Adeilad Cochrane
![Adeilad Cochrane](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0014/53402/3501.19350.file.eng.500.280.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format )
Caerdydd
CF14 4YU
- +44 (0)29 2068 8200
Dogfennau cysylltiedig
Os na all eich meddalwedd cynorthwyol ddarllen y dogfennau hyn, gallwch ofyn am fersiwn hygyrch drwy anfon ebost at web@caerdydd.ac.uk. Nodwch enw'r ddogfen, yr offer cynorthwyol rydych yn ei ddefnyddio a'r fformat sydd ei angen arnoch.
Gwybodaeth
Mae Adeilad Cochrane wedi’i leoli ar Ffordd Parc y Mynydd Bychan, drws nesaf i Adeilad Neuadd Meirionnydd.
Gwybodaeth Hygyrchedd
View access information on DisabledGo
Parcio
Y meysydd parcio i Adeilad Cochrane yw meysydd parcio 16, 17 ac 18. Mae yna dri lle parcio hygyrch ym maes parcio 17.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae 96 lle i barcio beic yn y lleoliad hwn.
Cyfleusterau newid a chawodydd
Nid yw’r cyfleusterau cawod a newid ar gael ar hyn o bryd.
Lleoliad ffynhonnau yfed
Helpwch ni i ostwng nifer y poteli plastig untro drwy ail-lenwi eich potel ddŵr yn un o'n ffynhonnau yfed:- Llawr gwaelod - Am y gornel o 0.29
- Llawr 1af - Gyferbyn â thoiled y menywod yn y cyntedd
Gwacâd
Mae'r allanfa mewn argyfwng wedi ei labelu'n glir (symbol dyn gwyrdd yn rhedeg). Cymerwch amser i gyfarwyddo â'r allanfeydd a'r llwybrau ymadael.
Os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch chi mewn achos o wacáu brys, rhaid i chi drefnu Cynllun Gwacáu Personol (PEEP) cyn gynted ag y medrwch chi. Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'w Cyswllt Anabledd Myfyrwyr yn eu hysgol i drefnu PEEP. Bydd angen i aelodau staff roi gwybod i'w Cyswllt Anabledd Adrannol neu o fewn eu hysgol i drefnu PEEP. Cofiwch taw eich cyfrifoldeb chi yw hi i roi gwybod i'r unigolyn perthnasol bod angen PEEP arnoch.
Mewn achos o argyfwng, nid oes hawl defnyddio lifftiau. Os nad yw hi'n bosibl i chi adael yr adeilad yn ddiogel drwy ddefnyddio'r grisiau, ceir mannau lloches diogel o fewn pob twll grisiau ar bob llawr uwch. Mae arwyddion clir yn nodi'r mannau lloches. Pan ydych chi yn y man lloches, mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r ffonau sy'n galw Adran Diogelwch y Brifysgol. Rhowch wybod iddynt am eich lleoliad a bod angen cymorth arnoch. Bydd yr Adran Diogelwch yn rhoi gwybodaeth i chi ac yn eich cysuro. Bydd angen i chi aros yn y man lloches nes cewch chi gyngor arall neu gymorth. Mae mannau lloches yn darparu gofod diogel am o leiaf 30 munud os oes tân yn yr adeilad.