Ewch i'r prif gynnwys
Cardiff University logoMewnrwyd staff
Search MenuEnglish language iconEnglish

50-51 Plas y Parc

50-51 Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3AT


Dogfennau cysylltiedig

Diogelwch yr adeilad

Os na all eich meddalwedd cynorthwyol ddarllen y dogfennau hyn, gallwch ofyn am fersiwn hygyrch drwy anfon ebost at web@caerdydd.ac.uk. Nodwch enw'r ddogfen, yr offer cynorthwyol rydych yn ei ddefnyddio a'r fformat sydd ei angen arnoch.

Gweld 50-51 Plas y Parc ar Google Maps

Gwybodaeth Hygyrchedd

Mae'r Ganolfan Cefnogi Myfyrwyr wedi ei lleoli yn 50 Plas y Parc.

Mae yna fynediad gwastad ar hyd Plas y Parc gyda phalmant isel wrth y croesfannau.

Mae yna risiau a ramp yn arwain i brif fynedfa'r Gwasanaethau Myfyrwyr. Ceir 5 stepen yn arwain i ddrws y fynedfa. Mae'r ramp yn fas a cheir 2 fan gorffwys gwastad rhwng 3 ramp byr (graddiant o 1/14, 1/9 a 1/14). Mae yna ganllaw ar hyd y ddau ochr o’r ramp ac mae'r drws i mewn i swyddfa Gwasanaethau Myfyrwyr yn awtomatig.
Mae cownter derbynfa Gwasanaethau Myfyrwyr yn isel gyda lle ar gyfer pengliniau i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Mae desg y dderbynfa wedi’i osod â chylchwifren ar gyfer pobl â nam ar y clyw. I ddefnyddio’r cylchwifren, defnyddiwch y gosodiad ‘T’ ar eich dyfais clyw.
Mae’r drysau yn arwain at yr ystafelloedd ymghynghori yn awtomataidd gyda phad cyffwrdd. Mae yna seddi a lleoedd amrywiol yn y man aros.

Mae yna doiled hygyrch ger y fynedfa, i'r dde, ger y grisiau. Mae’r drws yn ysgafn iawn i agor ac yn 800mm o hyd.

Ni does lifft yn 50 Plas y Parc ond mae'r holl wasanaethau ar y llawr gwaelod. Ceir reilen llaw ar un ochr ar y grisiau ac mae ochrau pob gris yn dangos gwahaniaeth gweledol da.

Parcio

Mae gennym amrywiaeth o drefniadau hyblyg ar gyfer parcio staff and pharcio myfyrwyr ar yr campws.

Lleoliad ffynhonnau yfed

Gwacâd

Mae llwybr yr allanfa argyfwng wedi ei labelu'n glir drwy gydol yr adeilad (dyn gwyrdd yn rhedeg). Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd gyda lleoliad yr allanfa argyfwng. Mae'r man argyfwng os oes rhaid gadael yr adeilad mewn argyfwng tu allan i ochr blaen yr adeilad.

Os ydych yn meddwl bod angen cymorth arnoch mewn achos o wacáu mewn argyfwng, mae'n rhaid i chi drefnu Cynllun Gwacáu Personol (PEEP) cyn gynted ag sy'n bosibl. Rhaid i fyfyrwyr gysylltu gyda'i Cyswllt Anabledd Ysgol i drefnu PEEP. Rhaid i aelodau staff gysylltu gyda'u cyswllt Anabledd Ysgol/Adran neu reolwr i drefnu cynllun. Cofiwch eich cyfrifoldeb chi yw i roi gwybod i'r person perthnasol bod angen Cynllun Gwacáu Personol arnoch chi.


Helpwch i wella'r dudalen hon

Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:


Helpwch i wella'r dudalen hon

Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: