Cyfeirio eich hun am gymorth cwnsela a lles
9 Ebrill 2020
Os ydych chi'n cael anawsterau fel hwyliau isel, gorbryder a theimladau eraill o ofid emosiynol neu os ydych chi'n poeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch rhywun arall, cysylltwch â ni. Rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi a sut i gael gafael arno ar-lein.
Mae'r tîm cwnsela a lles yn parhau i ymaddasu i natur heriol a newidiol pandemig y Coronafeirws a'r effaith y mae'n ei chael ar y ffordd y mae'r tîm yn cefnogi myfyrwyr. Er bod gweithgareddau wyneb yn wyneb wedi’u gohirio, gan fod adeiladau ar gau, mae'r tîm yn pontio i weithio o bell ac yn rhoi cymorth rhithwir lle y bo modd.
Sut gall y Tîm Cwnsela a Lles eich helpu chi
Mae'r tîm yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogi i ymateb i beth bynnag rydych chi neu rywun agos atoch yn ei wynebu. Mae hyn yn cynnwys:
- trallod emosiynol
- llai o ymgysylltu ag astudiaethau neu deimlad o fod wedi eich ynysu
- straen a gorbryder
- iselder
- ymddygiadau dibyniaeth
- unigrwydd neu hiraeth
- iechyd meddwl
- trais a cham-drin
- ymddygiad eithafol.
Cael mynediad at gymorth ar unwaith
Mae adnoddau hunangymorth a ysgrifennwyd gan staff Cwnsela a Lles a'r ap Talk Campus ar gael i chi eu defnyddio ar unwaith. Mae'r rhain yn ffyrdd cyflym ac effeithiol o gael gafael ar gymorth. Mae’r staff yn eu hargymell a maent yn eich annog i'w defnyddio yn y lle cyntaf.
- Edrychwch ar ein hadnoddau hunangymorth ar gyfer gwybodaeth, cyngor a strategaethau ymdopi.
- Lawrlwytho TalkCampus i gysylltu ar unwaith â rhywun i siarad â nhw. Rhwydwaith cymdeithasol 24/7 byd-eang lle gallwch siarad yn ddienw am eich pryderon.
Gwneud atgyfeiriad am gymorth
Os hoffech gael cymorth ar-lein, llenwch y ffurflen hunan-atgyfeirio ferhon.
Ar ôl i chi gyflwyno eich ffurflen, byddwn yn anfon derbynneb ebost ymhen 2 ddiwrnod gwaith i’ch cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd. Bydd hwn yn cynnwys dolenni pwysig i ffynonellau cyffredinol o gymorth fydd ar gael ar eich cyfer ar unwaith. Gallwch ddefnyddio’r ffurflen i ddweud wrthym am eich prif bryderon hefyd, a bydd aelod o staff yn anfon adnoddau wedi’u teilwra i’ch helpu. Yn y cyfamser: Darllenwch ein cyngor defnyddiol am ofalu am eich hun a chynnal eich lles a’ch iechyd meddwl.
Cyngor brys
Darllenwch ein tudalen cyngor brys os ydych yn poeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch rhywun arall. Bydd y tudalennau hyn yn rhoi arweiniad ar beth i'w wneud mewn argyfwng, ar beth i'w wneud i fynegi pryder amdanoch eich hun neu eraill, a sut i gael cymorth os ydych wedi cael profiad o drais a cham-drin.