Darlithfa Cemeg Fach 1.122
1.122 ystafell
1 llawr
Y Prif Adeilad
Plas y Parc
CF10 3AT
Rhagor o wybodaeth am yr adeilad hwn
Cynlluniau llawr
- Main-Building-First-Floor-North-and-South-Wings
- Main-Building-First-Floor-Central
- Main-Building-Ground-Floor-South-and-North-Wings.pdf
Golygfa 360°
360° viewArchebu ystafell
Gallwch archebu’r ystafell hon ar gyfer gweithgaredd astudio penodol drwy eich Tiwtor neu aelod staff. Gall cymdeithasau gadw lle drwy ebostio: societies@caerdydd.ac.uk.
Dylai’ch defnydd o’r ystafell hon gydymffurfio gyda thermau ac amodau’r Brifysgol.
Manylion ystafell
Cynllun yr ystafell | Lecture theatre |
---|---|
Seddi | Fixed, Tiered |
Capasiti | 160 |
Dangosydd | Projector/large display (2), Audio playback |
Recordio Learn Plus | Own device, Visualiser, Lectern PC, Room camera, Lapel microphone, Hand held microphone, Lectern microphone |
Arall | Interactive monitor, Whiteboard, Dimmable lights, Fixed projection screen |
Mynediad
O fynedfa Adain y De (prif fynedfa ar y chwith o Blas y Parc) ewch yn y lifft i’r llawr cyntaf; mae’r llawr cyntaf ar lefel 2 ar reolyddion y lifft. Gall fod angen cymorth ar rai i weithredu’r lifft hwn, gweler y prif dudalen am ragor o wybodaeth.
Ewch ar hyd y coridor i’r dde; yn y man canolog mae yna ddau ramp weddol serth, a gall fod angen cymorth ar rai. Ewch ar hyd y coridor i’r adran Cemeg ac mae’r ddarlithfa yn syth ymlaen.
Cyfleusterau
Dyma ddarlithfa gyda seddi sefydlog, rhenciog. Nid oes llefydd dynodedig i gadeiriau olwyn ar hyn o bryd. Mae cynlluniau’r dyfodol yn mynd i’r afael â’r mater; yn y cyfamser, fodd bynnag, archebwch ystafell arall os oes angen mynediad i gadair olwyn. Mae’r ddarlithfa wedi’i osod a chylchwifren ar gyfer pobl gyda nam ar y clyw a bwrdd gwyn y gellir ei addasu.
Gwacáu mewn argyfwng
Ni allwch ddefnyddio’r lifft mewn digwyddiad o wacáu mewn argyfwng. Os oes angen cymorth arnoch i adael yr adeilad, ewch i’r man cysgodi agosaf (ger y grisiau) i ffonio diogelwch.
Os ydych yn dymuno trafod amgylchiadau unigol wrth adael y Prif Adeilad mewn digwyddiad o wacáu mewn argyfwng, ewch i’r dderbynfa neu ffoniwch 029 2087 6917, fel arall ebostiwch estate-accessibility@caerdydd.ac.uk.