Adeilad John Percival
Caerdydd
CF10 3EU
Dogfennau cysylltiedig
Os na all eich meddalwedd cynorthwyol ddarllen y dogfennau hyn, gallwch ofyn am fersiwn hygyrch drwy anfon ebost at web@caerdydd.ac.uk. Nodwch enw'r ddogfen, yr offer cynorthwyol rydych yn ei ddefnyddio a'r fformat sydd ei angen arnoch.
Gallwch gael mynediad i Adeilad John Percival o Heol Colum, yn troi at Rodfa Colum.
O Heol Corbett, dilynwch y llwybr heibio Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol, mae yna oleddf byr ac ychydig yn serth, yna llwybr gwastad yn arwain at y brif fynedfa.
O rodfa Colum a’r maes parcio, dilynwch y llwybr rhwng Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ac Adeilad John Percival. Mae gan y llwybr goleddf bychan. Mae yna ddrws mynediad hygyrch wrth ochr yr adeilad (gweler mynedfeydd isod) yn agos iawn i leoedd parcio hygyrch.
Mae yna rwystr er mwyn cael mynediad i safle Rhodfa Colum a weithredir gyda cherdyn adnabod y Brifysgol. Mae yna intercom wrth y rhwystr a man diogelwch yn agos os oes angen cymorth arnoch.
Rhif ffôn y man diogelwch yw 029 2087 6711.
Unwaith rydych drwy’r rhwystr, dilynwch yr heol i’r dde ac mae Adeilad John Percival ymlaen ar y dde.
Mae yna fynediad gwastad (gyda llethr bychan iawn) a drysau llithro awtomatig wrth brif fynedfa Adeilad John Percival
Mae yna fynedfa hygyrch ar ochr yr adeilad wedi’i lleoli drws nesaf i le parcio hygyrch. Mae yna oleddf bychan yn arwain at ddrws mynediad ar ochr yr adeilad. Mae’r drws fynedfa wrth yr ochr ond yn agor gyda cherdyn adnabod dilys y Brifysgol. Os oes angen mynediad arnoch drwy’r drws, cysylltwch â’ch tiwtor neu reolwr. Mae’r darllenydd cardiau ar uchder hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
Mae yna doiled hygyrch neillryw, sydd wedi’i adnewyddu yn ddiweddar ar y llawr gwaelod (0.16A), o fewn y ffreutur. Mae yna doiled hygyrch neillryw ar y llawr cyntaf (1.65), y trydydd llawr (3.55) ac ar y pumed llawr (5.27) hefyd. Mae yna doiledau ciwbicl safonol i dynion a menywod ar bob llawr.
Mae yna dri lifft yn Adeilad John Percival. Mae dau lifft wedi’i lleoli yn agos i allanfa Rhodfa Colum. Mae gan y ddau lifft ddrychau ar y wal gefn ac mae lefelau lloriau yn cael ei nodi drwy fodd clywedol a gweledol. Mae’r lifft yn mynd o’r llawr waelod i’r bedwerydd llawr.
Mae’r trydydd lifft yn agos i’r ffreutur ar y llawr waelod, gyferbyn a’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Mae gan y lifft ddrychau ar bob ochr, canllaw ac yn mynd o’r llawr waelod i’r pumed llawr. Efallai ni fydd y lifft yn addas ar gyfer bob math neu gadeiriau olwyn gan mai hwn yw’r lifft lleiaf yn yr adeilad.
Mae yna lifft grisiau platfform rhwng y bedwaredd a’r pumed llawr ar gyfer rheiny nad yw’n dymuno defnyddio’r trydydd lifft.
Mae gan Adeilad John Percival siop goffi ar y llawr gwaelod, ac ardal seddi mawr a pheiriannau gwerthu bwyd a diod. Mae’r siop goffi wedi’i leoli ger y brif fynedfa i’r adeilad.
Gwybodaeth Hygyrchedd
Parcio
Mae gennym amrywiaeth o drefniadau hyblyg ar gyfer parcio staff and pharcio myfyrwyr ar yr campws.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae yna 20 lle parcio beic ar gyfer yr adeilad.
Cyfleusterau newid a chawodydd
Mae cyfleusterau newid a chawodydd ar gael yn rhad ac am ddim (mynediad cyfyngedig). Cysylltwch â staff lleol sy'n cefnogi'r adeiladau i gael mwy o wybodaeth.
Gwacâd
Mae'r allanfa mewn argyfwng wedi ei labelu'n glir (symbol dyn gwyrdd yn rhedeg). Cymerwch
amser i gyfarwyddo â'r allanfeydd a'r llwybrau ymadael.
Os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch chi mewn achos o wacáu brys, rhaid i chi drefnu Cynllun Gwacáu Personol (PEEP) cyn gynted ag y medrwch chi. Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'w Cyswllt Anabledd Myfyrwyr yn eu hysgol i drefnu PEEP. Bydd angen i aelodau staff roi gwybod i'w Cyswllt Anabledd Adrannol neu o fewn eu hysgol i drefnu PEEP. Cofiwch taw eich cyfrifoldeb chi yw hi i roi gwybod i'r unigolyn perthnasol bod angen PEEP arnoch.
Mewn achos o argyfwng, nid oes hawl defnyddio lifftiau. Os nad yw hi'n bosibl i chi adael yr adeilad yn ddiogel drwy ddefnyddio'r grisiau, ceir mannau lloches diogel o fewn pob twll grisiau ar bob llawr uwch (gweler y llun isod). Mae arwyddion clir yn nodi'r mannau lloches. Pan ydych chi yn y man lloches, mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r ffonau sy'n galw Adran Diogelwch y Brifysgol. Rhowch wybod iddynt am eich lleoliad a bod angen cymorth arnoch. Bydd yr Adran Diogelwch yn rhoi gwybodaeth i chi ac yn eich cysuro. Bydd angen i chi aros yn y man lloches nes cewch chi gyngor arall neu gymorth. Mae mannau lloches yn darparu gofod diogel am o leiaf 30 munud os oes tân yn yr adeilad.
Ystafelloedd cyfarfod
Enw | Capasiti | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Darlithfa 0.31 | 85 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa 0.36 | 72 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa 0.45 | 48 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa 2.01 | 164 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa 2.03 | 68 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa 2.48 | 67 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa 3.45 | 52 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa 3.46 | 64 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa 3.47 | 45 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Seminar Room 1.29a | 25 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Seminar Room 1.31 | 25 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Seminar Room 3.49 | 20 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar 0.01 | 28 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar 0.02 | 25 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar 0.03 | 12 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar 0.06 | 22 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar 0.32 | 18 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar 0.33 | 14 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar 1.09a | 12 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar 1.19 | 26 | More details | ||||||||
|
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: