Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgelloedd yn ailagor

29 Mehefin 2020

Books on a library shelf

Mae gwasanaethau llyfrgelloedd yn cynllunio ar gyfer dychwelyd i rai gwasanaethau ar y campws. Rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth clicio a chasglu newydd a'r broses o agor mannau astudio.

Yn ddibynnol ar asesiadau risg lefel adeiladau llawn, a chymryd unrhyw gamau lliniaru a nodwyd gan y gwasanaethau Llyfrgelloedd hyn sy'n cynllunio ar gyfer dychwelyd i rai gwasanaethau ar y campws. Mae amserlenni'n ddibynnol ar y gwaith o gwblhau asesiadau risg ac addasiadau.  Caiff cynlluniau eu cadw o dan adolygiad ar bob cam er mwyn sicrhau y gellir rheoli diogelwch defnyddwyr a staff y llyfrgelloedd yn effeithiol.

Gwasanaeth clicio a chasglu

Mae gwasanaeth clicio a chasglu yn cael ei sefydlu ar gyfer casglu a dychwelyd llyfrau, gyda hyd at 3 phwynt casglu i fod ar gael ar y campws, gyda gwasanaeth dosbarthu a dychwelyd post i gyd-fynd â hyn ar gyfer y rhai hynny nad ydynt ar y campws (yn ddibynnol ar ailagor ystafell bost y Brifysgol).

Caiff system archebu llyfrau presennol llyfrgelloedd ei defnyddio i wneud archebion.

Bydd argaeledd eitemau yn cael ei leihau'n sylweddol, gan fod angen i lyfrau a ddychwelir fod mewn cwarantîn, a'r oedi a ragwelir pan gaiff eitemau eu hanfon a'u dychwelyd drwy'r post.  Ni chodir unrhyw ddirwyon.

Mannau astudio

Ar ôl i'r gwasanaeth clicio a chasglu gael ei roi ar waith bydd rhai mannau astudio ar gael yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, Llyfrgelloedd Bute, Trevithick, Iechyd a Gwyddoniaeth, ac yng Nghanolfan Astudio Julian Hodge. Bydd y rhain ar gael yn ôl apwyntiadau llym, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00. Bydd mynediad at fannau astudio a chyfleusterau TG yn cael ei leihau'n sylweddol er mwyn cydymffurfio â gofynion pellter cymdeithasol ac ni fydd modd pori drwy argaeledd casgliadau.

Bydd oedi o ran argaeledd eitemau gan fod angen i lyfrau a ddychwelir fod mewn cwarantîn, a hefyd gall oedi fod os caiff eitemau eu hanfon a'u dychwelyd drwy'r post.

Bydd gwasanaethau ymholiadau'r llyfrgell yn parhau i gael ei ddarparu o bell.

Anogir pob myfyriwr i gysylltu â'i lyfrgellydd pwnc i ofyn am y deunyddiau penodol sydd eu hangen ar gyfer addysgu a/neu ymchwilio; a byddwn yn ceisio cael fersiynau electronig os byddant ar gael (gan nodi nad yw popeth ar gael ar-lein).

Dysgwch ragor am wasanaethau Llyfrgelloedd a defnyddiwch eich Cyfrif Llyfrgell i weld eich benthyciadau, ceisiadau, dirwyon a ffioedd presennol â'r llyfrgell ar eich cyfrif.