Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB
- +44 (0)29 2251 8888
- Submit an enquiry
Dogfennau cysylltiedig
Os na all eich meddalwedd cynorthwyol ddarllen y dogfennau hyn, gallwch ofyn am fersiwn hygyrch drwy anfon ebost at web@caerdydd.ac.uk. Nodwch enw'r ddogfen, yr offer cynorthwyol rydych yn ei ddefnyddio a'r fformat sydd ei angen arnoch.
Gwybodaeth
Mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn gartref i'n gwasanaethau cymorth diduedd a chyfrinachol am ddim. P'un a ydych chi'n chwilio am gyngor ar gyllid, help gyda'ch iechyd a'ch lles, neu wybodaeth am yrfaoedd a chyflogaeth, mae ein timau Bywyd Myfyrwyr wrth law i helpu.
Ar ben hynny, bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cynnwys ein darlithfa fwyaf newydd a’r un fwyaf o ran maint, a llawer o leoedd astudio cymdeithasol dros bum llawr. Mae'r adeilad ar gyfer pob myfyriwr, wedi'i gynllunio gyda'ch profiad mewn golwg.
I gael mynediad i’r adeilad ar y penwythnos gall myfyrwyr a staff ddefnyddio eu cerdyn adnabod i agor y drysau neu ganu cloch y drws am gymorth. Bydd angen i ymwelwyr gael eu hebrwng gan aelod o staff.
Gall myfyrwyr hefyd gyrchu a dangos eu cerdyn adnabod trwy'r Ap Myfyrwyr.
Bydd yn agor ar y penwythnos unwaith eto o ddydd Sadwrn 21 Medi.
Yn ystod y tymor mae Canolfan Bywyd y Myfyrwyr ar agor:
- Dydd Llun i ddydd Gwener 08:00 - 22:00
- Dydd Sadwrn 08:00 - 20:00
- Dydd Sul 10:00 - 20:00
Os hoffech chi ddefnyddio’r adeilad ar ôl 18:00 bydd yn rhaid ichi ddiweddaru eich cerdyn adnabod myfyriwr i gael mynd i mewn. Dewch i weld ble gallwch chi ddiweddaru'ch cerdyn adnabod.
Gwybodaeth Hygyrchedd
Parcio
Mae gennym amrywiaeth o drefniadau hyblyg ar gyfer parcio staff and pharcio myfyrwyr ar yr campws.
Parcio ar gyfer beiciau
Mae 62 o leoedd parcio beiciau ar gael. Mae hyn yn cynnwys 8 rhesel Beiciau Sheffield, a 54 o fannau beic fertigol.
Cyfleusterau newid a chawodydd
Mae pedwar cawod i ddynion, tri chawod i fenywod, un cawod hygyrch ac un
Toiled Changing Place’ ar gael ar y llawr gwaelod.
Lleoliad ffynhonnau yfed
Helpwch ni i ostwng nifer y poteli plastig untro drwy ail-lenwi eich potel ddŵr yn un o'n ffynhonnau yfed:
- Llawr gwaelod - Pen gogleddol yr adeilad
- Llawr 1af - Pen gogleddol yr adeilad
- 2il lawr - Pen gogleddol yr adeilad
- 3ydd llawr - Pen gogleddol yr adeilad
- 4ydd llawr - Pen gogleddol yr adeilad
Ystafelloedd cyfarfod
Enw | Capasiti | |||
---|---|---|---|---|
Darlithfa Syr Stanley Thomas OBE | 550 | More details | ||
|
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant:
Helpwch i wella'r dudalen hon
Cysylltwch â golygyddion y dudalen i roi gwybod am broblem neu awgrymu gwelliant: