Ewch i’r prif gynnwys

Ystafell Seminar Obstetreg a Gynaecoleg

Ystafell Seminar Obstetreg a Gynaecoleg

247 ystafell
Prif Adeilad yr Ysbyty
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
CF14 4XN

Rhagor o wybodaeth am yr adeilad hwn


Archebu ystafell

Gallwch archebu’r ystafell hon ar gyfer gweithgaredd astudio penodol drwy eich Tiwtor neu aelod staff. Gall cymdeithasau gadw lle drwy ebostio: societies@caerdydd.ac.uk.

Dylai’ch defnydd o’r ystafell hon gydymffurfio gyda thermau ac amodau’r Brifysgol.


Gweld Ystafell Seminar Obstetreg a Gynaecoleg ar Google Maps

Manylion ystafell

Cynllun yr ystafellSeminar room
Capasiti50
DangosyddProjector/large display (1), Audio playback
Recordio Learn PlusLectern PC, Lectern microphone
ArallWhiteboard, Fixed projection screen

Mynediad

Llwybr hygyrch

Ewch yn y lifft o’r cyntedd i’r llawr uwchben (llawr gwaelod). Ewch i ben draw’r coridor i’r cyntedd mawr wrth y lifftiau, ac ewch yn y lifft i’r llawr gwaelod uchaf. Ewch i’r dde o’r cyntedd wrth y lifftiau a dilynwch y coridor i’r chwith; mae ystafell seminar Obstetreg a Gynaecoleg rownd y gornel ar y chwith.

Llwybr arall (sy’n cynnwys grisiau)

O’r cyntedd, ewch i fyny’r grisiau i’r llawr gwaelod a cherdded i lawr y coridor. Ewch heibio coridorau’r cleifion allanol ar y dde a’r chwith, gan anelu at Radioleg a lifftiau bloc B.

Pan welwch y dderbynfa Radioleg ar y dde, ewch i fyny’r grisiau sydd ar y chwith i’r llawr gwaelod isaf.

Ar ben y grisiau hyn, trowch i lawr y coridor sy’n cysylltu B a C. Ym mhen draw cyswllt B-C trowch i’r chwith ac i’r dde ar unwaith drwy set o ddrysau dwbl. Wrth i chi gerdded i lawr y coridor, mae ystafell seminar Obstetreg a Gynaecoleg tua hanner ffordd i lawr y coridor, ar y dde.