Ewch i’r prif gynnwys

Arloesedd Caerdydd@sbarc

sbarc|spark
Heol Maendy
Cathays
CF24 4HQ

Rhagor o wybodaeth am yr adeilad hwn


Oriau agor

Dydd Llun 09:00-17:00
Dydd Mawrth 09:00-17:00
Dydd Mercher 09:00-17:00
Dydd Iau 09:00-17:00
Dydd Gwener 09:00-17:00
Dydd Sadwrn Ar gau
Dydd Sul Ar gau

Mae’r oriau agor hyn ar gyfer yr wythnos hon.


Gwybodaeth

Bydd Arloesedd Caerdydd yn sbarc yn gartref i bobl a chyfleusterau sy'n helpu i ddefnyddio syniadau gwych i sbarduno twf ledled Cymru a thu hwnt. Wedi'i leoli yn adeilad sbarc I spark yng nghanol Campws Arloesi £300 miliwn y Brifysgol, dyma fydd canolbwynt meithrin a datblygu partneriaethau diwydiannol.

Bydd y Ganolfan yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau newydd:

  • 17,500 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa y gellir ei roi ar osod, gydag opsiynau rhwng 226 troedfedd sgwâr a 1163 troedfedd sgwâr
  • 4800 troedfedd sgwâr o ofod cyd-weithio
  • Ystafelloedd cyfarfod ffurfiol ac anffurfiol sy'n cynnwys cyfleusterau cynadledda o’r radd flaenaf
  • Mynediad at gynghorwyr proffesiynol ar y stryd fawr
  • Gofod cyd-weithio pwrpasol ar gyfer entrepreneuriaid sy’n fyfyrwyr/graddedigion
  • Mannau arddangos/cyflwyno ar y cyd
  • 4240 troedfedd sgwâr o labordai gwlyb (gan gynnwys siambrau mwg unigol ac a rennir)
  • Band eang cyflym
  • Caffi Llaeth a Siwgr
  • Desgiau gweithio hyblyg a mannau cydweithio
  • Derbynfa ganolog
  • Mannau cynadledda/digwyddiadau hyd at 200 o bobl
  • Mynediad ar gyfraddau cystadleuol at wasanaethau a chyfleusterau'r Brifysgol.