Polisi rhwyd ddiogelwch - myfyrwyr fydd yn graddio ar ôl 2020
11 Mai 2020
Ar ôl cael adborth gan fyfyrwyr, rydym wedi paratoi eglurhad pellach i fyfyrwyr fydd yn graddio ar ôl 2020. Dyma ragor o wybodaeth am y polisi rhwyd ddiogelwch.
Ni ddylai unrhyw fyfyriwr fod o dan anfantais o ran eu cyrhaeddiad o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19). Ym mis Ebrill, fe wnaethom gyflwyno polisi rhwyd ddiogelwch ar gyfer 2019/20 oedd wedi’i lywio drwy ymgynghori ag Undeb y Myfyrwyr.
Graddau a ddyfernir i fyfyrwyr fydd yn graddio ar ôl 2020
Rydym yn sylweddoli y gallai marciau ar gyfer eich asesiadau’r haf hwn gyfrannu at y radd a ddyfernir i chi.
Pan gaiff eich gradd ei dyfarnu, caiff y polisi rhwyd ddiogelwch ei ddiweddaru er mwyn sicrhau bod yr egwyddor na ddylai unrhyw fyfyriwr fod o dan anfantais o ran eu cyrhaeddiad o ganlyniad i bandemig y coronafeirws yn parhau i fod yn berthnasol ar gyfer modiwlau a gyflawnwyd yn 2019/20 sy’n cyfrannu at eich marc terfynol a dosbarthiad eich gradd.
Nid ydym yn gallu rhoi rhagor o fanylion eto am sut bydd y polisi yn cael ei roi ar waith ar gyfer dyfarnu graddau ar ôl eleni oherwydd yr ansicrwydd o’n blaenau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, a’r posibilrwydd y caiff eich astudiaethau eu tarfu ymhellach. Mae’n bosibl y bydd pandemig y coronafeirws yn tarfu ar asesiadau a gynhelir ar ôl eleni sy’n cyfrannu at eich marc terfynol a’r radd a ddyfernir i chi. Rydym am sicrhau ein bod yn gallu ymateb i’r posibilrwydd hwnnw ac, i allu gwneud hynny, mae angen i ni aros a deall lefel a natur y tarfu fel ein bod yn ymateb yn briodol ar gyfer dyfarnu eich graddau. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr holl ffactorau’n cael eu hystyried pan gaiff y polisi rhwyd ddiogelwch ei ddiweddaru ar gyfer dyfarnu graddau yn y dyfodol.
Rydym yn pwysleisio nad cael gwared ar y rhwyd ddiogelwch yw hyn. I’r gwrthwyneb, mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod y rhwyd ddiogelwch yn parhau i fod ar waith ar ôl eleni yn unol â’r amgylchiadau perthnasol.
Polisi rhwyd ddiogelwch
Diben y polisi yw gwneud beth sy'n bosibl i wneud yn siŵr bod marciau eich modiwlau ac, os ydych yn eich blwyddyn olaf, dosbarthiad eich gradd yn adlewyrchu'ch cyflawniad academaidd ar y rhaglenni gradd, ac nad yw'r dosbarthiad yn cael ei effeithio gan unrhyw ostyngiad posibl yn eich perfformiad academaidd mewn asesiadau yr ymgymerir â nhw yn ystod cyfnod cythryblus. Mae hefyd yn sicrhau:
- bod y graddau a ddyfernir gan y Brifysgol yn ddilys ac yn ddibynadwy
- o safon gyfatebol i’r graddau a ddyfarnwyd mewn blynyddoedd blaenorol
- lle bo’n briodol, yn bodloni gofynion y Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol perthnasol.
Darllenwch y manylion llawn am sut caiff y camau hyn eu rhoi ar waith yn y polisi rhwyd ddiogelwch.