Ewch i'r prif gynnwys
Cardiff University logoMewnrwyd staff
Search MenuEnglish language iconEnglish

Camau diogelwch ar y campws

13 Ionawr 2021

CU Screening Service

Rydym yn cynnig ein gwasanaeth sgrinio i ragor o staff ar y campws. Darllenwch wybodaeth sy’n eich atgoffa am sut rydym yn cadw’r campws yn ddiogel, ein data diweddaraf am achosion, ein hadnoddau cynghori a’r gefnogaeth ar gyfer staff sy’n gwarchod eu hunain.

Iechyd, diogelwch a lles ein staff a'n myfyrwyr yw ein blaenoriaeth o hyd. Er mai ar-lein y bydd y rhan fwyaf o’n haddysgu tan 22 Chwefror, mae llawer o staff a myfyrwyr sy’n cynnal ymchwil neu’n darparu gwasanaethau cefnogi ar y campws o hyd.

Rydym wedi adolygu’r Asesiad Risg Sefydliadol ac wedi gallu cadarnhau bod ein rheolyddion cyfredol yn briodol ac yn gymesur.

Mae’r Is-Ganghellor wedi cael cyngor ar y mater hwn gan arbenigwyr mewnol, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae pawb wedi cadarnhau bod ein camau cyfredol yn effeithiol o hyd.

Darllenwch ein holl ganllawiau ar gyfer staff sy'n gweithio mewn adeiladau ar y campws.

Dylai’r staff ar y campws ddefnyddio ein gwasanaeth sgrinio

Gall yr holl staff ar y campws, neu fydd yn dychwelyd i’r campws cyn bo hir, fanteisio ar ein Gwasanaeth Sgrinio am y Coronafeirws (COVID-19). Rydym yn argymell i staff sydd ar y campws gael prawf wythnosol. Byddwn yn anfon ebyst i atgoffa’r staff cymwys i ddefnyddio ein gwasanaeth. Gall staff ei ddefnyddio’n amlach er tawelwch meddwl, ac mae rhwydd hynt ganddynt fanteisio ar y gwasanaeth gynifer o weithiau ag y maent yn mynnu cyn belled nad ydynt yn asymptomatig (yn dangos unrhyw symptomau o’r coronafeirws (COVID-19)).

Rhagor o wybodaeth a threfnu prawf.

Rydym yn parhau i gyhoeddi canlyniadau ein gwasanaeth sgrinio ochr yn ochr â nifer yr achosion o’r coronafeirws (COVID-19) sydd wedi’u cadarnhau ymhlith myfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd (sy’n gweithio ar y safle). Y data diweddaraf.

Adnoddau cynghori ynghylch y coronafeirws

Rydym yn awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi cymaint o gefnogaeth â phosibl i’r staff. Mae’r canllawiau a’r adnoddau cynghori i staff a rheolwyr llinell er mwyn eu helpu i benderfynu beth i'w wneud mewn sefyllfaoedd penodol sy'n ymwneud â'r coronafeirws (COVID-19) ar gael isod.

Adnodd sy’n rhoi cyngor i staff ynghylch y coronafeirws

Gallwch ddefnyddio’r adnodd hwn os ydych yn:

  • meddwl bod gennych chi, neu gysylltiad agos, y coronafeirws
  • ansicr a ddylech fynd i’r gwaith
  • poeni ynghylch teithio i’r campws neu weithio yno

Defnyddiwch yr adnodd sy’n rhoi cyngor ynghylch y coronafeirws

Dylai unrhyw aelod staff sydd â phryderon ynghylch dychwelyd i weithio ar y campws drafod y rhain gyda'u rheolwr llinell yn y lle cyntaf, a gallwch hefyd fanteisio ar adnodd asesu risg Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithleoedd. Gall eich rheolwr llinell hefyd ofyn am gefnogaeth gan ein darparwr Iechyd Galwedigaethol pe byddai rhagor o wybodaeth gan Arbenigwr Iechyd Galwedigaethol o ddefnydd wrth nodi a oes angen addasiadau ai peidio.

Adnodd sy’n rhoi cyngor i fyfyrwyr ynghylch y coronafeirws

Gall myfyrwyr ddefnyddio’r adnodd cynghori hwn i gael gwybod beth i’w wneud a sut i gael cefnogaeth sy’n ymwneud â symptomau’r coronafeirws (COVID-19), profi a hunanynysu.

Ydych chi’n rheolwr llinell?

Mae ein hadnodd penderfyniadau yn helpu rheolwyr llinell i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen i reoli staff yn ystod y pandemig hwn. Rhowch gynnig ar yr adnodd penderfyniadau i reolwyr llinell.

Staff sy’n gwarchod eu hunain (hynod agored i niwed yn glinigol)

O 20 Rhagfyr 2020, os ydych yn cael eich ystyried fel rhywun hynod agored i niwed yn glinigol i’r coronafeirws (COVID-19) – neu’n gorfod gwarchod eich hunain fel yr oedd yn arfer cael ei alw, mae Llywodraeth Cymru yn eich cynghori i beidio â mynd i’r gwaith.

Rhagor o wybodaeth a chefnogaeth

Cefnogaeth ar gyfer staff sy’n agored i niwed yn glinigol ac sydd wedi cael llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru neu’n byw gyda rhywun sydd wedi cael un.

Cyngor ynghylch iechyd, hunanynysu ac olrhain cysylltiadau ynglŷn â’r coronafeirws (COVID-19).