Disgwyliadau sefydliadol
Nod y disgwyliadau sefydliadol yw cynnig pwynt cyfeirio i unrhyw un sy'n datblygu rhaglen newydd neu'n gwneud diwygiadau sylweddol i raglenni presennol sy'n arwain at Ddyfarniad gan Brifysgol Caerdydd.
Mae pob adran yn amlinellu'r disgwyliadau sylfaenol ac wedi'i strwythuro ochr yn ochr â gofynion y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo rhaglenni, modiwlau, a darpariaeth arall sy'n dwyn credydau.
Cefnogaeth wedi'i thargedu i ysgolion
Bydd amrywiaeth o dimau gwasanaeth proffesiynol yn cynnig cymorth, arweiniad ac adnoddau wedi'u targedu i'ch helpu i gynllunio darpariaeth addysgol sy'n bodloni'r gofynion sylfaenol ac yn rhagori arnynt. Yn ogystal, mae’r pecyn cymorth Datblygu Addysg yn cynnig canllawiau ymarferol, adnoddau, enghreifftiau ac offer sy’n ymdrin ag ystod eang o themâu sy’n ymwneud â’r cwricwlwm, a all gefnogi timau datblygu rhaglenni i fodloni’r Disgwyliadau Sefydliadol a rhagori arnynt.
Amlinellir isod grynodeb o’r disgwyliadau sefydliadol gydag enghreifftiau o sut maen nhw wedi'u hymgorffori i raglenni a gymeradwywyd yn ddiweddar.
Diogelu uniondeb y dyfarniad
Rydym yn diogelu uniondeb holl ddyfarniadau Caerdydd trwy strwythur a deilliannau dysgu rhaglenni. Er y bydd pob pwnc yn wahanol, bydd gan ein holl raglenni:
- Ddeilliannau dysgu lefel rhaglen a lefel modiwl sydd wedi'u hysgrifennu ar y lefel FHEQ briodol ac a ddisgrifir yn nhermau'r wybodaeth, sgiliau, llythrennedd ar gyfer dysgu a rhinweddau graddedigion
- Deilliannau dysgu lefel rhaglen sy'n integreiddio gofynion Corff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddiol
- 'Asgwrn cefn' craidd gweladwy gyda 'dewisoldeb a dewis dan arweiniad' sy'n diogelu uniondeb pob dyfarniad bwriadedig ac yn adeiladu gwydnwch rhaglen.
- Mae rhaglenni sy'n rhannu modiwlau yn wahanol o ran eu strwythur, deilliannau dysgu, cynnwys y rhaglen a'u hasesiadau er mwyn diogelu uniondeb pob dyfarniad a enwir.
- Gwybodaeth am y rhaglen sy'n dangos yn glir sut mae'r deilliannau dysgu, cynnwys y rhaglen, ac asesiadau’n datblygu ar draws blynyddoedd/camau.
Datblygu asgwrn cefn craidd
Rhaid i bob rhaglen gael 'asgwrn cefn' craidd gweladwy sy'n diogelu uniondeb pob dyfarniad. Cyflawnir hyn trwy'r modiwlau craidd a/neu ofynnol y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu cymryd ym mhob blwyddyn astudio, a thrwy hynny bydd myfyrwyr yn ennill gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau allweddol wrth iddyn nhw symud ymlaen trwy bob cam o'u rhaglen.
Wrth ddatblygu strwythur eich asgwrn cefn craidd, mae'n hanfodol ystyried y canlynol:
- Sut y bydd pob cam/blwyddyn yn cael eu diffinio yn annibynnol ar ei gilydd.
- Sut mae'r strwythur, y cynnwys a'r asesiad yn adeiladu ar y galw cymharol, cymhlethdod, dyfnder y dysgu, ac ymreolaeth y dysgwr ym mhob cam/blwyddyn.
- Sut mae rhaglenni â modiwlau 'a rennir' yn cael eu gwahaniaethu'n glir yn eu strwythur, eu cynnwys, a'u hasesiadau er mwyn diogelu cyfanrwydd pob Dyfarniad.
- Sut y bydd unrhyw ofynion PSRB yn cael eu hintegreiddio i'r asgwrn cefn craidd.
Rhoddir enghreifftiau o raglenni cymeradwy gydag esgyrn cefnau craidd a saernïwyd yn ofalus yn y ddogfennaeth ategol.
Dewisoldeb a dewis dan arweiniad
Mae modiwlau dewisol yn cynnig dysgu ychwanegol ac atodol i'r myfyriwr sy'n adeiladu ar y sylfeini a ddarperir trwy'r 'asgwrn cefn' craidd. Gallant wneud rhaglen yn sylweddol fwy deniadol i ymgeiswyr a galluogi rhannau o raglen i gael eu harwain gan y dysgwr. Fodd bynnag, mae lefelau uchel o opsiynau yn aml yn arwain at wrthdaro mewn amserlenni - yn enwedig pan wneir newidiadau yn hwyr yn y cylch - ac ymdeimlad ffug o ddewis i fyfyrwyr.
Bydd lefelau cymesur o ddewisoldeb neu 'ddewis dan arweiniad' ar ffurf 'casgliadau cynnwys' lled-barhaol yn galluogi myfyrwyr i lywio drwy eu rhaglen mewn ffordd strwythuredig tra'n diogelu cyfanrwydd y dyfarniad, a gwydnwch cyffredinol y rhaglen.
Rhaglenni sy'n rhannu modiwlau
Lle mae ysgolion yn cyflwyno nifer o raglenni gyda nifer fawr o fodiwlau a rennir, rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i strwythur a chynllun y rhaglen er mwyn sicrhau na all dau fyfyriwr ar raglenni gwahanol ddewis yr un cyfuniad o fodiwlau (yn fwriadol neu ar hap a damwain) a derbyn dyfarniadau gwahanol.
Bydd angen asgwrn cefn craidd ar bob rhaglen sy'n gwahaniaethu ei hun o ran strwythur, cynnwys a deilliannau dysgu.
Mae enghreifftiau diagramatig ar gael yn y ddogfennaeth ategol sy'n amlinellu strwythur pob rhaglen (ochr yn ochr ac o flwyddyn i flwyddyn/fesul cam) a fydd yn dangos yn glir faint sy'n wahanol rhwng pob rhaglen er mwyn diogelu cyfanrwydd pob dyfarniad.
Cynaliadwyedd a gwydnwch rhaglenni
Mae diogelu rhaglenni at y dyfodol ac adeiladu eu gwydnwch yn ystyriaethau allweddol i gynnig profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr yn ogystal ag o ran amserlennu a staffio.
Wrth ddatblygu rhaglen, mae angen i Ysgolion sicrhau nad oes unrhyw bwyntiau unigol o fethiant o fewn rhaglen. Er enghraifft, bydd angen i'r holl fodiwlau craidd a gofynnol gael eu cyflwyno trwy dimau addysgu; a lle cyflwynir modiwlau dewisol yn rhannol gan ddarlithwyr unigol, rhaid i'r ysgol sicrhau bod cynllun gwydnwch ar waith i alluogi addysgu i barhau tan ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Deilliannau dysgu rhaglenni
Yng Nghaerdydd, mynegir deilliannau dysgu rhaglenni o dan y penawdau canlynol:
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth (KU): Yn cyfeirio at ffeithiau, syniadau, cysyniadau, damcaniaethau, ac egwyddorion sy'n ffurfio sylfaen wybodaeth y ddisgyblaeth.
- Sgiliau Deallusol (IS): Yn cyfeirio at y ffyrdd o feddwl a datrys problemau a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol mewn maes/pwnc.
- Sgiliau Ymarferol Proffesiynol (PS): Yn cyfeirio at sgiliau sy'n bwysig ar gyfer twf a llwyddiant personol a phroffesiynol.
- Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol (KS): Yn cyfeirio at set benodol o sgiliau sydd eu hangen yn gyffredin mewn amrywiaeth o weithgareddau mewn addysg a hyfforddiant, gwaith, a bywyd yn gyffredinol. Nid ydynt yn cael eu cymhwyso i broffesiwn/maes/pwnc penodol yn unol â Sgiliau Proffesiynol ac Ymarferol.
Ar gyfer rhaglenni sydd â gofynion PSRB penodol, bydd angen integreiddio'r rhain i benawdau safonol Prifysgol Caerdydd.
Cynnwys a dyluniad rhaglenni
Y prif themâu a amlinellir yn y Pecyn Cymorth Datblygu Addysg yw cynwysoldeb, cyflogadwyedd a chynaliadwyedd ac mae'r rhain yn sail i ddatblygu rhaglenni.
Dylai pob myfyriwr gael cyfleoedd i ymgysylltu â'r themâu hyn fel rhan o'u rhaglen academaidd. Mae'r themâu’n cynnig fframwaith ar gyfer meddwl am ddylunio ac adolygu'r rhaglen gyda lensys lluosog.
Cynwysoldeb
Mae Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd wedi’i ddatblygu i hwyluso a chefnogi ysgolion ac adrannau i ymgorffori addysg gynhwysol yn ein darpariaeth addysgol. Mae’r Pecyn Cymorth Datblygu Addysg yn archwilio llenyddiaeth, trafodaethau ac arferion addysgu mewn addysg gynhwysol ac yn cynnig gweithgareddau i fyfyrio arnynt, deunydd darllen a argymhellir/ychwanegol, ac astudiaethau achos.
Cyflogadwyedd
Mae’r Pecyn Cymorth Datblygu Addysg yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad ar ffyrdd o ymgorffori addysg cyflogadwyedd ar lefel rhaglen a lefel modiwl, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da ac astudiaethau achos.
Rhinweddau graddedigion
Set o sgiliau a galluoedd trosglwyddadwy yw’r Rhinweddau Graddedigion a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â myfyrwyr, academyddion a chyflogwyr.
Bwriedir i'r rhinweddau hyn fod yn llinyn aur sy'n rhedeg trwy amser pob myfyriwr yng Nghaerdydd a gellir eu datblygu trwy eu hastudiaethau a thrwy gyfleoedd allgyrsiol yn eu Hysgol, ac ar draws y brifysgol ehangach. Trwy ddatblygu'r rhinweddau, byddwch yn cynyddu eich siawns o sicrhau cyflogaeth lefel raddedig fel dinasyddion byd-eang cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ymwybodol.
Cynaliadwyedd
Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a elwir hefyd yn Addysg er Cynaliadwyedd (EfS) yn cefnogi ac yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen i gyd-lunio dyfodol tecach a mwy cynaliadwy yn weithredol.
Mae dulliau addysgu a dysgu, yn ogystal â chynnwys, yn cael eu hystyried a’u cysylltu’n bwrpasol i wella myfyrdod dysgwyr, datblygiad personol, cyfranogiad cymunedol effeithiol ac ymwybyddiaeth o heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Asesu
Mae asesu’n ganolog i brofiad dysgu myfyrwyr ac yn llywio'r ffyrdd y mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ati i ddysgu. O’r herwydd, mae’n elfen allweddol ac annatod o weithgareddau cynllunio cwricwlwm.
Strategaeth asesu
Mae cynllunio ar lefel rhaglen yn eich galluogi i sicrhau bod profiad dysgu myfyrwyr yn un sy'n adeiladu drwy gydol y rhaglen, gyda dulliau asesu’n cyd-fynd â deilliannau dysgu a gweithgareddau dysgu. Mae cymryd golwg gyfannol yn hyrwyddo arfer asesu da a gall gyfrannu at ddatblygu strategaeth asesu gydlynol a chynhwysol.
Mae'r pecyn cymorth Datblygu Addysg yn canolbwyntio ar ddatblygu dull cydlynol a chyfannol o asesu lle mae’r holl elfennau asesu ac adborth (ffurfiannol a chrynodol) yn strategol gysylltiedig gyda'r bwriad o gyflawni deilliannau dysgu cyffredinol y rhaglen.
Datblygu asesiadau
Bydd datblygu dulliau asesu sy'n blaenoriaethu tasgau y gall myfyrwyr eu defnyddio fel ‘asesu sy’n GYFYSTYR â dysgu’, ac sy’n annog ‘asesu AR GYFER dysgu’ (AfL), yn cael effaith fuddiol ar fyfyrwyr: ar eu hymgysylltiad ac ar ansawdd y deilliannau a gyflawnir yn gyffredinol. Wrth ddatblygu eich strategaeth a’ch dyluniad asesu, dylai eich rhaglen gynnwys asesiadau sy’n:
- defnyddio ystod o wahanol ddulliau
- profi deilliannau dysgu'r modiwl
- cynnig dewis o fformat cyflwyno (lle y bo’n bosibl ac yn briodol)
- gweithredu unrhyw ofynion PSRB penodol.
Mae’r Pecyn Cymorth Datblygu Addysg yn amlinellu dull mwy gweithredol o gynllunio’r cwricwlwm gan hyrwyddo amrywiaeth o ddulliau asesu ac arferion asesu.
Llwyth asesu ac amserlennu
Wrth ddatblygu eich strategaeth asesu ac adborth, rhaid ystyried yn ofalus y llwyth asesu a'r amserlen. Dylai myfyrwyr dderbyn trosolwg o derfynau amser asesu rhaglen ar ddechrau pob blwyddyn o'u rhaglen oherwydd gallai hyn effeithio ar eu dewis o fodiwlau i reoli llwyth gwaith.
Cydlyniad mewnol a chysondeb asesu
Rhaid cael cydlyniad mewnol a chysondeb yn y llwyth asesu o fewn pob rhaglen a rhwng rhaglenni sy'n rhannu modiwlau o fewn yr un ysgol.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r pwysoliadau asesu a'r cyfrif geiriau/hyd arholiad/hyd cyflwyniad cysylltiedig fod yn gyfwerth ar draws modiwlau o fewn rhaglen i sicrhau y gall myfyrwyr weld y cydlyniad a chysondeb rhwng modiwlau ar yr un rhaglen.
Dogfennaeth ategol ac enghreifftiau
Rydym wedi casglu enghreifftiau o arfer da y gellir eu rhannu ar draws pob ysgol gan ddangos sut y gellir ymgorffori’r disgwyliadau sefydliadol ym mhob un o raglenni Caerdydd. Bydd y rhain yn cael eu diweddaru'n rheolaidd wrth i fwy o raglenni fynd trwy broses cymeradwyo ac ail-ddilysu rhaglenni lwyddiannus.
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: