Ewch i’r prif gynnwys

Diweddariad gan y Rhag Is-Gangellorion (01.06.20)

1 Mehefin 2020

Kim Graham and Claire Morgan

Darllenwch neges gan y Rhag Is-Ganghellor, yr Athro Kim Graham a Claire Morgan a anfonwyd at fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig heddiw (1 Mehefin) i roi’r newyddion am ein hymateb i argyfwng y Coronafeirws.

Annwyl bawb,

Yn dilyn gohebiaeth flaenorol yr Is-Ganghellor, roeddem am ddiolch i chi am barhau i fod yn amyneddgar gyda’r symud i weithio o bell yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19 y Brifysgol. Gwyddom i’r sefyllfa hon greu ansicrwydd i chi, ac mewn rhai achosion iddi effeithio ar waith ymchwil, fel casglu data, mynediad at labordai, ymweliadau astudio a recriwtio cyfranogwyr newydd i astudiaethau. Roedd hi’n allweddol i ni gymryd y cam hwn er mwyn gallu sicrhau eich diogelwch chi, yn ogystal â diogelwch ein staff a’n cyfranogwyr ymchwil, a hynny’n cyd-fynd â’r ymdrechion cenedlaethol i leihau lledaeniad Covid-19.

A ninnau bellach yn dechrau gweld cwymp yn nifer yr achosion, a’r marwolaethau, diolch byth, o Covid-19, roeddem eisiau ysgrifennu a rhoi diweddariad i chi am y camau yr ydym wedi’u rhoi yn eu lle yn barod i gefnogi ein myfyrwyr ôl-raddedig ymchwil, yn ogystal â’r camau y byddwn yn ceisio eu datblygu a’u rhoi ar waith wrth symud ymlaen.

Mesurau cefnogi sydd eisoes wedi’u rhoi ar waith

Wrth i ni symud yn gyflym i’r cyfyngiadau symud ym mis Mawrth, sylweddolon ni fod angen gwneud newidiadau i’r ffordd yr oeddem yn gweithio er mwyn rhoi cymorth yn syth i’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Roedd y rhain yn cynnwys:

Cronfeydd Caledi: Sicrhau bod myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn gallu cael mynediad hawdd at Raglen Cymorth Ariannol y Brifysgolsy’n rhoi taliadau sy’n dibynnu ar brawf modd i fyfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol.

Arholiadau llafar: Caniatáu i draethodau ymchwil gael eu cyflwyno’n electronig a chynnig cyfle i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gynnal arholiadau llafar ar-lein os oedden nhw’n dymuno, gan sicrhau na fyddai unrhyw oedi o ran cwblhau eu hastudiaethau. Mae’r digwyddiadau ar-lein hyn wedi gweithio’n wirioneddol dda, ac rydym bellach yn ystyried sut gallem barhau i gynnig y dewis hwn i fyfyrwyr yn y dyfodol, fel y bo’n ofynnol.

Monitro Cynnydd Blynyddol: Cafodd y ffurflenni Monitro Cynnydd Blynyddol ar draws y Brifysgol eu diwygio, am y ddau reswm canlynol:

Yn gyntaf, roeddem eisiau sicrhau bod pob myfyriwr ôl-raddedig ymchwil yn parhau i gael cymorth academaidd a phersonol effeithiol tra oedden nhw’n gweithio o bell. Roedd hyn yn cynnwys eich helpu i ddiwygio eich cynlluniau ymchwil i liniaru unrhyw effeithiau posibl gan Covid-19 ar eich astudiaethau, yn ogystal â rhoi mewnbwn i’ch cefnogi i reoli heriau ychwanegol fel cyfrifoldebau gofalu.

Lle roedd effaith ar gasglu data allweddol, rydym wedi annog myfyrwyr i ganolbwyntio ar rannau craidd eraill o astudiaethau ôl-raddedig, gan gynnwys darllen llenyddiaeth ac adolygiadau, hyfforddiant a chaffael sgiliau newydd drwy adnoddau ar-lein ac ysgrifennu’r ymchwil a / neu benodau. Mae hyn wedi galluogi nifer o’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i barhau gyda’u hymchwil, er ein bod yn cydnabod bod effeithiau ar gasglu data a mynediad at lyfrgelloedd a chyfleusterau’r Brifysgol yn achos pryder i chi o hyd (gweler yr adran ar gael mynediad at gyfleusterau isod).

Roedd y pryder ofal hwn yn sail i’r ail reswm am ein newid i fonitro cynnydd blynyddol, yn benodol fel y gallem eich sicrhau bod gennych gyfle i roi gwybod am unrhyw effeithiau gan Covid-19 ar eich astudiaethau. Drwy gydol eich amser yng Nghaerdydd, byddwn yn parhau i gofnodi unrhyw effeithiau sy’n gysylltiedig â Covid-19 drwy eich monitro cynnydd blynyddol, gan sicrhau trafodaethau parhaus ynghylch cynlluniau ymchwil amgen, a rhoi ymdeimlad da i ni o effaith Covid-19 ar ein cymuned ymchwil ôl-raddedig.

