Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgell Sgwâr Canolog

Llyfrgell Sgwâr Canolog

Sgwâr Canolog
CF10 1FS

Rhagor o wybodaeth am yr adeilad hwn


Oriau agor

Oriau agor gwyliau'r Nadolig

20 Rhagfyr: 8:00-16:00

21 Rhagfyr-1 Ionawr: Ar gau

O 2 Ionawr: Oriau agor semester arferol
Dydd Llun 08:00-17:00
Dydd Mawrth 08:00-17:00
Dydd Mercher 08:00-17:00
Dydd Iau 08:00-17:00
Dydd Gwener 08:00-17:00
Dydd Sadwrn Ar gau
Dydd Sul Ar gau

Mae’r oriau agor hyn ar gyfer yr wythnos hon.


Cysylltu â ni

Llyfrgell Sgwâr Canolog

Cyswllt anabledd y llyfrgell


Llyfrgellwyr pwnc

Andrew Blackmore

  • Llyfrgellydd Pwnc (Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant / Addysg Barhaus a Phroffesiynol)
  • Emailblackmoreah@caerdydd.ac.uk
  • Telephone+44 (0)29 2251 0198

Gwybodaeth

Mae Llyfrgell y Sgwâr Canolog ar gael ar gyfer staff a myfyrwyr yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn unig gan fod perchnogion yr adeilad wedi cyfyngu ar fynediad i’r adeilad.

Gall pob aelod arall o lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd wneud cais am eitemau o Lyfrgell Sgwâr Canolog drwy ddefnyddio Chwilio’r Llyfrgell (LibrarySearch) a’i gasglu o unrhyw un o lyfrgelloedd y Brifysgol. Gall unrhyw eitem gael ei chasglu neu ei dychwelyd i dderbynfa’r Sgwâr Ganolog yn ystod yr oriau pan mae staff yn gweithio yno (08:00-18:00 ddydd Llun i ddydd Gwener).

Mae Llyfrgell y Sgwâr Canolog ar y llawr gwaelod, llawr y mesanîn a llawr cyntaf yr adeilad.

Gwyliwch ein canllaw fideo byr dan arweiniad myfyrwyr i Llyfrgell Sgwâr Canolog ym Mhrifysgol Caerdydd.

Llawr gwaelodMan astudio tawel, terfynell benthyg hunan-wasanaeth.
Llawr mesanînCyfnodolion a DVDs. Y Casgliad Lles 3 mis o bob papur newydd dalen lydan a thabloid a gyhoeddir yn y DU yn ogystal â'r Echo a'r Western Mail.
Llawr cyntaf

Casgliadau llyfrau / monograffau, terfynell benthyg hunan-wasanaeth, traethodau hir, desg ymholiadau'r llyfrgell, chyfrifiaduron mynediad agored a benthyciadau gliniaduron.

Gwasanaethau a chyfleusterau

Yn yr adeilad, rydyn ni’n cynnig y gwasanaethau a’r cyfleusterau canlynol er hwylustod ichi, ac i gefnogi eich anghenion astudio:-

  • Toiledau (dynion, menywod, rhywedd-niwtral a hygyrch)
  • Ffynhonnau dŵr a mannau dŵr poeth
  • Peiriannau gwerthu bwyd a diod
  • Loceri storio
  • Gliniaduron at ddefnydd myfyrwyr, clustffonau, ceblau gwefru a chitiau ysgrifennu ar y bwrdd gwyn, y cyfan yn fenthycadwy
  • Lle cyfnewid ffuglen
  • Lle ymlacio at ddibenion lles

Mannau Astudio

Mae gan y Llyfrgell amrywiaeth o barthau distaw, tawel a chymdeithasol gydag amrywiaeth o fannau astudio gan gynnwys desgiau gyda neu heb socedi trydanol, desgiau y gellir eu haddasu ar gyfer uchder a chyfrifiaduron mynediad agored.

Mae ystafelloedd astudio llyfrgell yn caniatáu i chi ddod o hyd i ystafelloedd astudio a'u neilltuo mewn llyfrgelloedd ar draws y Brifysgol.

Mynediad

Mae Llyfrgell y Sgwâr Canolog ar gael ar gyfer staff a myfyrwyr yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn unig. Mae angen cerdyn adnabod Prifysgol Caerdydd dilys i gael mynediad.

  • mae toiledau hygyrch ar bob llawr yn yr adeilad
  • mae ramp i'r lifft ar ochr chwith desg y dderbynfa
  • fe wnaiff staff estyn llyfrau ar eich cyfer oddi ar y silffoedd - gofynnwch am gymorth