Cymorth gyda dysgu o bell a sgiliau astudio
7 Ebrill 2020
Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd i chi gan fod eich ffyrdd o ddysgu wedi newid yn gyflym ac yn parhau i wneud hynny. Dyma ragor o wybodaeth am addasu i ddysgu o bell a'r adnoddau sydd ar gael ar-lein i gefnogi eich astudiaethau.
Gwybodaeth ynghylch beth sydd wedi newid o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19) a sut i gael mynediad at ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn.
Awgrym ar gyfer dysgu o bell
Mae Myfyrwyr sy'n Hyrwyddwyr Digidol wedi cyflwyno awgrymiadau ymarferol i'ch helpu:
- Bod yn drefnus
- Creu amserlen
- Creu lle i ddysgu ynddo
- Dysgu o fideo
- Parhau i ymgysylltu a chymryd rhan ar-lein
Darllenwch y 5 awgrym ar gyfer dysgu o bell.
Canllawiau newydd ar gyfer dysgu o bell
Mae adnodd newydd sydd wedi’i greu i roi canllawiau sylfaenol ynghylch dysgu o bell ar gael hefyd i’ch helpu i wneud y defnydd gorau o’ch amser i ffwrdd o’r Brifysgol. Mae'r canllawiau'n cynnwys:
- Sgiliau astudio
- Gwylio fideos a recordiadau darlithoedd
- Gweminarau ac ystafelloedd dosbarth rhithwir
- Cyflwyniadau
- Cyfarfodydd un-i-un
- Gwaith grŵp
- Cyflwyniad fideo
Sgiliau astudio
Mae casgliad cynyddol o adnoddau Sgiliau Astudio, tiwtorialau ar-lein a fideos y gallwch eu defnyddio o bell. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Canllaw i israddedigion ynghylch ysgrifennu traethodau - cyfres o diwtorialau sy'n dangos i chi sut i ddatblygu eich syniadau, strwythuro eich traethawd, ysgrifennu'n feirniadol, a golygu ac adolygu eich gwaith
- Canllaw i ôl-raddedigion ynghylch ysgrifennu traethodau - tiwtorialau i'ch helpu i ddeall eich tasg asesu, datblygu dadleuon beirniadol, ac ysgrifennu mewn arddull academaidd.
- Ysgrifennu a rhoi cyflwyniadau - tiwtorialau i'ch helpu i gynllunio ac ysgrifennu eich cyflwyniadau, dylunio eich cymhorthion gweledol, a rhoi eich cyflwyniad.
- Goresgyn llusgo traed a threfnu eich amser
- Dysgu gweithredol
- Gwrando a chymryd nodiadau
- Dyfynnu a chyfeirnodi
- Ble i ddod o hyd i wybodaeth briodol a sut i ddewis y wybodaeth orau ar gyfer eich gwaith.
Gallwch hefyd gael cymorth gyda phob un o'r pynciau hyn:
- Ysgrifennu myfyriol a thraethodau, gyda thiwtorial ar-lein Canllaw Goroesi Traethodau sy’n cynnwys gwybodaeth am sut i ddeall traethodau, datblygu eich syniadau, ysgrifennu'n feirniadol a strwythuro eich traethawd, golygu ac adolygu.
- Ysgrifennu ar Level Ôl-raddedig a Addysgir sy’n cynnwys deall eich tasg asesu, datblygu dadleuon beirniadol ac arddull ysgrifennu academaidd.
- Adolygu a pharatoi ar gyfer arholiadau
- Cyflwyniadau sy’n cynnwys gwybodaeth am ddeall cyflwyniadau, cynllunio ac ysgrifennu eich cyflwyniadau, dylunio eich cymhorthion gweledol a rhoi eich cyflwyniad.
- Trefnu a rheoli amser
- Gwrando a chymryd nodiadau
- Dyfynnu a chyfeirnodi
- Darllen a dadansoddi beirniadol
- Saesneg
- Mathemateg ac ystadegaeth.
Cymorth Llyfrgell
Mae mwy na 280,000 o e-lyfrau ar gael dros dro i gefnogi eich astudiaethau.
Mae canllawiau ar sut i gael gafael ar e-lyfrau ace-adnoddau eraill ar gael yn fan hyn.
Bydd hi’n haws cael gafael ar adnoddau ar-lein y llyfrgell os byddwch yn gosod estyniad i’ch porwr, Library Access
Os ydych chi'n chwilio am syniadau ar gyfer pwnc traethawd hir, (yn enwedig ar gyfer myfyrwyr y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol) edrychwch ar y canllaw hwn i Archifau a Chasgliadau Arbennig o amgylch y byd.
Mae'r dyddiad dychwelyd ar gyfer llyfrau rydych wedi’u benthyg wedi'i ymestyn i 12 Mehefin, felly nid oes angen i chi boeni am ddychwelyd eich llyfrau i'r Llyfrgell ar hyn o bryd, ac ni fyddwch yn cael dirwyon.
Cymorth ychwanegol
Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar draws ystod eang o bynciau a materion a allai fod o ddefnydd, gan gynnwys:
- Mae cymorth iaith Saesneg, gan gynnwys ystod eang o adnoddau ar-lein, ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.
- Mae gwasanaethau arbenigol i fyfyrwyr ag anableddau a dyslecsia, megis sgiliau astudio penodol, ar gael i fyfyrwyr ag anabledd neu anhawster dysgu sydd wedi cael eu cyfeirio am gefnogaeth ychwanegol.
- Siarad â staff mewn Llyfrgelloedd a all gynnig cyngor a chyfeirio at adnoddau yn seiliedig ar eich anghenion.
- Cefnogaeth TG - meddalwedd Microsoft, gwe-rwydo, gwrth-firws am ddim
- Cyngor Myfyrwyr Undeb y Myfyrwyr.