
  • Gall myfyrwyr ar nifer fach o raglenni neu garfannau ychwanegol ddychwelyd ar 22 Chwefror neu wedi hynny, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu symud ymlaen a/neu raddio fel y cynlluniwyd yn wreiddiol drwy ddod yn ôl i Gaerdydd o 22 Chwefror.
  • Bydd eich ysgol yn cysylltu unwaith eto yr wythnos hon i egluro beth mae'r diweddariad hwn yn ei olygu i chi, yn dibynnu ar eich blwyddyn astudio a'r rhaglen, gan gynnwys opsiynau ar gyfer astudio o bell. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y rhaglen, dylech gysylltu â Swyddfa eich Ysgol.
  • Os ydych chi'n dychwelyd i Gaerdydd, mae'r gofynion presennol i drefnu prawf sgrinio ar gyfer eich dychweliad, teithio'n ddiogel, a pheidio â chymdeithasu wrth i chi aros am eich canlyniad i gyd yn dal i fod yn berthnasol
  • Mae ein campws yn parhau i fod yn ddiogel, rhywbeth y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i gadarnhau i ni eto mewn trafodaethau diweddar, ac yn agored, yn unol â mesurau Llywodraeth Cymru

Ad-daliadau rhent a chefnogaeth ariannol i chi

Gallech fod eisoes yn ymwybodol o'r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru bod £40m ychwanegol wedi'i ddyrannu i'r sector i gefnogi myfyrwyr sy'n wynebu caledi ariannol. Rydym yn gweithio gyda phrifysgolion eraill yng Nghymru ar hyn o bryd er mwyn creu ffordd syml a theg o gael yr arian hwnnw i fyfyrwyr sydd yn ein llety ni neu mewn llety preifat, a byddwn yn eich diweddaru eto’n fuan iawn.

Yn y cyfamser, os ydych chi mewn llety preifat ac angen prawf o'r dyddiadau nad yw'n ofynnol i chi fod ar y campws, ebostiwch registrysupport@caerdydd.ac.uk fydd yn gallu rhoi'r cadarnhad sydd ei angen arnoch.

Os ydych chi'n poeni am arian, rydyn ni'n cynnig Rhaglen Cymorth Ariannol sy’n seiliedig ar brawf modd. Gan gydnabod effaith y pandemig, rydym wedi cynyddu faint o arian sydd ar gael trwy'r gronfa hon. Rydym wedi ei hehangu hefyd i ystyried anallu posibl i gael gwaith rhan-amser, neu newidiadau i'ch amgylchiadau personol (ee gofynion i hunanynysu neu warchod eu hunain, neu mae sefyllfa ariannol eich teulu wedi newid). Gall gynnig bwrsariaethau i helpu gyda chostau cynnal a chadw (e.e. bwyd neu lety - ond nid ffioedd dysgu) os ydych yn wynebu caledi ariannol, ac mae ar gael ar gyfer ein holl fyfyrwyr - israddedigion, ôl-raddedigion, myfyrwyr o’r DU a myfyrwyr rhyngwladol.

Cefnogaeth ehangach

Os oes gennych gwestiynau am y rhaglen, dylech gysylltu â’ch Ysgol. Ein gwasanaeth Student Connect yw eich pwynt cyswllt cyntaf o hyd ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill. Os bydd pethau’n mynd yn drech arnoch, cysylltwch i gael gwybod ym mha ffyrdd eraill y gallwn eich cefnogi. Mae tîm eich rhaglen a'ch tiwtor personol ar gael o hyd i'ch helpu chi hefyd.

Canllawiau’r llywodraeth

Mae'r penderfyniad diweddaraf hwn yn cyd-fynd ag ymateb parhaus Llywodraeth Cymru i'r pandemig. Mae Cymru yn parhau i fod ar 'lefel rhybuddio 4', sy'n cynnwys nifer sylweddol o gyfyngiadau ar bob un ohonom er mwyn ein cadw ni, a'r bobl sy’n bwysig i ni, yn ddiogel.

Cadw’n ddiogel

Mae ein campws yn ddiogel ac ar agor o hyd, ond mae ein holl fesurau diogelwch yn dibynnu ar eich cydweithrediad llawn chi, ein myfyrwyr. Os ydych eisoes yn ôl yng Nghaerdydd, cadwch at ein mesurau diogelwch, yn benodol:

  • Cyn belled â'ch bod yn asymptomatig, mae ein Gwasanaeth Sgrinio ar gael ar eich cyfer o hyd. Mae hyn yn cynnwys y rhai ohonoch a allai fod yn teimlo'n bryderus, ac y gallai prawf helpu i dawelu eich meddwl. Gofynnwn i fyfyrwyr yng Nghaerdydd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn yn wythnosol yn ystod y cyfnod hwn.
  • Rhaid i bawb sy’n mynd i mewn i’n hadeiladau wisgo gorchudd wyneb. Mae’r adeiladau hyn yn cynnwys ardaloedd cyffredin mewn neuaddau preswyl (gan gynnwys ystafelloedd golchi dillad), mynedfeydd, derbynfeydd a mannau cymdeithasol.

Cadw’r ddysgl yn wastad rhwng diogelwch a’ch profiad yn y brifysgol

Yn olaf, mae’n ddrwg gen i a fy nghydweithwyr am sut mae’r pandemig yn parhau i darfu ar eich astudiaethau. Rydym yn gwneud penderfyniadau drwy’r amser sy’n ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng eich profiad yn y brifysgol a’ch iechyd a’ch lles chi, y staff a’r gymuned ehangach. Nid ar chwarae bach yr ydym yn dod i’r penderfyniadau hyn.

Mae prifysgolion eraill yn y DU a ledled y byd wedi gorfod gwneud penderfyniadau tebyg, a chredwn fod y mesurau sy’n deillio ohonynt yn briodol ac yn rhesymol o ystyried y cyfyngiadau y mae llywodraethau Cymru a’r DU wedi’u rhoi ar waith.

Os nad ydych yn teimlo bod y cyfleoedd dysgu yr ydym wedi’u cynnig wedi bod yn ddigonol, neu heb gyflwyno’r hyn a ddisgrifiwyd i chi cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, rydym wedi creu gweithdrefn symlach ar gyfer gwneud cwyn, ac fe’ch cynghorwn i chi ei defnyddio ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Cewch ragor o wybodaeth ar fewnrwyd y Myfyrwyr.

Unwaith eto, hoffwn eich diolch yn bersonol am fod mor amyneddgar ac am eich cefnogaeth barhaus wrth i ni ddod o hyd i’n ffordd trwy’r cyfnod hwn.

Cofion gorau a chadwch yn ddiogel,

Claire Morgan