Ewch i'r prif gynnwys
Cardiff University logoMewnrwyd staff
Search MenuEnglish language iconEnglish

Gweithio ar y campws yn 2021/22

9 Medi 2021

People walking into Main Building

Bydd nifer cynyddol o staff yn dychwelyd i'r campws yr hydref hwn. Yma rydym yn nodi'r mesurau diogelwch a hylendid sydd ar waith i sicrhau amgylchedd gwaith diogel i bawb.

Yn ogystal ag addysgu wyneb yn wyneb, bydd yr holl wasanaethau fel cymorth addysg, cymorth i fyfyrwyr (a elwir bellach yn Fywyd Myfyrwyr), llyfrgelloedd, bwytai, llety a chyfleusterau chwaraeon yn gweithredu ar y campws.

Y mis diwethaf gwnaethom gyhoeddi ein hasesiad risg sefydliadol, a ddatblygwyd mewn ymateb i gyngor Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogwyr yn dilyn y symudiad i lefel rhybudd 0 a'r fframwaith rheoli heintiau wedi'i ddiweddaru ar gyfer addysg uwch. Mae'r asesiad risg yn darparu gwybodaeth fanwl am y mesurau y byddwn yn eu cymryd i'ch cadw'n ddiogel ar y campws.

Mae hon yn sefyllfa sy'n symud yn gyflym, a bydd ein hasesiad risg sefydliadol yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd. Byddwn yn sicrhau ein bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau drwy ystod o sianeli, gan gynnwys Blas.

Mesurau diogelwch

Mae llawer o'r nodweddion diogelwch o'r semester diwethaf dal yn bodoli. Er enghraifft, byddwn yn:

  • parhau i gynnal a monitro'r holl systemau a gosodiadau awyru wrth i'r Brifysgol ddefnyddio mwy o’i hadeiladau
  • parhau i ddarparu deunyddiau glanhau a diheintydd dwylo mewn swyddfeydd a lleoedd a rennir
  • cadw bwlch o 15 munud rhwng darlithoedd a seminarau, er mwyn caniatáu i'r myfyrwyr a'r staff lanhau'r ardaloedd hyn
  • parhau i annog pawb i gadw pellter cymdeithasol lle bo hynny'n bosibl, er na fydd unrhyw bellteroedd penodol
  • cadw'r gofyniad i bobl wisgo gorchuddion wyneb mewn ardaloedd sy'n hygyrch i'r cyhoedd a'u hannog mewn ardaloedd eraill yn ein hadeiladau. Yn ogystal, ar ôl gwrando ar adborth cydweithwyr, byddwn yn parhau i ddisgwyl i fyfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau addysgu. Wrth addysgu, gofynnir i gydweithwyr dynnu eu gorchuddion wyneb i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu deall yr hyn sy'n cael ei haddysgu (yn arbennig o bwysig i'r myfyrwyr hynny sydd efallai'n darllen gwefusau). Gall myfyrwyr hefyd gael gwared â gorchuddion wyneb wrth ofyn cwestiwn neu gyfrannu at drafodaeth.
  • wedi cadw arwyddion ar y campws sy'n pwysleisio'r angen i ddilyn arfer hylendid da bob amser. Ni fydd y system goleuadau traffig ar waith mwyach, ond bydd rhai arwyddion yn parhau i sicrhau y gallwn symud yn gyflym i ailgyflwyno rheolaethau os bydd angen. Felly, efallai y byddwch yn gweld arwyddion yn nodi systemau unffordd, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio.
  • gofynnwn i chi barchu hawliau unrhyw un a fydd efallai am fod hyd yn oed yn fwy gofalus na hynny.

Gwasanaeth Sgrinio

Ochr yn ochr â'r mesurau hyn, argymhellwn yn gryf fod staff a fydd yn treulio amser ar y campws yn defnyddio ein Gwasanaeth Sgrinio ar gyfer COVID-19 yn wythnosol.

Rydym wedi cynyddu nifer y slotiau sydd ar gael i staff fel y gallwch drefnu prawf mor aml ag y dymunwch - ar yr amod nad ydych yn dangos unrhyw symptomau o’r coronafeirws (COVID-19). Os oes gennych symptomau a/neu'n teimlo'n sâl, hunan-ynyswch a dilynwch ganllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru. Bydd myfyrwyr hefyd yn parhau i gael eu hannog i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Cyfarfodydd a sesiynau adeiladu tîm

Dylid ystyried galwadau cynhadledd neu gyfarfodydd rhithwir fel y prif opsiwn.

Lle nad yw hyn yn briodol, gellir cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, yn unol â'n hasesiad risg sefydliadolCanllawiau Llywodraeth Cymru.