Estyniadau heb gost: Er mwyn ymateb i geisiadau gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, newidion ni ein gweithdrefnau fel y gall myfyrwyr blwyddyn olaf, sydd o fewn chwe mis i’w dyddiad cau cyflwyno, wneud cais am estyniad heb gost, yn gysylltiedig â Covid-19, i’w dyddiad cyflwyno o hyd at dri mis, lle y bo’n ofynnol.  Nod hyn oedd lleihau unrhyw bryderon uniongyrchol a allai fod wedi bod gan ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ynghylch cwblhau eu traethawd ymchwil erbyn dyddiad cau heriol, yn enwedig wrth i ni symud i weithio o bell.

Gwe dudalennau: Llunion ni dudalennau penodol i ymchwilwyr ôl-raddedig ar ein gwefan, gan sicrhau y gallech chi ddod o hyd i wybodaeth yn hawdd am y gefnogaeth yr oeddem yn ei rhoi yn ei lle i’ch helpu. Rydym yn diweddaru’r rhain yn rheolaidd, ac maen nhw’n ffynhonnell wybodaeth dda am yr holl waith yr ydym yn ei wneud i helpu ein myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Mesurau cymorth eraill sy’n cael eu datblygu

Gan ein bod bellach yn cael ymdeimlad gwell o sut gallai’r ychydig fisoedd nesaf edrych i’r Brifysgol rydym yn dechrau ystyried ffyrdd eraill y gallwn gynnig rhagor o gymorth i chi. Mae’r rhain yn cynnwys:

Cael mynediad at gyfleusterau: Erbyn hyn mae uwch dîm rheoli’r Brifysgol wedi cytuno ar gynllun fesul cam er mwyn dychwelyd i labordai. Mae’r egwyddorion sy’n llywio’r dull hwnnw yn cynnwys: (a) sicrhau diogelwch staff a myfyrwyr; (b) cael ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddychwelyd yn araf i’r cyfleusterau, ar sail blaenoriaeth; ac (c) adeiladu nifer yr ymchwilwyr yn y Brifysgol, wrth geisio cydbwyso gofynion addysgu ac ymchwil yn nhymor yr Hydref. Fel rhan o’r gwaith hwnnw byddwn yn edrych yn benodol ar sut gallwn sicrhau cymorth i’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, yn enwedig y rhai ohonoch chi sydd ar bwyntiau allweddol wrth gasglu data yn eich doethuriaeth, a lle mae angen mynediad ar fyrder i gyfleusterau’r Brifysgol.

Asesu arholiadau llafar terfynol yn gefnogol: O gofio nad yw’n hawdd i ni gael pob aelod o staff a myfyriwr ymchwil ôl-raddedig i ddychwelyd i’r Brifysgol ar hyn o bryd, yn ogystal â’r posibilrwydd y gall Covid-19 darfu yn y dyfodol (e.e. petai rhagor o gyfnodau o gyfyngiadau symud), rydym eisiau sicrhau bod yr arholiad llafar terfynol ar gyfer pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn asesu’r hyn y bu’n bosibl gwneud cynnydd arno wrth wneud ymchwil yn ystod y pandemig. Felly, rydym ar fin dechrau gweithio ar ddulliau asesu arholiadau llafar sy’n canolbwyntio ar ansawdd yn hytrach na maint. Bwriad y rhain fydd cefnogi’r myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig hynny sydd wedi profi effeithiau mawr ar gasglu data na fydd hi’n hawdd eu cywiro. Byddwn yn ymgynghori â chydweithwyr ar draws y Brifysgol, ac â myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ystod y broses hon.

Addysgu: Yn ystod y tymor academaidd nesaf, efallai bydd angen i ni addasu ein darpariaeth dysgu ac addysgu er mwyn bodloni gofynion cadw pellter cymdeithasol.  Bydd hyn yn cynnwys darpariaeth ar-lein i gyd-fynd â dosbarthiadau a gynhelir ar y campws.  Rydym yn awyddus i sicrhau bod gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gyfleoedd i addysgu yn ystod y flwyddyn, lle mae’n ddiogel iddyn nhw wneud hynny.  Byddwn yn gweithio gyda Deoniaid Ôl-raddedig Colegau i ystyried beth yw’r ffordd orau o gynnig y cyfleoedd hynny’n ddiogel, a pha hyfforddiant a chymorth ychwanegol sydd eu hangen i’ch helpu i gyflwyno addysgu o ansawdd uchel i’n myfyrwyr israddedig. Bydd adborth a mewnbwn gan fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n cefnogi ein haddysgu yn hanfodol wrth ddatblygu’r dulliau hyn.

Estyniadau wedi’u cyllido: Mae rhai cyllidwyr, fel UKRI ac Ymddiriedolaeth Wellcome, wedi cyhoeddi estyniadau wedi’u cyllido i’w myfyrwyr PhD blwyddyn olaf. Yn y cyd-destun hwn, caiff y flwyddyn olaf ei diffinio fel y cyfnod wedi’i gyllido sy’n dod i ben rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2021. Mae’r cymorth hwn wedi creu sefyllfa lle mae gan rai myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig fynediad at gyllid i barhau â’u hastudiaethau, lle maen nhw wedi cael tystiolaeth eglur o effeithiau arwyddocaol yn gysylltiedig â Covid-19 ar eu hymchwil, tra nad yw myfyrwyr wedi’u cyllido gan y Brifysgol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael hynny.

Er mwyn rhoi sylw i’r gwahaniaeth hwn, mae tîm uwch reoli’r Brifysgol wedi cytuno i ystyried – fesul achos unigol – estyniadau wedi’u cyllido (o hyd at uchafswm o dri mis) i fyfyrwyr PhD cymwys (sydd â chyfnod cyllido sy’n dod i ben rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Mawrth 2021, a lle nad oes modd i fyfyrwyr gael cyllid gan unrhyw gorff ariannu arall). Rhoddir yr estyniadau hyn a ariennir i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n cael cyflogau PhD drwy’r Brifysgol yn uniongyrchol, ac nad ydynt yn gallu diwygio eu cynlluniau ymchwil i roi cyfrif am Covid-19 ac sy’n wynebu her sylweddol er mwyn cyflwyno eu traethawd hir heb amser ychwanegol i gwblhau gwaith allweddol. Rydym wrthi yn gweithio ar broses a set o feini prawf ar gyfer asesu’r estyniadau hyn, a byddwn yn eu darparu cyn hir.

Ar gyfer ein myfyrwyr blwyddyn 1af ac 2il flwyddyn, byddwn yn mynd ati i ddeall maint effaith Covid-19 yn well. Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â gwaith sydd gan UKRI ar y gweill ar y myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig blwyddyn 1af ac 2il flwyddyn y mae’r Cynghorau’n eu cefnogi. Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i weithio’n galed i roi amrywiaeth o fesurau cefnogi eraill ar waith i chi, fel (a) cynlluniau ymchwil wedi’u diwygio; (b) monitro effeithiau sy’n gysylltiedig â Covid-19 drwy fonitro cynnydd blynyddol; (c) asesu cefnogol yn yr arholiad llafar terfynol; yn ogystal â (ch) parhau i roi mynediad at gronfeydd caledi fel y bo’n ofynnol.

Lobïo’n Allanol: Rydym yn sylweddoli bod hwn yn gyfnod heriol i bob aelod o’n staff, i’n hymchwilwyr ôl-ddoethurol, yn ogystal ag i’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Mae ein cymuned ymchwil wedi dangos hyblygrwydd a chadernid enfawr mewn sefyllfa wirioneddol anodd, ac rydym yn dal i fod yn hynod o ddiolchgar i chi am eich amynedd wrth i ni weithio gyda chi i ddeall y ffordd orau i ni eich helpu. Fel rydym wedi’i wneud o ddechrau cyfyngiadau symud y DU, byddwn yn parhau i ddadlau gyda chyllidwyr a llywodraethau dros gael cymorth ariannol ychwanegol i ymchwil, fel ein bod mewn sefyllfa well i liniaru effeithiau Covid-19 ar ein hymchwilwyr iau.

I gloi, eich llesiant a’ch diogelwch chi yw ein blaenoriaeth o hyd, ac felly cofiwch edrych ar y wybodaeth yr ydym wedi’i rhoi ar ein tudalennau gwe sy’n rhoi rhagor o ddolenni a chyngor ynghylch llesiant. Hefyd, mae’n bwysig eich bod yn parhau i drafod yn rheolaidd â’ch cyfarwyddwr ynghylch sut i wneud eich ymchwil o bell, a sut gallech chi ddiwygio eich cynlluniau ymchwil i addasu i’r tarfu sy’n gysylltiedig â Covid-19. Yn y cyfamser, da chi, cymerwch ofal ohonoch chi eich hunain, ac o’ch anwyliaid. Edrychwn ymlaen at fod gyda’n gilydd i gyd unwaith eto yn y Brifysgol pan fydd hynny’n bosibl.

Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, naill ai drwy 
PVC-Research@caerdydd.ac.uk (Kim Graham) neu PVC-Education@caerdydd.ac.uk (Claire Morgan). Mae eich Deoniaid Ôl-raddedig a’ch Cyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-raddedig Coleg ar gael i’ch helpu hefyd, i roi cyngor fel y bod angen, neu i helpu i’ch cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth eraill a fydd yn sicrhau y gallwch barhau i fod yn llwyddiannus yn eich astudiaethau.