Rhinweddau graddedigion
Rhagor o wybodaeth am sut i ymgorffori ein rhinweddau graddedigion ym mhortffolio eich Ysgol.
Mae ein Is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr yn amlinellu ein dyhead i alluogi ein myfyrwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang sydd ag ymwybyddiaeth gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae ein rhinweddau graddedigion wedi’u datblygu er mwyn adlewyrchu gofynion cyflogwyr a chefnogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau uwch a rhoi cyfleoedd iddynt baratoi ar gyfer swyddi arwain.
Wrth baratoi rhaglenni newydd a gwneud newidiadau iraglenni cyfredol, bydd rhaid i Ysgolion ddangos eu bod wedi integreiddio’r rhinweddau yn eu rhaglenni yn ogystal â’n hegwyddorion o ran strwythur, cynllun a dull cyflwyno rhaglenni.
I’r Ysgolion hynny sy’n mynd trwy’r broses ailddilysu, bydd angen i’r holl raglenni ddangos eu bod wedi ymgorffori’r holl rinweddau’n llawn.
Y rhinweddau a ymgorfforir gan ein graddedigion
Mae graddedigion o Brifysgol Caerdydd yn:
Cydweithio
- Cyfrannu’n gadarnhaol ac yn effeithiol wrth weithio mewn tîm, ac yn gwneud gwahaniaeth o’r dechrau
- Dangos brwdfrydedd, a’r gallu i ysgogi eu hunain a dylanwadu’n gadarnhaol ar eraill trwy gyfrifoldebau a gytunwyd arnynt mewn cyfarfod
- Dangos parch at swyddogaethau’r lleill a chydnabod cyfyngiadau eu sgiliau/profiad nhw.
Cyfathrebu'n effeithiol
- Gwrando ar eraill ac ystyried eu safbwyntiau
- Cyfathrebu syniadau cymhleth yn effeithiol i gynulleidfaoedd amrywiol
- Cyfrannu at drafodaethau, negodi a chyflwyno’n effeithiol
- Rhoi, derbyn a defnyddio adborth adeiladol
- Cyfathrebu’n broffesiynol, gan gynnwys drwy eu proffiliau ar-lein a’u proffiliau cyfryngau cymdeithasol, a bod yn ymwybodol o sut y gallai eraill ddehongli geiriau a gweithredoedd.
Ymwybyddiaeth foesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol
- Ystyried eu cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol personol a phroffesiynol
- Dangos gonestrwydd, dibynadwyedd a gallu personol a phroffesiynol
- Deall sefydliadau, eu rhanddeiliaid a’u heffaith ar y gymuned.
- Gwneud rhywbeth ymarferol dros hyrwyddo hawliau dynol, dathlu amrywiaeth ac ehangu cynhwysiant
- Cofio am Argyfwng yr Hinsawdd a Nodau Cynaliadwy’r CU
- Ymddwyn fel dinasyddion byd-eang, gan ymgysylltu a gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol trwy gael profiad ymarferol mewn gwledydd eraill.
Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol
- Adnabod, diffinio a dadansoddi materion a syniadau cymhleth gan feddwl yn feirniadol i werthuso ffynonellau o wybodaeth.
- Arddangos chwilfrydedd deallusol a cheisio meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth
- Ymchwilio i broblemau a chynnig datrysiadau effeithiol, myfyrio a dysgu o lwyddiannau a methiannau.
Arloesi, mentro a chael ymwybyddiaeth fasnachol
- Creu syniadau gwreiddiol a defnyddio dull creadigol, llawn dychymyg a dyfeisgar o feddwl wrth ymateb i anghenion a phroblemau.
- Cymryd yr awenau wrth weithredu ar eu syniadau eu hunain a syniadau eraill, cydbwyso’r risgiau a’r canlyniadau posib a gwneud i bethau ddigwydd
- Bod yn hyderus wrth ddilyn llwybr gyrfa hyfyw a gwobrwyol mewn entrepreneuriaeth
- Deall sefydliadau, eu rhanddeiliaid a’u heffaith ar yr economi.
Adfyfyriol a chadarn
- Mynd ati’n bwrpasol i fyfyrio ar eu hastudiaethau, eu cyflawniadau a’u hunaniaeth
- Dangos gwytnwch, hyblygrwydd a chreadigrwydd i ddelio â heriau, ac yn barod i dderbyn newid
- Adnabod a chyfleu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth eu hunain yn hyderus ac mewn amrywiaeth o gyd-destunau
- Ystyried syniadau, cyfleoedd a thechnolegau newydd, adeiladu ar wybodaeth a phrofiad i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol eu hunain
- Gosod nodau uchelgeisiol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol parhaus, cynllunio’n effeithiol ac ymroi i ddysgu gydol oes.
Cysylltu
Os oes angen cymorth arnoch i gynnwys rhinweddau graddedigion yn eich rhaglenni, cysylltwch â'ch Partner Busnes yn y tîm Dyfodol Myfyrwyr:
Coleg | Cysylltu | Ebost |
---|---|---|
Y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol | Jon Forbes | forbesj3@caerdydd.ac.uk |
Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg | Llinos Carpenter | carpenterl1@caerdydd.ac.uk |
Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd | Joanne Jenkins | jenkinsj6@caerdydd.ac.uk |
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: