Y Prif Adeilad
Caerdydd
CF10 3AT
Dogfennau cysylltiedig
Os na all eich meddalwedd cynorthwyol ddarllen y dogfennau hyn, gallwch ofyn am fersiwn hygyrch drwy anfon ebost at web@caerdydd.ac.uk. Nodwch enw'r ddogfen, yr offer cynorthwyol rydych yn ei ddefnyddio a'r fformat sydd ei angen arnoch.
Gwybodaeth
Ceisiodd y pensaer W.D. Caroe i gyfuno swyn a cheinder ei gyn-goleg (Coleg y Drindod, Caergrawnt) gyda chydbwysedd hardd o nifer o golegau Prifysgol Rhydychen. Dechreuodd gwaith adeiladu ar y Prif Adeilad yn 1905, a chwblhawyd mewn nifer o gamau, y cyntaf yn 1909. Fodd bynnag, rhedodd yr arian yn brin ar gyfer y prosiect, ac er cafod y rhannau ochr eu cwblhau yn y 1960au. Ni adeiladwyd y Neuadd Fawr a gynlluniwyd.
O 15 Mai 2024 ymlaen, bydd diogelwch ychwanegol wrth fynedfa'r Prif Adeilad. Bydd angen i fyfyrwyr a staff ddangos cardiau adnabod i fynd i mewn i'r adeilad wrth fynedfa Plas y Parc. Gall myfyrwyr gyrchu a dangos eu cerdyn adnabod trwy'r App Myfyrwyr
Gwybodaeth Hygyrchedd
Mae mynediad gwastad at y Prif Adeilad o Blas y Parc.
Mae mynediad o Faes yr Amgueddfa drwy stepiau. Mae gan y brif fynedfa a’r fynedfa ganolog goleddfau isel a drysau awtomatig.
Mae mynediad gwastad drwy’r brif fynedfa ar y chwith gyda drysau awtomatig.
Mae’r lifft wedi’i lleoli yn yr adain ddeheuol (mynedfa i’r chwith), drwy’r set gyntaf o ddrysau dwbl ar y dde. Mae’r lifft yn gwasanaethu pob llawr a hanner lloriau; yr islawr isaf (-2), islawr (-1), gwaelod (0), lefel hanner cyntaf (1), llawr cyntaf (2).
Gall fod angen cymorth ar rai i weithredu’r lifft gan fod angen agor a chau dau ddrws trwm. Ewch I’r dderbynfa neu ffoniwch y dderbynfa ar 029 2068 8537 os oes angen cymorth arnoch.
Mae’r ffreutur wedi’i leoli ar y llawr gwaelod. O’r fynedfa hygyrch Plas y Parc, dilynwch y coridor i’r dde ac mae’r ffreutur ar y dde.
Mae yna doiled hygyrch neillryw wedi’i lleoli ar y llawr waelod, yn yr adain ddeheuol (rhif ystafell 0.35).
View access information on DisabledGo
Parcio
Mae gennym amrywiaeth o drefniadau hyblyg ar gyfer parcio staff and pharcio myfyrwyr ar yr campws.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae 116 lle i barcio beic yn y lleoliad hwn.
Cyfleusterau newid a chawodydd
Nid yw’r cyfleusterau cawod a newid ar gael ar hyn o bryd.
Lleoliad ffynhonnau yfed
Helpwch ni i ostwng nifer y poteli plastig untro drwy ail-lenwi eich potel ddŵr yn un o'n ffynhonnau yfed:- Llawr gwaelod - Coridor y gogledd wrth ymyl 0.91
- Llawr gwaelod - 0.45 drws nesaf i’r sinc yn ystafell y Rhag Is-Ganghellor
- Llawr cyntaf - Gyferbyn â Siambr y Cyngor wrth y llyfrgell
Ystafelloedd cyfarfod
Enw | Capasiti | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Darlithfa 1.25 | 65 | Rhagor o fanylion | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa Beverton 1.40 | 70 | Rhagor o fanylion | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa Cemeg Fach 1.122 | 160 | Rhagor o fanylion | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa fawr Cemeg 1.123 | 220 | Rhagor o fanylion | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa fawr Shandon -1.64 | 204 | Rhagor o fanylion | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa Wallace 0.13 | 146 | Rhagor o fanylion | ||||||||
|
||||||||||
Oriel Viriamu Jones | 200 | Rhagor o fanylion | ||||||||
|
||||||||||
Siambr y Cyngor, Y Prif Adeilad | 60 | Rhagor o fanylion | ||||||||
|