Ewch i'r prif gynnwys
Cardiff University logoMewnrwyd staff
Search MenuEnglish language iconEnglish

Disgwyliadau sefydliadol ynghylch strwythur, dyluniad a darpariaeth rhaglenni

Dewch i wybod sut i ymgorffori ein disgwyliadau sefydliadol ym mhortffolio eich ysgol.

Datblygwyd cyfres o ddisgwyliadau sefydliadol o ran strwythur, dyluniad a darpariaeth rhaglenni sy'n amlinellu'r gofynion sylfaenol allweddol a ddylai fod yn rhan o holl raglenni Caerdydd. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n

Trosolwg o'r disgwyliadau sefydliadol

Bydd yn rhaid ichi gyfeirio at y rhain pan fyddwch chi’n datblygu rhaglen newydd neu'n adolygu rhaglenni sy’n bodoli eisoes.

Cymryd agwedd tîm at ddatblygu eich rhaglen

Os ydych chi'n datblygu rhaglen newydd, yn gwneud newidiadau mawr mewn rhaglenni sy'n bodoli eisoes neu'n gwneud gwaith ailddilysu, bydd yn rhaid ichi greu tîm datblygu.

Gall ysgogi arbenigedd gan ystod ehangach o staff gwasanaeth academaidd a phroffesiynol roi'r cymorth a'r gefnogaeth y bydd eu hangen arnoch wrth feddwl am 'sut' yr ydych yn llunio blociau adeiladu'r rhaglen wrth i chi sicrhau eich bod yn bodloni holl ddisgwyliadau'r sefydliad.

Ar gyfer rhai rhaglenni efallai yr hoffech ystyried ehangu'r tîm datblygu i gynnwys rhanddeiliaid, cynrychiolwyr cleifion ac ati yn y dyfodol. Pan fo'r cynigion yn cynnwys ysgolion eraill, bydd angen i chi sicrhau bod eich cydweithwyr yn ymwneud yn agos â'r broses ddatblygu.

Pwy y dylwn i eu cynnwys yn fy nhîm datblygu?

Bydd angen i'ch tîm datblygu ddefnyddio amrywiaeth o arbenigedd yn dibynnu ar natur y cynnig; fodd bynnag, dylai’r ymgynghoriad ar y cynnig gynnwys o leiaf y canlynol:

  • Academi Dysgu ac Addysgu: Mae Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd yn dod ag arbenigwyr ym maes dysgu ac addysgu ynghyd i gefnogi staff i ddarparu profiad atyniadol a chynhwysol i'r holl fyfyrwyr. Gallant weithio ar y cyd â chi i nodi eich anghenion a'ch dyheadau o ran datblygu cwricwlwm (fel unigolyn neu dîm rhaglen), gan drafod opsiynau wedi'u teilwra ac arferion gorau gyda chi, rhannu enghreifftiau, perthnasol â chi a'ch cyfeirio at ddigwyddiadau ac adnoddau DPP priodol.
  • Staff o’r Tîm Dyfodol Myfyrwyr yn arbennig lle bydd rhaglen yn cynnwys darpariaeth cyflogadwyedd/lleoliad, a/neu symudedd rhyngwladol.
  • Ystod eang o fyfyrwyr o'ch Ysgol eich hun. Wrth ddatblygu eich rhaglen, dylech ystyried sut y gall ystod o fyfyrwyr gyfrannu at ddylunio rhaglenni, dulliau cydweithredol o addysgu, asesu a defnyddio technolegau digidol ac adnoddau eraill i gefnogi eu dysgu. Gall gweithio mewn partneriaeth â'ch myfyrwyr ddarparu cyfleoedd i gyd-greu dysgu ac addysgu sy'n rhan allweddol o'n hymrwymiad i fyfyrwyr.
  • Cynrychiolwyr o Ysgolion eraill sy'n rhannu modiwlau/rhaglenni: Bydd angen i chi ystyried arbenigedd staff ychwanegol yn seiliedig ar yr ystod o ddisgyblaethau sy'n cael eu datblygu, er enghraifft darpariaeth Cydanrhydedd. Rhaid canolbwyntio ar ddatblygu rhaglen gydlynol sy'n integreiddio'r holl ddisgyblaethau pwnc hyd yn oed os yw myfyrwyr yn eu hastudio mewn gwahanol Ysgolion/adrannau.
  • Cyfaill beirniadol sydd ag arbenigedd yn y maes pwnc a all roi cyngor a chefnogaeth yn uniongyrchol ac yn anffurfiol i'ch tîm datblygu.
  • Arbenigedd gwasanaeth academaidd a phroffesiynol allweddol yn eich Ysgol (a'r tu allan os yw'n gynnig ar y cyd) i gynghori ar gynnwys, ar asesu, ar gyflwyno, ac ar unrhyw ofynion corff proffesiynol.
  • Bwrdd Astudiaethau: i sicrhau bod cyfleoedd ychwanegol i ystod ehangach o staff wneud sylwadau/trafod cyn iddo gael ei gyflwyno i gael ei gymeradwyo.
  • Swyddog Ansawdd a Swyddog Addysg eich Coleg: Byddant yn gallu rhoi cyngor ar unrhyw ofynion rheoliadol gan ei bod yn bwysig bod y rhain yn cael eu cadarnhau cyn iddo gael ei gyflwyno i gael ei gymeradwyo e.e., rheolau dilyniant a dyfarnu.

