Ewch i'r prif gynnwys
Cardiff University logoMewnrwyd staff
Search MenuEnglish language iconEnglish

Tŷ Deri

Tŷ Deri
2-4 Llwyn y Parc
Caerdydd
CF10 3BN
  • Telephone+44 (0)29 2087 0112


Dogfennau cysylltiedig

Os na all eich meddalwedd cynorthwyol ddarllen y dogfennau hyn, gallwch ofyn am fersiwn hygyrch drwy anfon ebost at web@caerdydd.ac.uk. Nodwch enw'r ddogfen, yr offer cynorthwyol rydych yn ei ddefnyddio a'r fformat sydd ei angen arnoch.

Gweld Tŷ Deri ar Google Maps

Gwybodaeth

Mae Tŷ Deri yn adeilad swyddfa pum llawr yn agos i Blas y Parc a Stryd y Frenhines.

Gall cerbydau gael mynediad i Dŷ Deri o Faes St Andrew neu Lwyn y Parc. Rydym yn argymell i ollwng ger Llwyn y Parc, yn agos i’r ymyl palmant. Mae yna barcio talu ac arddangos ar y stryd ar gael ar hyd Heol Llwyn y Parc. Gall deiliaid Bathodyn Glas barcio ar hyd Llwyn y Parc yn rhad ac am ddim.

Mae mynediad â grisiau i Dŷ Deri o Faes St Andrew. Mae yna 4 ris gyda chanllaw yn y canol. Mae gan ymylon bob gris gyferbyniad gweledol. Mae ymyl palmant ar gornel bob palmant. Mae yna oleddf isel iawn er mwyn cael mynediad i brif adeilad Tŷ Deri o Lwyn y Parc.

Mae yna un drws prif fynedfa i Dŷ Deri, sydd yn awtomatig. Mae’r ddesg dderbynfa yn y dderbynfa yn Nhŷ Deri, ymlaen i’r chwith. Mae’r ddesg yn isel ac mae staff ar gael yn ystod oriau agor. Rhif ffôn derbynfa Tŷ Deri yw +44 (0)29 2087 0112. Mae’r lefelau golau yn y dderbynfa yn dda.

Mae yna 3 toiled hygyrch yn Tŷ Deri ar y llawr gwaelod, yr ail a’r bedwaredd.

Mae yna 2 lifft yn Nhŷ Deri sydd â mynediad i’r 5 llawr. Mae botymau’r lifft ar uchder hygyrch. Mae gan y lifft ddangoswyr llawr gweledol a marciau cyffyrddol. Mae yna ddrych ar gefn y lifft er mwyn cynorthwyo wrth fynd yn ôl.

Parcio

Mae gennym amrywiaeth o drefniadau hyblyg ar gyfer parcio staff and pharcio myfyrwyr ar yr campws.

Parcio ar gyfer beiciau

Mae 20 lle i barcio beic yn y lleoliad hwn.

Cyfleusterau newid a chawodydd

Mae cyfleusterau newid a chawodydd rhad ac am ddim ar gael i’r holl staff i’w defnyddio yn ystafell 0.05 (llawr gwaelod).

Lleoliad ffynhonnau yfed

Gwacâd

Mae'r allanfa mewn argyfwng wedi ei labelu'n glir (symbol dyn gwyrdd yn rhedeg). Cymerwch amser i gyfarwyddo â'r allanfeydd a'r llwybrau ymadael.

Os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch chi mewn achos o wacáu brys, rhaid i chi drefnu Cynllun Gwacáu Personol (PEEP) cyn gynted ag y medrwch chi. Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'w Cyswllt Anabledd Myfyrwyr yn eu hysgol i drefnu PEEP. Bydd angen i aelodau staff roi gwybod i'w Cyswllt Anabledd Adrannol neu o fewn eu hysgol i drefnu PEEP. Cofiwch taw eich cyfrifoldeb chi yw hi i roi gwybod i'r unigolyn perthnasol bod angen PEEP arnoch.

Mewn achos o argyfwng, nid oes hawl defnyddio lifftiau. Os nad yw hi'n bosibl i chi adael yr adeilad yn ddiogel drwy ddefnyddio'r grisiau, ceir mannau lloches diogel o fewn pob twll grisiau ar bob llawr uwch (gweler y llun isod). Mae arwyddion clir yn nodi'r mannau lloches. Pan ydych chi yn y man lloches, mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r ffonau sy'n galw Adran Diogelwch y Brifysgol. Rhowch wybod iddynt am eich lleoliad a bod angen cymorth arnoch. Bydd yr Adran Diogelwch yn rhoi gwybodaeth i chi ac yn eich cysuro. Bydd angen i chi aros yn y man lloches nes cewch chi gyngor arall neu gymorth. Mae mannau lloches yn darparu gofod diogel am o leiaf 30 munud os oes tân yn yr adeilad.


Helpwch i wella'r dudalen hon

Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:


Helpwch i wella'r dudalen hon

Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: