Ewch i'r prif gynnwys
Cardiff University logoMewnrwyd staff
Search MenuEnglish language iconEnglish

Gweminar ar gyfer pob aelod o staff - 21 Hydref

15 Hydref 2020

Cardiff University logo

Ymunwch â ni ar gyfer gweminar i’r holl staff ddydd Mercher 21 Hydref am 15:00 pan fyddwn yn trafod mesurau diogelwch y coronafeirws (COVID-19) gyda gwesteion o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Chyngor Caerdydd. Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad.

Ymunwch â'r Is-Ganghellor, Colin Riordan, a gwesteion allanol o'r bartneriaeth Profi, Olrhain a Diogelu i gael sesiwn Holi ac Ateb ar fesurau diogelwch coronafeirws (COVID-19):

  • Dr Gwen Lowe: Ymgynghorydd mewn Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Fiona Kinghorn: Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Isabelle Bignall: Profi, Olrhain a Diogelu, Cyngor Caerdydd

Cyn diwedd yr wythnos, bydd pob aelod staff yn cael gwahoddiad calendr ar Microsoft Outlook ar gyfer 15:00 - 16:00 ar 21 Hydref, gyda chyfarwyddiadau ar sut i ymuno â'r gweminar. Cadwch lygad am y gwahoddiad a'i dderbyn neu wrthod fel y gallwn gael rhyw syniad am y niferoedd.

Cliciwch yma i ymuno â’r gweminar - efallai bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad ebost a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Caerdydd os nad ydych eisoes wedi mewngofnodi.

Y Prif Swyddog Gweithredol, Claire Sanders fydd yn cadeirio'r sesiwn, a bydd yn derbyn cwestiynau gan staff yn ystod y sesiwn ac yn eu gofyn i'r panel.

Diolch i bawb a gyflwynodd gwestiynau cyn y terfyn amser am 12:00 dydd mawrth 21 Hydref - cyn y digwyddiad. Bydd staff hefyd yn gallu gofyn cwestiynau yn y gweminar. Ni fyddwn yn cyhoeddi unrhyw gwestiynau dienw.

Byddwn yn recordio'r cyfarfod ar gyfer y rheiny nad ydynt yn gallu ymuno.

Bydd cyfieithiad Cymraeg ar ffurf testun. Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd neu'n dymuno gofyn cwestiwn yn Gymraeg, ebostiwch internalcomms@caerdydd.ac.uk.