Ewch i'r prif gynnwys
Cardiff University logoMewnrwyd staff
Search MenuEnglish language iconEnglish

Prifysgol noddfa

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein prifysgol yn lle diogel a chroesawgar ar gyfer ymfudwyr dan orfod a cheiswyr lloches.

Mae ein campws yn cynnig diwylliant amrywiol a gwirioneddol ryngwladol sy'n denu'r myfyrwyr a'r staff gorau o bob cwr o'r byd. Mae mwy na 7,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 100 o wledydd bellach yn galw Caerdydd yn gartref iddyn nhw.

Cefnogi Addewid Sefydliad y Ddinas Noddfa

city of sanctuary supporting organisation

“Rydym yn cefnogi'r weledigaeth 'Dinas Noddfa' y bydd y DU yn lle diogel croesawgar i bawb ac yn falch o gynnig noddfa i bobl sy'n ffoi rhag trais ac erledigaeth.

Rydym yn cymeradwyo Siarter Dinas Noddfa ac yn cytuno i weithredu yn unol â gwerthoedd Dinas Noddfa a chymhwyso egwyddorion y rhwydwaith o fewn ein gwaith (cyn belled ag y mae ein cyd-destun penodol yn ein galluogi i wneud hynny).

Rydym yn cydnabod cyfraniad pobl sy'n chwilio am noddfa. Mae ceiswyr lloches yn cael eu croesawu, eu cynnwys a'u cefnogi yn ein cyd-destun. Rydym yn disgwyl i'n canghennau neu grwpiau lleol gefnogi eu grŵp Dinas Noddfa lleol os oes un yn bodoli, a byddwn yn hwyluso cyswllt rhyngddynt a'u grŵp Dinas Noddfa lleol.”

Prifysgol Noddfa

University of Sanctuary logo - welcoming people seeking sanctuary. Two figures celebrate with graduation caps on.

Rydyn ni wrthi’n dilyn statws Prifysgol Noddfa, sef cynllun sy'n cydnabod arferion da prifysgolion wrth groesawu, cefnogi a grymuso pobl sy'n ceisio noddfa.

Mae'r statws hwn yn hybu diwylliant o groeso, ac yn dod â gwaith presennol at ei gilydd i gefnogi ymfudwyr dan orfod a cheiswyr lloches, yn ogystal â datblygu cymorth i bobl sydd bellach wedi'u dadleoli.

Mae ein gweithgor ar y Brifysgol Noddfa yn cynnwys myfyrwyr a staff sy'n gyfrifol am gasglu gwybodaeth am ein gwaith presennol yn y maes hwn. Bydd y grŵp yn parhau i gwrdd unwaith y bydd y cais wedi’i gyflwyno, gan sicrhau ein bod yn parhau â chynlluniau i ddatblygu ein cymorth i bobl sy’n ceisio noddfa.

Isod mae rhai o'r cynlluniau cysylltiedig y byddwn ni’n tynnu sylw atyn nhw yn ein cais am statws Prifysgol Noddfa.

Dyfarniad cyfle i geiswyr lloches

Mae ein Dyfarniad Cyfle i Geiswyr Lloches yn cwmpasu cost ffioedd dysgu ac yn darparu dau opsiwn grant nad oes rhaid eu talu yn ôl. Bydd Ceiswyr Lloches sy'n cael lwfans gan y Swyddfa Gartref yn derbyn grant o £4,000 y flwyddyn. Bydd Ceiswyr Lloches sydd ddim yn cael lwfans y Swyddfa Gartref yn derbyn grant o £12,150 y flwyddyn. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25 mae chwe gwobr i ddarpar fyfyrwyr sy’n dymuno astudio ar gyrsiau israddedig neu ôl-raddedig cymwys. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd naill ai'n geiswyr lloches neu'n blant ceiswyr lloches.

Cefnogi myfyrwyr

Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yw ein canolfan un stop ar gyfer anghenion myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys aelod penodol o staff ar gyfer myfyrwyr â statws ceisiwr lloches a all roi cymorth sy’n gysylltiedig â materion academaidd, cyfeirio myfyrwyr at wasanaethau eraill, a chyfeirio myfyrwyr at gwnsela arbenigol. Mae gennym hefyd swyddog penodol i helpu myfyrwyr sydd â statws ceisiwr lloches sydd eisiau gwybod am gymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a'u lles. Darllenwch ragor ar fewnrwyd y myfyrwyr.

Caplaniaeth, ffydd a chrefydd

Mae’r Gaplaniaeth yn lle sy’n cynnig cyfeillgarwch, lletygarwch, myfyrdod, gweddi, cefnogaeth a deialog. Mae cymorth bugeiliol ac ysbrydol ar gael i staff a myfyrwyr – o bob ffydd a dim ffydd o gwbl. Dyma ein Caplaniaid.

Ehangu cyfranogiad ac allgymorth

Credwn fod addysg i bawb. Dyna pam rydyn ni’n cynnig ystod eang o raglenni a digwyddiadau allgymorth gyda’r bwriad o chwalu'r rhwystrau sy’n cyfyngu ar addysg uwch a chefnogi myfyrwyr o grwpiau penodol sy’n paratoi ar gyfer y brifysgol.

Darllenwch ragor am ein strategaeth ehangu cyfranogiad sy'n canolbwyntio ar ddatblygu diwylliant croeso.

Y Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA)

Gellir olrhain ein hanes hir o gefnogi ffoaduriaid yr holl ffordd yn ôl i 1914 pan gyrhaeddodd grŵp o 300 o ffoaduriaid o Wlad Belg Gaerdydd. Mae ein harchifau sefydliadol yn dangos bod staff yr Adran Addysg wedi rhoi addysg, cyflenwadau, a hyd yn oed barti Nadolig i’r plant a wnaeth y ddinas yn briod gartref iddyn nhw – ac mae llawer yn byw gyda thrigolion lleol.

Heddiw rydyn ni’n falch o roi cefnogaeth hirsefydlog i'r Cyngor Academyddion Mewn Perygl (CARA). Mae ein gwaith yn parhau drwy eu Cymrodoriaethau Ymchwilwyr mewn Perygl, sy’n cael eu trefnu ar y cyd ag Academïau Cenedlaethol y DU.


Helpwch i wella'r dudalen hon

Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:


Helpwch i wella'r dudalen hon

Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: