Hwb Dyfodol Myfyrwyr

Llawr 1af
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Plas y Parc
Cathays
CF10 3BB
Rhagor o wybodaeth am yr adeilad hwn
Oriau agor
Dydd Llun | 09:30-16:30 |
---|---|
Dydd Mawrth | 09:30-16:30 |
Dydd Mercher | 09:30-16:30 |
Dydd Iau | 09:30-16:30 |
Dydd Gwener | 09:30-16:30 |
Dydd Sadwrn | Ar gau |
Dydd Sul | Ar gau |
Mae’r oriau agor hyn ar gyfer yr wythnos hon.
Cysylltu â ni
Dyfodol Myfyrwyr
Gwybodaeth
Hwb Dyfodol Myfyrwyr yw eich man cychwyn ar gyfer cymorth gyrfa a chyflogadwyedd. Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 09:30 – 16:30 yn ystod y tymor, mae ein tîm o Gynorthwywyr Dyfodol Myfyrwyr yn darparu cyngor cyfeillgar, anffurfiol i’ch helpu i gymryd eich camau nesaf.
Ymwelwch â ni am gefnogaeth gyda:
- CV, llythyr eglurhaol, a gwiriadau proffil LinkedIn - nid oes angen apwyntiad
- canllawiau ar ble i ddod o hyd i brofiad gwaith a swyddi i raddedigion
- cyngor ar astudio, gweithio, neu gyfleoedd gwirfoddoli dramor
- gwybodaeth am ddigwyddiadau cyflogwyr, ffeiriau gyrfaoedd, a rhaglenni datblygu sgiliau
- cynghorion ar strwythuro ymatebion cyfweliad a rheoli nerfau cyfweliad
- cefnogaeth i fyfyrwyr gyda syniadau busnes
Mae’r Hwb hefyd yn gartref i’n hapwyntiadau galw heibio Gofynnwch i Gynghorydd, y gellir eu harchebu ar y diwrnod o 08:30 drwy eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr. Mae llawer o'n hapwyntiadau cynghorydd gyrfa 1:1 yn digwydd yma hefyd.
Dysgwch fwy am wasanaethau ychwanegol Dyfodol Myfyrwyr yn bersonol ac ar-lein, gan gynnwys offer fel Graduates First, Gwiriwr CV, a Dyfodol Myfyrwyr+, sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i wella'ch cyflogadwyedd a chynllunio ar gyfer eich dyfodol.