Mae mynediad i gerbydau i'r maes parcio ger Residential Road, gyferbyn â Thŷ Penfro, lle mae yna ddau le parcio hygyrch.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae 152 lle i barcio beic yn y lleoliad hwn.
Gwacâd
Mewn achos o argyfwng, ni allwch ddefnyddio'r lifftiau. Os nad yw hi'n bosibl i chi adael yr adeilad yn ddiogel drwy ddefnyddio'r grisiau, ceir mannau lloches diogel o fewn pob twll grisiau ar bob llawr uwch (gweler y llun isod). Mae arwyddion clir yn nodi'r mannau lloches. Pan ydych chi yn y man lloches, mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r ffonau sy'n galw Adran Diogelwch y Brifysgol. Rhowch wybod iddynt am eich lleoliad a bod angen cymorth arnoch. Bydd yr Adran Diogelwch yn rhoi gwybodaeth i chi ac yn eich cysuro. Bydd angen i chi aros yn y man lloches nes cewch chi gyngor arall neu gymorth. Mae mannau lloches yn darparu gofod diogel am o leiaf 30 munud os oes tân yn yr adeilad.