Teitlau dyfarniad a rhaglenni

Ar ôl i chi benderfynu ar y Dyfarniad priodol ac unrhyw Ddyfarniadau Ymadael ar gyfer y rhaglen, er enghraifft MSc, Diploma Ôl-raddedig a Thystysgrif Ôl-raddedig, bydd angen i chi feddwl yn ofalus beth yw'r teitl mwyaf priodol y rhaglen sy'n adlewyrchu orau'r cynnwys ac yn cyfateb yn glir i'r lefel FHEQ sy'n cael ei astudio gan y bydd hyn yn ymddangos ar y dystysgrif ffurfiol.

Mae'n debyg y bydd hon yn broses ailadroddol gan ei bod yn gysylltiedig â llawer o'r pwyntiau a drafodir isod, er enghraiff strwythur, nodau a chanlyniadau'r rhaglen. Mae’ n bosibl na fydd y rhaglen y byddwch yn dechrau gyda hi yr un peth â’r un a fydd gennych erbyn y diwedd wrth i'r strwythur, y dyluniad a'r ddarpariaeth esblygu wrth i’r rhaglen ddatblygu.

Rhaglenni sy'n cynnwys astudio dwy ddisgyblaeth neu fwy

Os yw eich rhaglen yn cynnwys cyfraniad o ddwy ddisgyblaeth naill ai o fewn neu y tu allan i'ch Ysgol (er enghraiff cyd-anrhydedd), mae rhai pethau allweddol i'w hystyried wrth edrych ar strwythur ac ar gonfensiynau enw'r rhaglen:

Os caiff y ddwy ddisgyblaeth eu hastudio mewn cydbwysedd cyfartal (50/50) ar draws y rhaglen, ystyrir mai rhaglenni Cyd-anrhydedd ydynt a bydd angen i chi roi'r gair 'a' rhwng y ddwy ddisgyblaeth.

Os yw eich rhaglen wedi'i strwythuro fel bod mwy o bwyslais ar un pwnc nag ar y llall, mae hwn yn gyfuniad mawr/bach.

Lle y cynigir dwy ddisgyblaeth neu fwy yn strwythur rhaglen, mae angen i Ysgolion ystyried realiti ymarferol cyflwyno'r rhaglen hyd yn oed os yw'r disgyblaethau eraill o fewn yr un Ysgol.  Mae cynaliadwyedd a gwydnwch rhaglenni yn ystyriaethau allweddol i ddarparu profiad myfyrwyr o ansawdd uchel yn ogystal â hanfodion amserlennu a chymhlethdodau staffio.

Mae cael nodau a deilliannau rhaglenni clir yn golygu bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r hyn y disgwylir iddynt ei gyflawni erbyn diwedd eu rhaglen.  Wrth ddatblygu rhaglen newydd, mae nodau rhaglenni clir, a deilliannau yn eich galluogi i:

  • Dylunio nodau, amcanion a chwricwla sy'n cefnogi rhinweddau graddedigion Prifysgol Caerdydd. Bydd hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd o fewn eich disgyblaeth ac yn ogystal â datblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol.
  • Dylunio strwythur y rhaglen mewn ffordd gydlynol gan ystyried y datganiadau meincnod pwnc priodol a chanllawiau yr FHEQ.
  • Sicrhau bod nodau a deilliannau eich modiwl yn cael eu pennu ar y lefelau priodol (4,5,6,7 ac ati) sy'n dangos sut y maent yn mapio'n glir i nodau a chanlyniadau'r rhaglen.
  • Cynllunio strategaeth asesu rhaglenni gydlynol y gellir ei rhaeadru i lawr er mwyn sicrhau bod nodau'r modiwl, a deilliannau yn cael eu hasesu mewn ffordd briodol.

Wrth edrych ar 'sut' y bydd eich rhaglen yn cael ei strwythuro a'i dylunio, mae rhai ystyriaethau allweddol a fydd yn gysylltiedig â nodau eich rhaglen ac â deilliannau dysgu ar lefel rhaglen.  Fel y nodwyd eisoes, mae datblygu eich rhaglen yn broses ailadroddol a fydd yn gofyn am amser i ailystyried, diwygio ac adnewyddu dyluniad a datblygiad eich rhaglen. Amlinellir y pethau allweddol i'w hystyried isod.

Cynnwys craidd/gofynnol yn erbyn dewisoldeb

Er y bydd pob disgyblaeth pwnc yn wahanol, mae’n rhaid mai un o’r ystyriaethau allweddol yw maint y cynnwys craidd/gofynnol yn strwythur y rhaglen. Diben darparu 'asgwrn cefn' craidd i'r rhaglen yw y gall helpu i gefnogi gwybodaeth a dealltwriaeth allweddol myfyrwyr gan eu galluogi i symud ymlaen drwy eu rhaglen.  Mae bod yn gallu dewis yn darparu dysgu ychwanegol ac atodol i'r myfyriwr sy'n adeiladu ar y sylfeini a ddarperir drwy'r 'asgwrn cefn' craidd.

Os nad oes digon o elfen graidd/ofynnol neu lefelau uchel iawn o rai dewisol, a allwch fod yn hyderus y gall pob myfyriwr gyflawni ei ddeilliannau dysgu ar lefel rhaglen?

Cynaliadwyedd a gwydnwch y rhaglen.

Gall cyfleoedd i fyfyrwyr weithio ar draws ffiniau Ysgol/disgyblaeth lywio trafodaethau ynghylch y farchnad arfaethedig ar gyfer y rhaglen yn ogystal â'i hynodrwydd/unigrywiaeth.  Wrth gwrs, rhaid cydbwyso hyn â'r adnoddau sydd ar gael i chi er mwyn sicrhau eich bod yn hyderus y gallwch ddarparu profiad myfyriwr o ansawdd uchel.

Os yw eich rhaglen yn dibynnu ar ychwanegu/tynnu modiwlau'n sylweddol bob blwyddyn, gall myfyrwyr gael anawsterau os caiff modiwlau eu tynnu'n hwyr yn y flwyddyn academaidd gan arwain at amserlenni’n gwrthdaro gan leihau'r dewis gwirioneddol.

Bydd lefelau cymesur o ddewisol sy'n gynaliadwy ac yn wydn yn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr symud drwy eu rhaglen a chael y dewisiadau y maent am eu cael heb gael eu siomi.

Dylid ystyried diwydiant yn cymryd rhan yn nyluniad a chyflwyno’r cwricwlwm, heriau byd go iawn a phrosiectau ymgynghori, lleoliadau gwaith ( o fewn a thu allan i’r Brifysgol), gan gynnwys cyfleoedd i gefnogi datblygu cynaliadwy, profiadau byd-eang, a gweithgareddau menter/entrepreneuriaeth.

Gall staff o’r Tîm Dyfodol Myfyrwyr yn enwedig lle bydd rhaglen yn cynnwys darpariaeth cyflogadwyedd/lleoliad, a/neu symudedd rhyngwladol eich cefnogi yn y maes hwn.

Mae asesu yn ganolog i brofiad dysgu myfyrwyr ac yn llywio'r ffyrdd y mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ati i ddysgu. O’r herwydd, mae’n elfen allweddol ac annatod o weithgareddau cynllunio’r cwricwlwm. Dylai cynllun asesu da gyda strategaeth asesu lefel rhaglen glir ddangos i fyfyrwyr y cysylltiadau rhwng cynnwys y cwricwlwm, gweithgareddau addysgu a dysgu, a'r aliniad â'r canlyniadau dysgu.

Dylai asesiadau gael eu cynllunio i gymell myfyrwyr i ymgysylltu â dimensiynau deallusol, ymarferol a phroffesiynol tasg, yn ogystal â bod yn heriol, fel bod myfyrwyr yn dod yn fwy annibynnol, fel bod llai o angen adborth arnynt i gefnogi gwelliant.

Gall yr Academi Dysgu ac Addysgu roi cyngor ac arweiniad ar ymholiadau sy'n ymwneud ag asesu.

Llwyth asesu ac amserlennu

Wrth gynllunio eich asesiad, bydd angen i chi sicrhau bod cysondeb (neu gywerthedd) yn y llwyth asesu ar gyfer modiwlau o'r un gwerth credyd.  Wrth ddylunio (neu adolygu) eich asesiad, dylid rhoi pwyslais ar gysondeb er mwyn osgoi gor-asesu a thanasesu mewn rhai meysydd.

Dylid ystyried lledaeniad, nifer a dulliau asesu gan gofio modiwlau cydredol eraill er mwyn sicrhau nad yw baich asesu’n ormodol ac osgoi 'cyrchu' lle bo modd.  Dylai myfyrwyr dderbyn trosolwg o derfynau amser asesu rhaglenni ar ddechrau'r rhaglen oherwydd gallai hyn effeithio ar eu dewis o fodiwlau i reoli llwyth gwaith.

    Edit+ for Squiz Matrix v

Datblygu meini prawf asesu

Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth fanwl yn nodi eu hasesiadau unigol, dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno, a phryd y bydd adborth yn cael ei ddarparu, ar ddechrau pob modiwl.  Wrth ddatblygu eich rhaglen, ymdrinnir â'r wybodaeth hon yn bennaf yn y Brifysgol safonol disgrifiad modiwl Fodd bynnag, efallai yr hoffech ychwanegu gwybodaeth ychwanegol at hwn gan gynnwys y manylion penodol meini prawf asesu.

Helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer tasgau asesu penodol trwy greu cyfleoedd iddynt ddatblygu sgiliau 'llythrennedd asesu'. Deall sut y dylid bodloni'r meini prawf asesu penodol a safonau sy'n ofynnol ym mhob tasg asesu, a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud defnydd priodol o adborth, yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu ac yn galluogi myfyrwyr i ddod yn fwy annibynnol.

Bydd sicrhau bod eich meini prawf asesu wedi’u diffinio’n glir yn ei gwneud hi’n haws i’ch myfyrwyr ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt mewn aseiniad penodol. Bydd hefyd yn eich helpu i ganolbwyntio eich adborth dilynol ar yr aseiniad i'ch myfyrwyr.

Meini prawf marcio

Dylid llunio meini prawf marcio i helpu myfyrwyr i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddyn nhw. Efallai y bydd yn rhaid ichi ddatblygu ystod o feini prawf marcio gan ddibynnu ar natur yr asesiad.

Mae’n rhaid creu meini prawf marcio manwl ar gyfer gwaith grŵp a asesir, asesu cyflwyniadau dosbarth, hunanasesu / asesu gan fyfyrwyr eraill yn ogystal â sicrhau eu bod ar gael i fyfyrwyr ac arholwyr allanol.

O ran gwaith grŵp, yn aml bydd yn ddymunol dyfarnu marc grŵp ac unigol, er mwyn gwneud yn siŵr bod cyfraniadau unigolion i'r dasg yn cael eu cydnabod. Dylid nodi sut y pwysolir y marc grŵp a'r marc unigol a sut mae'r marciau'n cael eu cyfuno yn nisgrifiad y modiwl.

Cysylltu â'r Academi Dysgu ac Addysgu

Os oes angen cymorth arnoch, fe'i cewch gan yr Academi Dysgu ac Addysgu.

Mae gan yr Academi Dysgu ac Addysgu ystod eang o arbenigedd i'ch cefnogi o ran eich cynigion i'w datblygu y tu hwnt i'r gofynion sylfaenol.

Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd


Helpwch i wella'r dudalen hon

Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:


Helpwch i wella'r dudalen hon

Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: