Ystafell Ddosbarth 1, Y Prif Ysbyty
Classroom 1 ystafell
Prif Adeilad yr Ysbyty
Ysbyty Athrofaol Cymru
Parc y Mynydd Bychan
CF14 4XN
Rhagor o wybodaeth am yr adeilad hwn
Golygfa 360°
360° viewArchebu ystafell
Gallwch archebu’r ystafell hon ar gyfer gweithgaredd astudio penodol drwy eich Tiwtor neu aelod staff. Gall cymdeithasau gadw lle drwy ebostio: societies@caerdydd.ac.uk.
Dylai’ch defnydd o’r ystafell hon gydymffurfio gyda thermau ac amodau’r Brifysgol.
Cymorth technegol
+44 (0)29 2251 2345
Manylion ystafell
Cynllun yr ystafell | Seminar room |
---|---|
Seddi | Flexible |
Capasiti | 18 |
Dangosydd | Projector/large display (1), Audio playback |
Recordio Learn Plus | Lectern PC, Lectern microphone |
Mynediad
Mae’r ystafell addysg ar y llawr gwaelod uchaf ym mloc A.
Llwybr hygyrch
Ewch yn y lifft o’r cyntedd i’r llawr uwchben (llawr gwaelod). Ewch i ben draw’r coridor i’r cyntedd mawr wrth y lifftiau, ac ewch yn y lifft i’r llawr gwaelod uchaf. Ewch i’r dde o’r cyntedd wrth y lifftiau, a dilynwch y coridor ar y dde. Dilynwch y coridor yn syth ymlaen, i’r dde a thrwy’r bwyty. Mae ystafell ddosbarth 1 gyferbyn â’r Ystafell Gyffredin.
Llwybr arall (sy’n cynnwys grisiau)
O’r cyntedd, ewch i fyny’r grisiau i’r llawr gwaelod a cherdded lawr y coridor. Ewch heibio coridorau’r cleifion allanol ar y dde a’r chwith, gan anelu at Radioleg a lifftiau bloc B.
Pan welwch y dderbynfa Radioleg ar y dde, ewch i fyny’r grisiau sydd ar y chwith i’r llawr gwaelod isaf.
Trowch i’r chwith ar ben y grisiau a cherdded i ben draw’r coridor lle byddwch yn dod o hyd i swyddfa diogelwch yr ysbyty a Darlithfa 3. Trowch i’r dde a phasio lifftiau bloc A a cherdded trwy fwyty ‘Y Gegin’ (‘Heathfields’ gynt, ac mae llawer o bobl yn dal i ddefnyddio’r enw hwn).
Wrth adael y bwyty, ewch drwy’r drysau dwbl ar y chwith i goridor yr Ystafell Addysg. Mae ystafell ddosbarth 1 ar yr ochr dde.
Cyfleusterau
Gliniaduron: Cysylltedd di-wifr i'r taflunydd sydd yn bosib o liniadur yn yr ystafell hon. Nid oes gwifrau HDMI neu gebl VGA.