Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Julian Hodge

Adeilad Julian Hodge
Rhodfa Colum
Caerdydd
CF10 3EU


Dogfennau cysylltiedig

Os na all eich meddalwedd cynorthwyol ddarllen y dogfennau hyn, gallwch ofyn am fersiwn hygyrch drwy anfon ebost at web@caerdydd.ac.uk. Nodwch enw'r ddogfen, yr offer cynorthwyol rydych yn ei ddefnyddio a'r fformat sydd ei angen arnoch.

Gweld Adeilad Julian Hodge ar Google Maps

Gwybodaeth Hygyrchedd

Mae mynediad i gerbydau i Adeilad Julian Hodge drwy Rodfa Colum, drwy fynedfa rhwystr a weithredir gyda cherdyn Prifysgol Caerdydd. Yr adeilad yw’r un cyntaf ar yr heol i’r dde ac mae yna 4 lle parcio hygyrch gyferbyn â’r fynedfa o faes parcio Rhodfa Colum. Gallwch hefyd gael mynediad drwy lwybr o Heol Corbett, heibio Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ac Adeilad y Dyniaethau.

Mae yna fynedfa wastad i Adeilad Julian Hodge o faes parcio’r Dyniaethau drwy ddrws awtomatig. Mae yna fynediad goleddf a drws awtomatig drwy fynediad Rhodfa Colum.

Mae’r lifft wedi’i lleoli i’r dde o fynedfa maes parcio'r Dyniaethau ac yn mynd i bob llawr.

Gallwch gael fynediad i’r ddarlithfa o fynedfa maes parcio’r Dyniaethau a mynedfa â goleddf Rhodfa Colum, mae’r ddarlithfa yn syth ymlaen ac i’r dde.

Mae yna fynediad gwastad i blaen Darlithfa Julian Hodge. Mae yna 5 le i gadeiriau olwyn yn y blaen, 2 sefydlog, 3 gellir eu symud a 2 ddesg hygyrch. Mae’r ddarlithfa wedi’i osod â goleuadau adlewyrchol a chylchwifren ar gyfer pobl â nam ar y clyw.

Mae Lolfa Adeilad Julian Hodge yn ardal fwyta hygyrch ar y llawr gwaelod sy’n gweini bwyd poeth. Mae Oriel Dolce Vita ar y llawr cyntaf, sef bar byrbryd hygyrch gyda lleoedd eistedd.

Mae yna doiled neillryw hygyrch ar y llawr gwaelod (rhif ystafell 0.17) a’r ail lawr (2.03).

View access information on DisabledGo

Parcio

Mae gennym amrywiaeth o drefniadau hyblyg ar gyfer parcio staff and pharcio myfyrwyr ar yr campws.

Cyfleusterau newid a chawodydd

Nid yw’r cyfleusterau cawod a newid ar gael ar hyn o bryd.

Lleoliad ffynhonnau yfed

Helpwch ni i ostwng nifer y poteli plastig untro drwy ail-lenwi eich potel ddŵr yn un o'n ffynhonnau yfed:

  • Llawr gwaelod y ffreutur - Tap ar y wal llawr gwaelod yn y bwyty (0.05)
  • 2il lawr - Toiled allanol 2.03

Lleoliad ffynhonnau yfed

Ystafelloedd cyfarfod

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Enw Capasiti
Darlithfa Julian Hodge 460 Rhagor o fanylionChevron right
Cynllun yr ystafellLecture theatre
SeddiFixed
MeicroffonLapel microphone
Wal AddysguHearing loop
Offer arallWhiteboard