Ewch i'r prif gynnwys
Cardiff University logoMewnrwyd staff
Search MenuEnglish language iconEnglish

Atebion i gwestiynau o weminarau staff

30 Medi 2020

Cardiff University logo

Diolch i'r bron i 2,300 o aelodau staff a gymerodd ran yn ein gweminar staff ar 23 Medi i glywed mwy am ein cyllid. Dewch i ganfod yr atebion i'ch cwestiynau a'n helpu i wella'r digwyddiad nesaf.

Rhoddodd yr Is-Ganghellor, Colin Riordan a'r Prif Swyddog Ariannol, Rob Williams, y wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio myfyrwyr a'n sefyllfa ariannol presennol.

Rhoddodd y Prif Swyddog Gweithredu Dros Dro, Claire Sanders a Rhag Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Ian Weeks, y newyddion diweddaraf i staff am ddiogelwch ar y campws a'n gwasanaeth sgrinio COVID-19 newydd.

Atebodd aelodau o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol gwestiynau a ofynnwyd gan Laura Mc Allister a gadeiriodd y sesiwn.

Gwyliwch y recordiad o'r digwyddiad.

Cymerwch funud i roi rhywfaint o adborth i ni am y digwyddiad cyn iddo gau ar ddiwedd yr wythnos hon.

Atebion i gwestiynau

Diolch i bawb a gyfrannodd -gofynnodd staff tua 160 o gwestiynau. Dyma rai atebion i gwestiynau poblogaidd:

Y sefyllfa ariannol: Mae COVID-19 ac effaith bosibl llai o refeniw ffioedd myfyrwyr wedi golygu newid digynsail ac ansicrwydd gweithredol ac ariannol sylweddol.

Mae ein sefyllfa ariannol yn ddifrifol o hyd ond mae wedi gwella oherwydd:

  • Recriwtio myfyrwyr – Mae nifer y myfyrwyr israddedig sydd wedi’u recriwtio wedi bod yn gadarnhaol dros ben ond mae’r pandemig wedi effeithio’n arbennig ar nifer y myfyrwyr rhyngwladol sydd wedi’u recriwtio - bydd gennym ddarlun cliriach ym mis Tachwedd.
  • Nifer uwch nag erioed o ddyfarniadau ymchwil y llynedd.

Addysg a myfyrwyr: Gall myfyrwyr ddewis astudio o bell ar gyfer y tymor cyntaf e.e. os oes cyfyngiadau teithio. Anfonwyd gwybodaeth at fyfyrwyr am y Polisi Astudio o Bell y byddwn yn parhau i'w hadolygu.

Iechyd a diogelwch: Iechyd, diogelwch a lles ein staff a'n myfyrwyr yw ein blaenoriaeth. Rydym wedi gweithio'n galed i roi mesurau amddiffynnol ar waith yn unol â chanllawiau swyddogol ac wedi gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a gyda Chyngor Dinas Caerdydd i sicrhau bod ein campws yn ddiogel yn y cyfnod digynsail hwn. Rydym yn cadw pellter cymdeithasol dau fetr ledled ein hadeiladau ac ym mhob man addysgu, mae angen gwisgo gorchuddion wyneb (gydag eithriadau'n cael eu cydnabod) ac mae gennym gyfundrefnau hylendid gwell ar waith. Cymeradwywyd y mesurau rheoli hyn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac, os cânt eu dilyn, byddant yn helpu i sicrhau bod ein campws yn ddiogel rhag COVID. Rhagor o wybodaeth am ein campws diogel

Awyru mewn adeiladau: Bydd ystadau'n parhau i gynnal a monitro'r holl systemau a gosodiadau awyru wrth i'r Brifysgol ddefnyddio mwy o’i hadeiladau. Rhagor o wybodaeth am awyru mecanyddol a naturiol

Gwasanaeth sgrinio Prifysgol Caerdydd: Dim ond ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a staff sy'n dod i’r campws y crëwyd y gwasanaeth. Ni chynigir profion i aelodau eraill o'r teulu neu'r aelwyd.  Ni chaniateir profi pobl nad ydynt ym Mhrifysgol Caerdydd am wasanaeth sgrinio cymunedol heb ei achredu. Cynghorir unrhyw un sy'n profi'n bositif i hunan-ynysu a threfnu prawf i gadarnhau trwy’r GIG cyn gynted â phosibl. Rhagor o wybodaeth am y peilot ar gyfer y gwasanaeth sgrinio – bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn pan fydd y gwasanaeth yn gwbl weithredol ym mis Hydref.

Rydym wedi dileu unrhyw gwestiynau dyblyg ac ond yn cyhoeddi'r cwestiynau sy'n trin pobl eraill ag urddas a pharch, heb enwi unigolion nag unrhyw beth sy'n sarhaus i bobl eraill yn ein cymuned.