Canolfan Diogelwch a'r Ystafell Reoli
Canolfan Diogelwch
70 Plas y Parc
CF10 3AT
Rhagor o wybodaeth am yr adeilad hwn
Oriau agor
Dydd Llun | Ar agor 24 awr |
---|---|
Dydd Mawrth | Ar agor 24 awr |
Dydd Mercher | Ar agor 24 awr |
Dydd Iau | Ar agor 24 awr |
Dydd Gwener | Ar agor 24 awr |
Dydd Sadwrn | Ar agor 24 awr |
Dydd Sul | Ar agor 24 awr |
Mae’r oriau agor hyn ar gyfer yr wythnos hon.
Cysylltu â ni
Ystafell Rheoli Diogelwch
Codi a Chario
Cardiau adnabod
Codi a Chario
Codi a Chario
Gwybodaeth
Mae’r Ganolfan Diogelwch a’r Ystafell Reoli wedi’u lleoli ar Blas y Parc ar yr un ochr ag Adeilad Syr Martin Evans ac yn gartref i Wasanaethau Diogelwch a’r Tîm Porthora. Ar wahân i weithredu’r ystafell Reoli, ac yn gwerthu cloeon D diogel ar gyfer beiciau i staff a myfyrwyr am bris gostyngol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am ba cloeon beiciau sydd ar gael a beth yw'r gost.
Bellach, nid yw’r Ganolfan Ddiogelwch ym Mhlas y Parc yn rhyddhau cardiau adnabod. Dewch i wybod am y lleoedd y gallwch chi eu cael.
Mae’r Ystafell reoli yn cael ei gynnal yn unol â Chanllawiau’r Swyddfa Gartref, yn gweithredu 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnosol. Dyma le mae camerâu Teledu Cylch Cyfyng yn cael eu monitro, gyda’r holl ddelweddau yn cael eu storio ar recordwyr disg caled. Mae’r delweddau a gymerir gan y recordiau yn gallu cael eu defnyddio fel tystiolaeth o drosedd a gyflawnwyd yn erbyn staff, myfyrwyr ac eiddo’r Brifysgol. Nodwch, nid ydym yn caniatáu gwylio ffilmiau Teledu Cylch Cyfyng. Bydd unrhyw ddigwyddiad a fydd yn gofyn i chi wneud cais angen cael ei hysbysu i'r Heddlu.
Mae staff yr Ystafell Reoli yn cynnal lefel uchel o wasanaeth drwy gydol y dydd a’r nos, gweithredu ffonau argyfwng mewnol tu allan i’r oriau swyddfa yn ogystal â monitro larymau tân a thresbaswr a systemau radio dwy ffordd sydd ar draws y ddinas.