Ewch i’r prif gynnwys

Dim anfantais i gyflawniad myfyrwyr

17 Ebrill 2020

Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd

Rydym yn sicrhau nad yw pandemig COVID-19 yn peri anfantais i unrhyw fyfyriwr o ran eu cyflawniad academaidd. Rhagor o wybodaeth am y polisi rhwyd ddiogelwch newydd a beth mae’n ei olygu i chi.

Mae’r polisi rhwyd ddiogelwch yn ymateb i’r tarfu a achosir gan bandemig COVID-19 (ers 16 Mawrth 2020) a, lle bo’n briodol, y tarfu a achosir gan y streicio (ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2019, a misoedd Chwefror a Mawrth 2020). Mae’r polisi rhwyd ddiogelwch yn ategol i reoliadau academaidd 2019/2020.

Diben y polisi rhwyd ddiogelwch yw gwneud yn siŵr bod marciau eich modiwlau am y flwyddyn hon, ac i fyfyrwyr blwyddyn olaf, bod y radd a ddyfernir i chi a’i dosbarth, yn adlewyrchiad teg a chywir o’ch cyflawniad academaidd. Mae’n bwysig i’r Brifysgol wneud yn siŵr nad yw marciau eich modiwlau, a lle bo’n berthnasol, nad yw dosbarth eich gradd, yn cael eu heffeithio gan unrhyw ostyngiad posibl yn eich perfformiad academaidd mewn asesiadau yr ymgymerir â nhw yn ystod y cyfnod cythryblus sydd ohoni.

Mae’r polisi rhwyd ddiogelwch hefyd yn cydnabod ei bod hi’n bwysig i chi bod safonau academaidd eich gradd yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol a bod eich gradd yn ddilys ac yn ddibynadwy, ac o safon gyfartal i raddau a ddyfernir mewn blynyddoedd blaenorol.  Lle bo’n briodol, mae angen hefyd i wneud yn siŵr bod graddau a ddyfernir gan y Brifysgol yn bodloni gofynion y Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol perthnasol.

Bydd eich Ysgol wedi rhoi gwybod i chi am newidiadau i’r dulliau addysgu ac asesu mewn ymateb i’r tarfu hyn, i sicrhau nad yw unrhyw fyfyriwr dan anfantais academaidd. Ar ben hynny, ym mis Mawrth fe wnaethon ni gadarnhau nad oes angen i chi roi gwybod am amgylchiadau esgusodol ynghylch addysgu ac asesu o bell oherwydd COVID-19 a gallwch ohirio un neu ragor o asesiadau os yw eich amgylchiadau yn eich rhwystro rhag cael eich asesu.

Mae’r polisi rhwyd ddiogelwch yn cynnig gwybodaeth bellach i egluro’r camau y bydd Byrddau Arholi yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod marciau’r modiwlau’n adlewyrchu’r safonau yr ydych wedi’u cyflawni, ynghyd â’r camau pellach i’w cymryd pan fyddwn yn pennu dosbarth i raddau.

Cyngor pellach ynghylch y polisi a beth mae’n ei olygu i chi

Ar ben hynny, ym mis Mawrth fe wnaethon ni gadarnhau nad oes angen i chi roi gwybod am amgylchiadau esgusodol ynghylch addysgu ac asesu o bell oherwydd COVID-19 a gallwch ohirio un neu ragor o asesiadau os yw eich amgylchiadau’n eich rhwystro rhag cael eich asesu.

Bydd amserlenni arholiadau o bell ar gael ddydd Mercher 22 Ebrill felly cadwch lygad am ebost yr wythnos nesaf.

Gweler ein holl wybodaeth am Coronafeirws (COVID-19) i fyfyrwyr