Ewch i’r prif gynnwys

Neges gan y Rhag Is-Ganghellor: 01.06.20

1 Mehefin 2020

Claire Morgan is Pro Vice-Chancellor, Education and Students.
Pro Vice-Chancellor, Education and Student Experience, Claire Morgan

Darllenwch neges gan y Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr heddiw (1 Mehefin) ynghylch cynllunio ar gyfer sesiwn academaidd 2020/21.

Annwyl fyfyriwr,

Ysgrifennaf atoch i roi'r diweddaraf i chi ar y newidiadau sy'n cael eu rhoi ar waith yn y Brifysgol er mwyn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Yn ddiweddar, rwyf wedi cael fy mhenodi i rôl Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr (gallwch ddarllen rhagor am fy rôl yma), ac mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn brysur iawn o ran gwneud popeth posibl i sicrhau bod eich diogelwch a'ch lles yn dod gyntaf, wrth barhau i roi mesurau yn eu lle i'ch galluogi i barhau â'ch dysgu yng Nghaerdydd.

Diolch am eich ymgysylltiad positif wrth i ni wneud newidiadau cyflym i ddysgu o bell dros y misoedd diwethaf. Rydym ni’n gwybod bod y coronafeirws (COVID-19) wedi creu llawer o ansicrwydd i chi, o ran y newidiadau i’ch addysg nawr ond hefyd o ran y cynlluniau a’r gobeithion sydd gennych o bosibl ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Yn gyntaf, rwyf eisiau eich cysuro mai agor ein campws ym mis Medi 2020 yw ein cynllun, ac rydym yn gweithio i wneud i’r campws a’n preswylfeydd myfyrwyr gydymffurfio â chanllawiau’r llywodraeth. Byddaf yn dweud ychydig mwy wrthych am sut gallai hyn fod yn wahanol i bryd roeddech chi ar y campws ddiwethaf.

Cynlluniau ar y gweill i ailagor adeiladau’r campws
Ein ffocws yw creu amgylchedd diogel i chi astudio a dysgu ynddo, ac rydym yn trafod gyda'r llywodraeth ar sut i ail-agor prifysgolion yn ddiogel. Yng Nghaerdydd rydym ar hyn o bryd yn ystyried pob adeilad academaidd ac yn pennu’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid sydd eu hangen i’w ailagor, gan flaenoriaethu diogelwch staff, myfyrwyr ac ymwelwyr. Mae'r cynllun hwn hefyd yn cynnwys y llyfrgell, labordai, gwasanaethau TG a gofod astudio a chymdeithasol ehangach.  Byddwn yn rhoi'r diweddaraf i chi maes o law ar ein cynlluniau, ynghyd â'r mesurau diogelwch a hylendid yr ydym yn eu rhoi ar waith.

Myfyrwyr sy'n graddio
Os ydych yn fyfyriwr israddedig yn eich blwyddyn olaf, efallai eich bod yn ystyried canlyniad eich gradd a'ch seremoni raddio. Yn rhan o'n Polisi Rhwyd Diogelwch, cyn bo hir byddwch yn gallu gweld eich marc 'Cyfartaledd B' ar SIMS yn eich Cofnod Academaidd. Bydd pob marc 'Cyfartaledd B' yn rhai dros dro nes iddynt gael eu cadarnhau gan Fwrdd Arholi eich Ysgol, lle byddant yn ystyried hyn ochr yn ochr â’ch Cyfartaledd Gradd i sicrhau nad yw unrhyw fyfyriwr dan anfantais oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19). Byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth â chi drwy Newyddion Myfyrwyr pan fydd ar gael.

Mae'r Tîm Graddio hefyd yn gweithio ar opsiynau amrywiol i ddathlu eich bod chi'n graddio, ac mae hyn yn cynnwys cyfle i gael dathliad rhithwir yn yr haf. Byddwn yn cyhoeddi'r trefniadau ar gyfer hyn yng nghanol mis Mehefin.

Mae'r seremonïau graddio wedi'u gohirio tan y flwyddyn nesaf gyda dathliadau rhithiol ychwanegol yn cael eu cynnal eleni er mwyn i chi gael dathlu derbyn eich gradd.  Mae'r cynlluniau ar waith a bydd manylion llawn yn cael eu rhannu gyda phob myfyriwr yn ei flwyddyn olaf ganol mis Mehefin.

Y flwyddyn academaidd nesaf
Gwyddwn mai un o'ch prif bryderon yw sut beth fydd eich profiad fel myfyriwr o fis Medi ymlaen, ac rwyf eisoes wedi amlinellu sut rydym yn bwriadu ail-agor y campws, gan sicrhau bod eich iechyd a’ch diogelwch wrth wraidd pob un o'n penderfyniadau ar hyn.

Bydd angen hefyd edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o gyflawni profiad Prifysgol Caerdydd heb gyfaddawdu ein gofynion o ran iechyd cyhoeddus. Felly, mae angen i'n dull dysgu ac addysgu fod yn hyblyg ac yn addasol, er mwyn sicrhau eich bod yn dal i gael profiad dysgu o'r radd flaenaf fydd yn eich helpu i lwyddo.

Ni fydd darlithoedd mawr yn cael eu cynnal ar y campws, felly byddwn yn parhau â gweithgareddau a dosbarthiadau dysgu ysgogol a gwell ar-lein, ochr yn ochr ag addysgu a dysgu ar y campws.  Lle bo modd bodloni gofynion pellter cymdeithasol, rydym yn ystyried addysgu mewn grwpiau bach ar y campws, megis tiwtorialau neu sesiynau clinigol, stiwdio a labordy. Mae tîm ymroddgar yn addasu ein hadeiladau ar hyn o bryd i fanteisio i'r eithaf ar y gofod addysgu, fel y gallwn gynnal cymaint o ddysgu ar y safle â phosibl.
Rydym hefyd yn ystyried sut i agor ein llyfrgelloedd i alluogi myfyrwyr ac ymchwilwyr i gael mynediad at adnoddau nad ydynt ar gael ar-lein - byddwn yn darparu gofod astudio diogel lle bo modd.

Drwy gydol y broses hon, rydym yn ymgysylltu â’n myfyrwyr ynglŷn â’u profiad o’r ffordd hon o astudio ac rydym yn adeiladu ar eu hadborth yn y deunyddiau cwrs sy’n cael eu paratoi nawr. Cyn bo hir, byddwch yn cael gwahoddiad i lenwi arolwg byr fel y gallwn dderbyn eich mewnbwn ac fel bod modd i chi gyfrannu'n uniongyrchol at lywio ein darpariaeth addysg yn y sesiwn academaidd newydd. Rydym hefyd yn gweithio gydag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd er mwyn ystyried agweddau eraill ar fywyd myfyrwyr yn 2020/21.

Wrth gwrs, efallai bydd rhaid i agweddau eraill ar eich astudio newid. Rydym yn gweithio gyda'n hysgolion academaidd a'r gwasanaethau cymorth i ystyried dichonolrwydd teithiau astudio, blynyddoedd tramor a lleoliadau gwaith mewn ymateb i ganllawiau'r llywodraeth yn y DU ac yn rhyngwladol. Lle nad yw hi’n bosibl cyflwyno’r gweithgareddau hyn, neu os oes newid i'r ddarpariaeth, byddwn yn agored ac yn onest gyda chi, ac yn rhannu gwybodaeth â chi yn syth. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i newidiadau yn y cwricwlwm, fydd o bosibl yn gorfod cael eu rhoi ar waith oherwydd y coronafeirws (COVID-19). Rydym ni'n bwriadu cysylltu â chi ganol mis Awst i gadarnhau'r holl drefniadau er mwyn eich helpu i baratoi at ddechrau'r flwyddyn newydd.

Yn olaf, gwyddwn fod sefyllfa'r coronafeirws COVID-19 ac unrhyw ganllawiau'r llywodraeth ei sgîl yn newid yn gyflym, felly er na fyddaf yn gallu ateb pob cwestiwn sydd gennych, wrth i wybodaeth a chynlluniau ddod yn fwy eglur, byddaf yn ceisio rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf â chi'n aml.

Rydym yn parhau i ddiweddaru ein gwybodaeth am newidiadau ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), felly cadwch lygad yn rheolaidd.

Os ydych yng nghanol eich cyfnod asesu, gobeithio ei fod yn mynd yn dda. Rwy'n edrych ymlaen at rannu rhagor o ddatblygiadau â chi maes o law.

Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr