Adeilad Morgannwg
Caerdydd
CF10 3WA
- +44 (0)29 2087 5179
Dogfennau cysylltiedig
Os na all eich meddalwedd cynorthwyol ddarllen y dogfennau hyn, gallwch ofyn am fersiwn hygyrch drwy anfon ebost at web@caerdydd.ac.uk. Nodwch enw'r ddogfen, yr offer cynorthwyol rydych yn ei ddefnyddio a'r fformat sydd ei angen arnoch.
Mae Adeilad Morgannwg wedi’i leoli ar Rodfa Brenin Edward VII.
Oriau Agor: 08:00-20:00 (dyddiau'r wythnos)
Mae yna fynediad gwastad o’r heol i’r palmant o flaen yr adeilad, wrth bwyntiau mynediad i gwrt blaen yr adeilad. Gallwch gael mynediad i’r maes parcio o Rodfa’r Brenin Edward VII.
Mae ymylon palamant isel ar hyd Rhodfa’r Brenin Edward VII.
Mae’r brif fynedfa i Adeilad Morgannwg drwy stepiau gyda chanllawiau. Mae yna ddrws cylchdroeog i fynd i mewn i’r adeilad.
Mae’r mynediad hygyrch i Adeilad Morgannwg, wedi’i leoli i lawr llwybr byr i’r chwith o’r adeilad. Mae’r mynediad hwn yn gyfyngedig at ddibenion diogelwch, dim ond gyda cherdyn adnabod dilys y Brifysgol y bydd yn agor. Cysylltwch â’ch tiwtor, rheolwr neu'r Adran Diogelwch os ydych yn dymuno dilysu eich carden i ddefnyddio’r drws mynediad hwn.
Mae’r darllenydd cardiau yn hygyrch o ran uchder, mae’r drws yn agor yn awtomatig pan fydd y darllenydd yn gweithredu.
Mae yna esgynfa isel yn arwain at ddrws y fynedfa at y coridor.
Ymwelwyr a defnyddwyr achlysurol: defnyddiwch yr intercom ar ochr y drws er mwyn cysylltu â’r dderbynfa er mwyn agor y drws. Rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â’r fynedfa cyn ymweld os nag oes gennych gerdyn adnabod dilys y Brifysgol.
Os ydych yn cynnal digwyddiad yn Adeilad Morgannwg, sicrhewch fod trefniadau wedi’u gwneud ar gyfer mynychwyr yn defnyddio’r fynedfa.
Gwybodaeth Hygyrchedd
Parcio
Mae gennym amrywiaeth o drefniadau hyblyg ar gyfer parcio staff and pharcio myfyrwyr ar yr campws.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae 75 lle i barcio beic yn y lleoliad hwn.
Cyfleusterau newid a chawodydd
Mae cyfleusterau newid a chawodydd rhad ac am ddim ar gael i’r HOLL staff i’w defnyddio yn y lleoliadau canlynol:
- Llawr gwaelod isaf - Ystafell -1.88
- Llawr gwaelod - Ystafell 0.64 (Hygyrch)
- Llawr gwaelod - Ystafell 0.79
Lleoliad ffynhonnau yfed
Helpwch ni i ostwng nifer y poteli plastig untro drwy ail-lenwi eich potel ddŵr yn un o'n ffynhonnau yfed:- Llawr gwaelod - Ystafell 0.11
- Llawr gwaelod - Hwb y Myfyrwyr 0.02
- Llawr gwaelod - Y tu allan i 0.60
- Llawr cyntaf - Yn agos i 1.01
- 2il lawr - Gyferbyn ag ystafell 2.20
Gwacâd
Mae'r allanfa mewn argyfwng wedi ei labelu'n glir (symbol dyn gwyrdd yn rhedeg). Cymerwch
amser i gyfarwyddo â'r allanfeydd a'r llwybrau ymadael.
Os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch chi mewn achos o wacáu brys, rhaid i chi drefnu Cynllun Gwacáu Personol (PEEP) cyn gynted ag y medrwch chi. Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'w Cyswllt Anabledd Myfyrwyr yn eu hysgol i drefnu PEEP. Bydd angen i aelodau staff roi gwybod i'w Cyswllt Anabledd Adrannol neu o fewn eu hysgol i drefnu PEEP. Cofiwch taw eich cyfrifoldeb chi yw hi i roi gwybod i'r unigolyn perthnasol bod angen PEEP arnoch.
Mewn achos o argyfwng, nid oes hawl defnyddio lifftiau. Os nad yw hi'n bosibl i chi adael yr adeilad yn ddiogel drwy ddefnyddio'r grisiau, ceir mannau lloches diogel o fewn pob twll grisiau ar bob llawr uwch (gweler y llun isod). Mae arwyddion clir yn nodi'r mannau lloches. Pan ydych chi yn y man lloches, mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r ffonau sy'n galw Adran Diogelwch y Brifysgol. Rhowch wybod iddynt am eich lleoliad a bod angen cymorth arnoch. Bydd yr Adran Diogelwch yn rhoi gwybodaeth i chi ac yn eich cysuro. Bydd angen i chi aros yn y man lloches nes cewch chi gyngor arall neu gymorth. Mae mannau lloches yn darparu gofod diogel am o leiaf 30 munud os oes tân yn yr adeilad.
Ystafelloedd cyfarfod
Enw | Capasiti | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Darlithfa S/-1.64 | 200 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Darlithfa S/0.81 | 154 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Siambr y Cyngor | 88 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Bwyllgor 1 | 80 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Bwyllgor 2 | 40 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar S/-1.55 | 25 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar S/-1.56 | 25 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar S/-1.59 | 25 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar S/-1.60 | 25 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar S/-1.61 | 80 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar S/-1.72 | 16 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar S/-1.77 | 16 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar S/-1.78 | 16 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar S/-1.80 | 76 | More details | ||||||||
|
||||||||||
Ystafell Seminar S/0.86 | 46 | More details | ||||||||
|
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: